Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Mae Tŷ Cerdd yn lansio cyfres newydd o ddiwrnodau cymunedol am ddim, un diwrnod yr un, ar draws Cymru. Bydd y rhain yn ofodau agored a chroesawgar i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol, diwylliant a chymuned.
Nid gweithdai perfformio yw’r rhain, nac ychwaith yn ymwneud â dysgu repertoire. Yn hytrach, mae Wilia a Whare yn wahoddiad i feddwl gyda’n gilydd, rhannu profiadau, ac archwilio cwestiynau am sut mae traddodiad yn gweithio heddiw: pwy sy’n perthyn iddo, sut mae’n cael ei drosglwyddo, a sut y gall fod yn fwy agored, cynhwysol a chysylltiedig.
Mae pob sesiwn Wilia a Whare yn cael ei harwain gan y gymuned, ei hwyluso gan artistiaid, ac wedi’i siapio o gwmpas sgwrsio, gwrando, gweithgareddau creadigol a myfyrio gyda’n gilydd. Mae croeso i ddechreuwyr — does dim angen hyfforddiant ffurfiol, dim ond chwilfrydedd. Bydd cyfle hefyd i chwarae ychydig, felly dewch â’ch offerynnau a’ch lleisiau gyda chi!
Mae traddodiadau’n ffynnu pan fo pawb sy’n poeni amdanyn nhw’n cymryd rhan. Mae’r rhai sy’n chwarae am hwyl, a’r rhai sy’n chwarae er bywoliaeth, yr un mor bwysig. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu eich safbwyntiau, gwrando ar eraill, ac archwilio sut gallwn ni i gyd gyfrannu at gadw traddodiadau’n fyw ac yn esblygu. P’un a ydych chi’n gerddor proffesiynol neu’n greadigol bob dydd, mae eich syniadau a’ch profiad yn hanfodol wrth lunio’r diwrnodau hyn a dyfodol cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, ac rydym yn eich croesawu’n gynnes iawn i gymryd rhan.
Pam cymryd rhan?
-
Helpu i lunio’r ffordd rydym yn meddwl am gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru
-
Rhannu safbwyntiau ar draws cenedlaethau, diwylliannau a rolau
-
Cyfrannu at syniadau sy’n llywio ymarfer, polisi a chyllid
-
Bod yn rhan o sgwrs gymunedol hael a meddylgar
Mae pob diwrnod yn rhad ac am ddim, yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), ac yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb: cerddorion, athrawon, gweithwyr diwylliant ac aelodau o’r gymuned fel ei gilydd.
Manylion dyddiadau, lleoliadau ac archebu i ddilyn yn fuan.
Y tair sesiwn Wilia a Whare
Traddodiadau mewn Sgwrs (Caerdydd)
Diwrnod i ddod â phobl o gymunedau diwylliannol amrywiol Caerdydd ynghyd i archwilio sut mae traddodiadau’n cyd-fyw, yn gorgyffwrdd ac yn esblygu. Trwy rannu sain, atgofion a thrafodaeth, byddwn yn edrych ar sut mae cerddoriaeth, stori a hunaniaeth yn teithio, yn cyfarfod ac yn newid — a sut y gallai golygfa draddodiadol wirioneddol gynhwysol a rhyngddiwylliannol i Gaerdydd edrych.
Adeiladu Ecosystem y Traddodiad (Machynlleth)
Diwrnod ymarferol i gerddorion, addysgwyr, trefnwyr a gweithwyr celfyddydol i fapio sut mae cerddoriaeth draddodiadol yn cael ei chefnogi, a ble mae’r bylchau. Gan ddefnyddio offer creadigol a meddwl ar y cyd, bydd cyfranogwyr yn archwilio pwyntiau mynediad, seilwaith a llwybrau’r dyfodol tuag at ecoleg gerddoriaeth draddodiadol fwy cysylltiedig a chynaliadwy.
Ei Throsglwyddo (Yr Wyddgrug)
Mewn partneriaeth â Theatr Clwyd
Diwrnod ymarferol, llawn syniadau, sy’n canolbwyntio ar drosglwyddo: sut mae cerddoriaeth draddodiadol yn cael ei haddysgu, ei rhannu a’i chynnal. Bydd cyfranogwyr yn arbrofi gyda modelau newydd o ddysgu a mentora, o ddulliau dan arweiniad y gymuned i lwybrau digidol a sefydledig gan ddychmygu ffyrdd newydd y gall pobl ddod ar draws traddodiad yn y dyfodol.

Tŷ Cerdd is launching a new series of free, one-day community events across Wales. These will be open, welcoming spaces for anyone with an interest in traditional music, culture and community.
These are not performance workshops and not about learning repertoire. Instead, Wilia a Whare invites people to think together, share experiences, and explore questions about how tradition works today: who it’s for, how it’s passed on and how it can be more open, inclusive and connected.
Each Wilia a Whare session is community-led, artist-facilitated, and shaped around conversation, listening, creative activities and shared reflection. Beginners are welcome, you don’t need formal training, just curiosity. There will be an opportunity to do a little bit of playing, so do bring your instruments and voices!
Traditions thrive when everyone who cares about them take part, people who play for fun, and people who play for a living are equally important. These sessions are an opportunity to share your perspectives, listen to others, and explore how we can all contribute to keeping traditions alive and evolving. Whether you’re a professional musician or an everyday creative, your ideas and experience are vital in shaping these days and the future of traditional music in Wales and we warmly welcome everyone to take part.
Why take part?
-
Help shape future thinking around traditional music in Wales
-
Share perspectives across generations, cultures and roles
-
Contribute to ideas that inform practice, policy and funding
-
Be part of a generous, thoughtful community conversation
All days are free to attend, bilingual (Welsh and English), and open to anyone interested — musicians, teachers, culture workers and community members alike.
Dates, venues and booking details coming soon.
The three Wilia a Whare sessions
Traditions in Conversation (Cardiff)
A day bringing together people from Cardiff’s diverse cultural communities to explore how traditions coexist, overlap and evolve. Through sound-sharing, memory, and discussion, we’ll look at how music, story and identity travel, meet and change and what an inclusive intercultural trad scene for Cardiff should look like.
Building the Trad Ecosystem (Machynlleth)
A hands-on day for musicians, educators, organisers and arts workers to map how traditional music is supported and where gaps exist. Using creative tools and collective thinking, participants will explore access points, infrastructure and future pathways for a more joined-up, sustainable traditional music ecology.
Passing It On (Mold)
In partnership with Theatr Clwyd
A practical, ideas-driven day focused on transmission: how traditional music is taught, shared and sustained. Participants will experiment with new models for learning and mentoring, from community-led approaches to digital and established paths, imagining future ways people might encounter tradition.






