Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Sam Green, Angharad Jenkins, Aneirin Jones, Owen Shiers, Amanda Whiting a Tomos Williams wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn CoDI Trefnu.
Bydd y rhaglen yn dod â thri cherddor ynghyd sy'n gweithio yn bennaf mewn cerddoriaeth draddodiadol a thri sy’n gweithio yn bennaf mewn jazz, gan greu gofod unigryw lle gall cyfranogwyr ddysgu gan ei gilydd, cyfnewid syniadau ac archwilio gwahanol ddulliau o drefnu ar draws genres.
P'un a ydych eisoes yn trefnu'n rheolaidd neu'n rhoi cynnig ar drefnu am y tro cyntaf, mae'r llwybr hwn yn cynnig cyfle i arbrofi, datblygu sgiliau newydd ac ehangu eich ymarfer creadigol o dan arweiniad y mentoriaid profiadol Patrick Rimes a Paula Gardiner.
We’re pleased to announce that Sam Green, Angharad Jenkins, Aneirin Jones, Owen Shiers, Amanda Whiting and Tomos Williams have been selected to participate in CoDi Arrange.
The programme will bring together three musicians working primarily in traditional music and three working primarily in jazz, creating a unique space where participants can learn from one another, exchange ideas and explore different approaches to arranging across genres.
Whether you're already arranging regularly or you're beginning to explore arranging for the first time, this pathway offers the opportunity to experiment, develop new skills and expand your creative practice under the guidance of experienced mentors Patrick Rimes and Paula Gardiner.

Sam Green
Mae Sam Green yn ddrymiwr o Leeds sydd wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers 2021. Bu Sam yn astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Akademiet Grieg yn Bergen, Norwy. Ers graddio, mae wedi gweithio gyda cherddorion fel Tom Ollendorff a Jacqui Dankworth a Charlie Wood, yn ogystal â pherfformio’n rheolaidd gyda'i gyfoedion arobryn, Nils Kavanagh (triawd Nils Kavanagh) ac Ursula Harrison (Orbit Street), ochr yn ochr â'r band gwerin sy’n dod i’r amlwg, 'CANNA'. Y tu hwnt i'w waith fel aelod o grŵp, fe ryddhaodd Sam Rivers and Lakes, yr albwm cyntaf gan ei ensemble ei hun, ym mis Ebrill 2026 i sylw gwych gan y wasg. Fe chwaraewyd yr albwm gan BBC Radio Wales ac fe ymddangosodd yn Jazz-Wise. Mae Sam yn cynnal cyfres o breswyliadau ledled Caerdydd yn ei sîn leol ac yn teithio'n rhyngwladol.
Sam Green is drummer from Leeds and has been based in Cardiff since 2021, studying at the Royal Welsh College of Music and Drama and Grieg Akademiet in Bergen, Norway. Since graduating, he has worked with musicians such as Tom Ollendorff & Jacqui Dankworth and Charlie Wood, as well as gigging regularly with his award-winning contemporaries, Nils Kavanagh (Nils Kavanagh trio) and Ursula Harrison (Orbit Street), alongside the up-and-coming Welsh Folk band 'CANNA'. Beyond his work as a sideman, Sam released Rivers and Lakes, the debut album from his own ensemble, in April 2026 to great press, receiving plays from BBC Radio Wales and featuring in Jazz-Wise. Sam hosts a series of residencies across Cardiff in his local scene and tours internationally.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

Angharad Jenkins
Mae Angharad Jenkins yn canu’r ffidil/crwth, yn gantores, yn gyfansoddwraig ac yn chydweithredwraig greadigol o Abertawe. Wedi’i disgrifio fel ‘cameleon cerddorol’, mae hi wedi gweithio ar ymylon disgwyliadau ers amser maith. Dechreuodd ei gyrfa gyda’r band gwerin arobryn Calan, a welodd hi a’i chyd-chwaraewyr yn teithio’r byd gyda’u cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Ond ers dod yn fam mae hi wedi darganfod ei llais. Llais canu yn llythrennol, a hefyd geiriau a straeon oedd angen eu hadrodd. Yn 2023, lansiodd ei phrosiect alt-pop newydd o dan yr enw ‘Angharad’ fel cyfrwng i bortreadu llawenydd a heriau bod yn fam. Enwebwyd ei halbwm unigol cyntaf ‘Motherland’ ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2024. Mae hi’n artist amryddawn a chreadigol, ac mae ei chariad at gydweithio wedi ei harwain i weithio ar ystod o brosiectau, a gyda cherddorion ar draws y byd fel Awstralia, Corea a Llydaw. Mae’n parhau i ganu a chwarae ffidil gyda Patrick Rimes o Vrï/Calan, gyda’r pianydd jazz Huw Warren, a chyda’i mam delynores Delyth Jenkins. Mae hi’n gredwr angerddol yng ngrym celf i newid cymdeithas, ac mae’n gweithio’n rheolaidd ar brosiectau cerddoriaeth gymunedol mewn ystbytai, cartrefi henoed, ysgolion ac ar brosiect blynyddoedd-cynnar sy’n agos iawn at ei chalon, Y Prosiect Hwiangerddi.
