top of page
CoDI Cor artists_edited.png

artistiaid CoDI Côr artists

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi enwau'r pum crëwr cerddoriaeth sydd wedi cael eu dewis i gymryd rhan yn ein llwybr sgiliau corawl, CoDI Côr.

 

Bydd Hannah Paloma, Lowri Mair Jones, Rhys Cook, Sarah Zyborska a Yasmine Latkowski yn datblygu sgiliau wrth ysgrifennu gwaith newydd, nodedig ar gyfer Côr ABC dan fentoriaeth Nathan James Dearden.

ENG

We’re delighted to announce the five music-creators who have been chosen to take part in our choral skills pathway, CoDI Côr:

 

Hannah Paloma, Lowri Mair Jones, Rhys Cook, Sarah Zyborska and Yasmine Latkowski will develop skills in writing new, distinctive work for Côr ABC under the mentorship of Nathan James Dearden.

hannah
Hannah_edited.jpg

Hannah Paloma

O Gaerdydd y daw Hannah Paloma ac mae’n artist amlddisgyblaethol a chyfansoddwraig caneuon sy’n arbrofi â sain a stori i greu gweithiau clyweledol a cherddorol. Yn ddiweddar, creodd Hannah ddarn clyweledol yn adrodd hanes Ynys Echni ym Môr Hafren a’r darllediad radio cyntaf o bell, gan ddefnyddio rhyddiaith, llais a pherfformiad. Ar ôl ei EP cyntaf To The Moon, mae hi bellach yn arbrofi gyda’i phrosiect cerddoriaeth Noon Wolf, gan greu baledi roc gwerin indi i blethu’r arbrofol â’r brif ffrwd. Bydd hi’n rhyddhau cerddoriaeth newydd gyda’r prosiect hwn yn fuan.

Hannah Paloma is a multidisciplinary artist and songwriter from Cardiff, experimenting with sound and story to create audio visual and musical works. Hannah recently created an audio-visual piece telling the story of Flat Holm Island in South Wales and the first distance radio transmission, using prose, voice and performance. After her first EP To The Moon, she is now experimenting with her music project Noon Wolf, creating indie folk rock ballads to entwine the experimental with the mainstream. She is soon to release new music with this project.

Lowri Mair Jones_edited.jpg

Lowri Mair Jones

Mae Lowri Mair Jones, sy’n byw yng Nghaerdydd, wedi ennill sawl gwobr am ei chyfansoddiadau ac mae ei gwaith yn cynnwys cerddoriaeth ar gyfer siambr, cerddorfa, llais a ffilm. Ar ôl seibiant o 20 mlynedd, dychwelodd Lowri at gyfansoddi gyda ffocws newydd ac mae wedi adeiladu portffolio amrywiol yn gyflym iawn. Dyfarnwyd Tlws y Cerddor iddi yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 am ei gwaith ar gyfer soddgrwth, piano a ffidil, a daeth yn ail y flwyddyn ganlynol am waith siambr ar gyfer clarinét, ffidil, soddgrwth a phiano. Mae prosiectau diweddar Lowri yn cynnwys y sgôr i’r ffilm fer Milodfa (BBC iPlayer/S4C, 2025), opera siambr yn y Gymraeg gyda Tŷ Cerdd a Music Theatre Wales a berfformiwyd am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2025, a chomisiynau gan Gerddorfa Symffoni’r Rhondda, Gŵyl Llanandras, Côr Godre’r Garth, a noddwyr preifat. Ynghyd â’i gyrfa yn cyfansoddi, mae Lowri wedi gweithio’n helaeth yn y maes darlledu, i’r BBC a chwmnïau annibynnol. Mae ganddi radd MMus mewn Cyfansoddi o Brifysgol Manceinion.

Lowri Mair Jones is an award-winning composer based in Cardiff whose music spans chamber, orchestral, vocal, and film composition. After a 20-year break from writing, Lowri returned to composition with renewed focus and has quickly built a diverse portfolio. She was awarded Tlws y Cerddor (the Musician’s Medal) at the 2023 National Eisteddfod for her work for solo cello, piano, and violin, and was runner-up the following year for a chamber work for clarinet, violin, cello, and piano. Lowri’s recent projects include the score for the short film Milodfa (BBC iPlayer/S4C, 2025), a Welsh-language chamber opera with Tŷ Cerdd and Music Theatre Wales premiered at the 2025 National Eisteddfod, and commissions from the Rhondda Symphony Orchestra, Presteigne Festival, Côr Godre’r Garth, and private patrons. Alongside her composing career, Lowri has worked extensively in broadcasting for the BBC and independent companies. She holds a MMus degree in Composition from the University of Manchester.

lowri
rhys
Rhys Cook_edited.jpg

Rhys Cook

Mae Rhys Cook (aka 'Celyn of Gwent') yn artist sonig, yn gyfansoddwr, yn gynhyrchydd, yn lleisydd ac yn ddylunydd sain o Gymru. Yn artist unigol, maent yn cynhyrchu ac yn perfformio cerddoriaeth ar y groesffordd rhwng cerddoriaeth boblogaidd a’r avant-garde sonig, gan archwilio gwneud ‘y bardd’ yn cwiar ar gyfer yr anthroposin. Mae eu gwaith sydd wedi’i recordio a’u perfformiadau byw ffrwydrol yn integreiddio dylanwadau o ddiwylliant clybiau tanddaearol, avant-pop a cherddoriaeth draddodiadol Ynysoedd Prydain. Yn ogystal â’u caneuon maent yn plethu eu barddoniaeth wreiddiol â thirweddau sain electronig dwys a chyfansoddiadau recordio maes. Mae albwm cyntaf Celyn, ‘Dying & Rising’, i’w ryddhau yng Ngaeaf 2025. Mae gwaith sonig Celyn wedi’i gyflwyno gan sefydliadau yn y DU gan gynnwys The Royal Ballet, Canolfan Mileniwm Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, The National Theatre of Great Britain, S4C, SHIFT Caerdydd, Roundhouse, Stereo, Pleasance, SPILL, Corsica Studios, Iklectik, The Yard, The Cube, Rough Trade.

