top of page

Dyw sesiynau ddim yn cael eu cyfyngu i amgylchedd stiwdio’n unig; mae rhai o’r recordiadau gorau’n cael eu gwneud mewn lleoliadau fel eglwysi, theatrau, neuaddau cyngerdd a stadia. Yn wir, mae’n dod yn gyffredin i berfformiadau byw gael eu recordio a hyd yn oed eu ffrydio’n fyw fel sain ac yn glyweledol.

Mae rig lleoliadau pwrpasol gan Dŷ Cerdd sy’n gallu recordio bandiau, corau, cerddorfeydd, cynyrchiadau theatr ac operâu a thracio hyd at 64 o sianelau ar yr un pryd ar 96kHz/24 bit.  Mae ein system RME DuRec yn darparu modd recordio deuol diddos sy’n hanfodol i recordiadau byw. Gallwn gynghori ar ddewis canolfannau gan gymryd i ystyriaeth faint yr ensemble, acwsteg a chyfleusterau integredig fel piano a/neu organ os bydd angen. Hefyd mae gynnon ni fynediad i wahanol neuaddau a theatrau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.