Angharad Jenkins is a genre-agnostic fiddle/crwth-player, singer, song-writer and creative collaborator from Swansea. Described as a ‘musical chameleon,’ she has long worked at the edges of expectations. She started her career with the award-winning folk band Calan, which saw her and her bandmates travel the word with their traditional Welsh music. But since becoming a mother she has discovered her voice. Literally a singing voice, and also words and stories that needed to be told. In 2023, she launched her new, alt-pop project under the name ‘Angharad’ as a vehicle to portray the joys and challenges of motherhood. Her debut solo album ‘Motherland’ was nominated for the 2024 Welsh Music Prize. She’s a versatile and creative artist, and her love of collaboration and has lead her to work on a range of projects, and with musicians across the globe as far as Australia, Korea and Brittany. She continues to sing and play fiddle with her long-standing musical companion Patrick Rimes of Vrï/Calan, with jazz pianist Huw Warren, and with her harpist mother Delyth Jenkins. She’s a passionate believer in the power of art to change society, regularly delivering community music projects in care homes, hospitals, schools, and on the ground-breaking early-years Lullaby Project.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

Aneirin Jones
O Bontardawe yn wreiddiol, dechreuodd chwarae’r ffidil yn 7 mlwydd oed. Cafodd Aneirin fagwraeth gerddorol ddwys, yn mynychu sesiynau gwerin leol gyda’i deulu. Yn ei arddegau, aeth ar nifer o gyrsiau preswyl megis Gwerin Gwallgo (Trac Cymru) tra’n ennill arian poced swmpus bron bob penwythnos yn perfformio mewn tafarnau a thwmpathau. Dychwelodd yn ôl i Gymru ar ôl cyfnod yng Nglasgow, yn datblygu ei grefft ymhellach wrth astudio Cerddoriaeth Draddodiadol yn y Royal Conservatoire of Scotland. Mae Aneirin yn barod wedi cael gyrfa gyffrous iawn yn rhyddhau albymau arobryn a pherfformio fel aelod o fandiau gwerin fwyaf adnabyddus y sîn (Vrï a Pendevig i enwi rhai). Mae’n fraint enfawr iddo gael rhannu cerddoriaeth Gymreig gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd (India, Canada a Llydaw ymysg lawer o lwyfannau rhyngwladol arall). Yn awr mae’n dechrau’r daith fel artist solo, yn mireinio’r hen alawon a chaneuon dysgodd fel plentyn, gan gynnwys ambell i gyfansoddiad gwreiddiol. Mae’r cyffro diddiwedd a’r teimlad trosgynnol o chwarae jigs, reels a chanu gwerin yn graidd i’w set. Gyda Rhys Morris ar guitar (Avanc). Mae Aneirin hefyd yn athro hynod o brofiadol, yn diwtor rheolaidd ar Gwerin Gwallgo (Cwrs Ieuenctid Trac Cymru), ac yn un o gyfarwyddwyr Ffidil Fawr CBC (ac yn diwtor ffidil ar benwythnos preswyl llinynnol ‘Ffidil Fawr’). Yn ddiweddar mae hefyd yn rheolwr prosiect/tiwtor ar ‘Alawon Afan’ (Prosiect gan Calon Afan CiC), er mwyn hybu cerddoriaeth draddodiadol yn ardal CNPT, yn y gymuned ac mewn sawl ysgol.