Rhys Cook aka 'Celyn of Gwent' is a Welsh sonic artist, composer, producer, vocalist and sound designer. As a solo artist they produce and perform music at the intersection between popular music and the sonic avant-garde, exploring a queering of ‘the bard’ for the anthropocene. Their recorded work and explosive live performances integrate influences from underground club culture, avant-pop and the traditional music of the British Isles. Alongside their songs they weave their original poetry layered with dense electronic soundscapes and field recording compositions. Celyn’s debut album ‘Dying & Rising’ is due for release Winter 2025. Celyn’s sonic work has been presented with UK organisations including The Royal Ballet, Wales Millenium Centre, National Museum of Wales, The National Theatre of Great Britain, S4C, SHIFT Cardiff, Roundhouse, Stereo, Pleasance, SPILL, Corsica Studios, Iklectik, The Yard, The Cube, Rough Trade.

sara
Sarah Z_edited.jpg

Sarah Zyborska

Mae Sarah Zyborska yn gyfansoddwraig caneuon (yn perfformio fel SERA), sy’n perfformio ar ei phen ei hun a gydag eraill. Mae hi hefyd yn fardd ac yn gwneud ffilmiau, gan weithio a chreu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Sarah yn byw yn Ynys Môn ac mae ganddi ferch ifanc. Ynghyd â’i gwaith fel artist, mae Sarah hefyd yn gweithio fel ymarferydd cerdd/celf cymunedol ledled sawl lleoliad a phrosiect. Bydd hi’n rhyddhau albwm caneuon gwerin Cymraeg cydweithredol gwreiddiol, sef Natur, ym mis Hydref 2025 ar y cyd ag Eve Goodman. Mae ei cherddoriaeth wedi cael ei chwarae ar draws y BBC (Radio Cymru, Radio Wales, Radio 2 a 6 Music) ac mae wedi perfformio ar S4C ac mewn sawl gŵyl a lleoliad yn y wlad hon a thramor. Defnyddia Sarah ei chreadigrwydd i adrodd straeon, gan archwilio themâu sy’n gysylltiedig â llên gwerin a natur.

Sarah Zyborska is a songwriter (performing as SERA), who performs solo and well as collaboratively. She is also a poet and filmmaker and works and creates in both Welsh and English. Sarah lives in Ynys Môn and has a young daughter. Alongside her work as an artist, Sarah also works as a community music/arts practitioner across settings and projects. She will be releasing a collaborative, original Welsh folk album, Natur, in October 2025 with Eve Goodman. Her music has been played across the BBC (Radio Cymru, Radio Wales, Radio 2 and 6 Music) and has performed on S4C, at festivals and venues at home and abroad. Sarah uses her creativity for storytelling, exploring themes connected with folklore and nature.

yasmine
Yasmine_edited.jpg

Yasmine Latkowski

Mae Yasmine Latkowski yn berfformwraig ac yn gyfansoddwraig y cyfryngau. Mae ei chyfansoddiadau hudolus yn cyfuno alawon y Dwyrain Canol ag amrywiol ddylanwadau diwylliannol. Daw ei hysbrydoliaeth o’i threftadaeth ddeuol, gan greu cerddoriaeth sy’n pontio cymunedau, o raglenni dogfen byd-eang i theatr drochol yng Nghymru. Mae ei gwaith yn aml yn mynd i’r afael â materion cymdeithasol o bwys, a’i thirweddau sain yn aml yn ymgorffori straeon am wydnwch a newid. Mae cyfraniadau Yasmine i’r diwydiant cerddoriaeth wedi ennill clod eang, gan gynnwys bod ar lwyfannau enwog fel y Cenhedloedd Unedig, BBC Africa Eye, BBC Panorama, a Theatr Genedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, mae hi’n arwain prosiect ei band Panedeni, sy’n cyfuno dylanwadau Arabeg, Cymraeg a Saesneg.

Yasmine Latkowski is a media composer and performer whose enchanting compositions blend Middle Eastern melodies with diverse cultural influences. Drawing inspiration from her dual heritage, she creates music that bridges communities, from global documentaries to immersive theatre in Wales. Her work often addresses pressing social issues, embedding stories of resilience and change into her soundscapes. Yasmine’s contributions to the music industry have garnered widespread acclaim, including features on renowned platforms such as United Nations, BBC Africa Eye, BBC Panorama, and National Theatre Wales. Currently, she leads her band project Panedeni, which fuses Arabic, Welsh, and English influences.

CoDI 2025-26 logo strip_edited.png

Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

Tŷ Cerdd is a member of the PRS Foundation Talent Development Network

bottom of page