Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Mae Tŷ Cerdd yn lansio cyfres newydd o ddiwrnodau cymunedol am ddim, un diwrnod yr un, ar draws Cymru. Bydd y rhain yn ofodau agored a chroesawgar i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol, diwylliant a chymuned.
Nid gweithdai perfformio yw’r rhain, nac ychwaith yn ymwneud â dysgu repertoire. Yn hytrach, mae Wilia a Whare yn wahoddiad i feddwl gyda’n gilydd, rhannu profiadau, ac archwilio cwestiynau am sut mae traddodiad yn gweithio heddiw: pwy sy’n perthyn iddo, sut mae’n cael ei drosglwyddo, a sut y gall fod yn fwy agored, cynhwysol a chysylltiedig.
Mae pob sesiwn Wilia a Whare yn cael ei harwain gan y gymuned, ei hwyluso gan artistiaid, ac wedi’i siapio o gwmpas sgwrsio, gwrando, gweithgareddau creadigol a myfyrio gyda’n gilydd. Mae croeso i ddechreuwyr — does dim angen hyfforddiant ffurfiol, dim ond chwilfrydedd. Bydd cyfle hefyd i chwarae ychydig, felly dewch â’ch offerynnau a’ch lleisiau gyda chi!
Mae traddodiadau’n ffynnu pan fo pawb sy’n poeni amdanyn nhw’n cymryd rhan. Mae’r rhai sy’n chwarae am hwyl, a’r rhai sy’n chwarae er bywoliaeth, yr un mor bwysig. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i rannu eich safbwyntiau, gwrando ar eraill, ac archwilio sut gallwn ni i gyd gyfrannu at gadw traddodiadau’n fyw ac yn esblygu. P’un a ydych chi’n gerddor proffesiynol neu’n greadigol bob dydd, mae eich syniadau a’ch profiad yn hanfodol wrth lunio’r diwrnodau hyn a dyfodol cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru, ac rydym yn eich croesawu’n gynnes iawn i gymryd rhan.
Sesiynau sydd i ddod
Llun 02.03.26, 18:00-19:30
Robin Huw Bowen
Llun 06.04.26, 18:00-19:30
Stephen P Rees