Hailing from Pontardawe, Aneirin Jones started playing the fiddle at aged 7, having a strong musical upbringing attending local Welsh trad. sessions in the Swansea Valley. As a teenager, he attended many residential music courses such as Gwerin Gwallgo (Trac Cymru), while earning decent pocket money most weekends performing in pubs and twmpaths. He studied Traditional Music at the Royal Conservatoire of Scotland in Glasgow, before returning to Wales. Aneirin has already enjoyed a very exciting career, releasing award-winning albums and performing as a member of some of Wales’ most well-known trad/folk acts (Vrï and Pendevig to name a few). It is a huge privilege for him to share this music with audiences across the world (India, Canada and Brittany amongst many other international stages). Now Aneirin begins the journey as a solo artist, honing the old tunes and songs he learnt as a child, with some original compositions also. The addictive thrill and transcendental feeling of playing jigs, reels and folk songs is at the core of their set. With Rhys Morris on guitar (Avanc). Aneirin is also a very well-established teacher, a regular tutor on ‘Gwerin Gwallgo’ (TRAC Cymru’s Youth Trad. Residential Course), and one of the directors of Ffidil Fawr CIC (he is also a fiddle tutor at their annual strings course ‘Ffidil Fawr’). Currently, Aneirin is also Project Manager/Tutor for ‘Alawon Afan’ (Community Music Project ran by Calon Afan CIC), promoting traditional music in schools and the wider community in Neath Port Talbot.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

Owen Shiers
Mae Owen Shiers yn gerddor, cyfansoddwr, a hanesydd cymdeithasol o Gymru, sy'n adnabyddus am ei waith dan yr enw Cynefin. Wedi'i fagu yn Nyffryn Clettwr yng Ngheredigion, gorllewin Cymru, hyfforddodd fel cyfansoddwr a chynhyrchydd trwy radd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bath Spa, cyn adeiladu gyrfa sy'n ymestyn ar draws cân draddodiadol, trefnu cyfoes, a chynhyrchu stiwdio — gan gynnwys gwaith peiriannu ar brosiectau albwm yn Real World Studios gydag artistiaid megis Peter Gabriel a Toto La Momposina. Fel Cynefin, nid yw Shiers yn trin cyfansoddi wrth ddyfeisio o ddim byd, ond yn hytrach fel parhad, gan dwrio ac adfywio traddodiadau cân werin a barddonol ei fro enedigol, Ceredigion. Mae'n olrhain alawon a thestunau a drosglwyddwyd ar lafar, ac yn eu hail-lunio â chlust cyfansoddwr am orchestreiddio, gwead, ac amseriad. Tynnodd ei albwm cyntaf yn 2020, Dilyn Afon, ar dair blynedd o ymchwil maes i ganeuon lleol anghofiedig, rhai na chawsant eu recordio erioed o'r blaen, ac fe'i henwebwyd am wobr Unigolyn Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru cyntaf erioed. Gwthiodd ei ail albwm, Shimli, a enwyd ar ôl hen draddodiad o wylnos cerdd a barddoniaeth yng ngorllewin Cymru, ymhellach i mewn I drefniannau cyfoethog, siambr-werinol ar gyfer llais, gitâr, ac ensemble, ac fe'i henwebwyd am Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin y DU 2025.
Owen Shiers is a Welsh musician, composer, and social historian known for his work under the name Cynefin. Raised in the Clettwr valley in Ceredigion, west Wales, he trained as a composer and producer through a music degree at Bath Spa University before building a career spanning traditional song, contemporary arrangement, and studio production — including engineering work on album projects at Real World Studios with artists such as Peter Gabriel and Toto La Momposina. As Cynefin, Shiers treats composition not as invention from nothing but as continuation, making it his project to excavate and reanimate the folk song and poetic traditions of his native Ceredigion. He traces melodies and texts passed down through oral memory and reworks them with a composer's ear for orchestration, texture, and pacing. His 2020 debut album, Dilyn Afon (‘Following a River’), drew on three years of field research into forgotten local songs, several never before recorded, and earned him a nomination for Best Solo Artist at the inaugural Welsh Folk Awards. His follow-up, Shimli, named for a lost West Walian tradition of music-and-poetry vigils, pushed further into richly arranged, chamber-folk settings for voice, guitar, and ensemble, and was nominated for Album of the Year at the 2025 UK Folk Awards.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

Amanda Whiting
Mae Amanda Whiting yn delynores, cyfansoddwraig ac arweinydd band arobryn o Gymru, sydd wedi arwyddo i'r label annibynnol dylanwadol First Word Records. Mae hi wedi rhyddhau naw albwm i gyd, yn dilyn ei gwaith cynnar gyda Jazzman Records. Mae ei halbymau gan gynnwys Lost in Abstraction a The Liminality of Her wedi derbyn canmoliaeth eang gan adolygwyr, gan ei sefydlu fel llais blaenllaw ar y sîn jazz yn y DU. Mae hi wedi perfformio mewn gwyliau jazz pwysig gan gynnwys Mannheim, We Out Here a Matosinhos em Jazz ym Mhortiwgal ac mae wedi perfformio mewn mannau eiconig yn Llundain gan gynnwys Ronnie Scott's a Jazz Café. Gan ddefnyddio elfennau o’i haddysg glasurol a jazz, mae cyfansoddiadau Amanda yn cyfuno disgyblaeth a lliw cerddoriaeth glasurol â rhyddid a natur ddigymell jazz ac maent wedi derbyn cefnogaeth ar raglenni radio Jamie Cullum a Cerys Matthews. Ochr yn ochr â'i gyrfa berfformio a recordio, mae Amanda yn dysgu mewn conservatoires ledled y DU, gan rannu ei phrofiad fel cyfansoddwraig, cerddor sy’n chwarae’n fyrfyfyr a cherddor proffesiynol gyda'r genhedlaeth nesaf o artistiaid.
Amanda Whiting is an award-winning Welsh harpist, composer and bandleader, signed to the influential independent label First Word Records. She has released nine albums in total, following her early work with Jazzman Records. Albums including Lost in Abstraction and The Liminality of Her have received widespread critical acclaim, establishing her as a leading voice on the UK jazz scene. She has performed at major jazz festivals including Mannheim, We Out Here and Matosinhos em Jazz in Portugal and has headlined iconic London venues including Ronnie Scott’s and Jazz Café. Drawing on both her classical and jazz education, Amanda’s compositions combine the discipline and colour of classical music with the freedom and spontaneity of jazz and have received radio support from Jamie Cullum and Cerys Matthews. Alongside her performing and recording career, Amanda teaches at conservatoires across the UK, sharing her experience as a composer, improviser and professional musician with the next generation of artists.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

Tomos Williams
Mae Tomos Williams yn gerddor, yn gyfansoddwr ac yn addysgwr, ac yn llais unigryw ym myd jazz Cymru. Mae e’n ymdrechu i greu 'hunaniaeth Gymreig' yn ei gerddoriaeth drwy gyfuno alawon gwerin Cymru gyda’r creadigrwydd a chwarae’n fyrfyfyr sy’n nodweddiadol i jazz. Mae Tomos yn arwain nifer o fandiau: y chwechawd jazz/gwerin Cymreig, Burum; Khamira - grŵp sy’n cyfuno cerddoriaeth India a Chymru; ei brosiect arloesol 'Cwmwl Tystion'; 7Steps, pumawd jazz sy'n chwarae cerddoriaeth Miles Davis; a Blodeugerdd, chwechawd jazz sy'n chwarae trefniannau newydd o ganeuon gwerin Cymru. Ef yw'r prif gyfansoddwr/trefnydd ar gyfer y bandiau hyn a chafodd ei enwebu ar gyfer gwobr cyfansoddwr Academi Ivor yn y categori jazz am ei gyfres Cwmwl Tystion II/Riot! yn 2021. Comisiynwyd Tomos i ysgrifennu cyfres jazz newydd ar gyfer Burum gan ŵyl Surge, Birmingham yn 2022, a chafodd ei ddewis hefyd fel un o'r tri a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2024. Yn gynharach eleni, cafodd ei gomisiynu gan MusicFest Aberystwyth i gyfansoddi cerddoriaeth newydd yn seiliedig ar Cerddi'r Plant gan Waldo Williams. Yn ddiweddar, bu Tomos yn dysgu ar gwrs preswyl Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac mae'n Gadeirydd Jazz Explorers Cymru, corff ar lawr gwlad a sefydlwyd i hyrwyddo, annog a galluogi addysg a pherfformiadau jazz yng Nghymru.
Tomos Williams is a musician, composer, and educator, and a unique voice in Welsh jazz, striving to create a 'Welsh identity' in his music by combining Welsh folk melodies with the creativity and improvisation of a jazz aesthetic. Tomos leads numerous bands: the Welsh jazz/folk sextet Burum; the Indo-Welsh fusion outfit Khamira; his groundbreaking ‘Cwmwl Tystion’ project; 7Steps, a jazz quintet that plays the music of Miles Davis; and Blodeugerdd, a jazz sextet that plays new arrangements of Welsh folk songs. He is the primary composer/arranger for these bands and was nominated for an Ivor's Academy composer award in the jazz category for his Cwmwl Tystion II/Riot! suite in 2021. Tomos was commissioned to write a new jazz suite for Burum by the Surge Festival, Birmingham in 2022, and was also chosen as one of the three finalists to compete for the Tlws y Cerddor at the National Eisteddfod of Wales in 2024. Earlier this year, he was commissioned by Aberystwyth MusicFest to compose new music based on Waldo Williams' Cerddi'r Plant (Children's Poems). Tomos recently taught on the National Youth Jazz Wales residential course and is Chair of Jazz Explorers Cymru, a grassroots body set up to promote, encourage and enable jazz education and performances in Wales.
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network
Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network



