Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640
CoDI Curiad: Llais ac Offerynnau Taro
Yn galw ar grewyr cerddoriaeth unrhyw genre ar gyfer cyfle datblygu creadigol i gyfansoddi ar gyfer y llais ac offerynnau taro.
Mae'r llwybr datblygu artistiaid hwn yn cynnig cyfle i bum crëwr cerddoriaeth o Gymru archwilio a datblygu dulliau creadigol o gyfansoddi ar gyfer y llais ac offerynnau taro (gyda thraw a di-draw), trwy gyfres o weithdai gyda'r gantores Emily Thorner, yr offerynnwr taro Julian Warburton, a'r cyfansoddwr-mentor Claire Victoria Roberts.
Trwy sesiynau stiwdio, mentora a chydweithio â'r perfformwyr, bydd yr artistiaid a ddewiswyd yn archwilio dulliau arbrofol o gyfansoddi, gan greu gwaith newydd uchelgeisiol sy'n adlewyrchu ac yn ehangu ar eu hiaith gerddorol a'u hymarfer creadigol eu hunain.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Rydym yn annog artistiaid sy'n defnyddio electroneg a DAWs, a / neu ddulliau arbrofol, byrfyfyr, llafar, neu ddulliau sgorio heb nodiant i wneud cais, yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio gyda nodiant safonol.
Os ydych chi'n teimlo y byddai eich cerddoriaeth a'ch ymarfer creadigol yn elwa o'r cyfle hwn i ddatblygu gwaith newydd fel rhan o garfan gefnogol o artistiaid, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych.
YNGLŶN Â'R LLWYBR
Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i ddatblygu un darn yn ystod y rhaglen, gan archwilio a mireinio syniadau newydd ym mhob gweithdy gydag Emily Thorner, Julian Warburton a Claire Victoria Roberts.
Mae'r gweithdai stiwdio hyn wedi'u cynllunio fel mannau cefnogol, cydweithredol lle gall artistiaid arbrofi, rhoi cynnig ar syniadau, a derbyn adborth gan y perfformwyr, mentoriaid a’u cyd-aelodau. Bydd gan bob cyfranogwr amser penodedig i weithio'n uniongyrchol gyda'r artistiaid arweiniol ar eu darn, tra hefyd yn dysgu trwy arsylwi a thrafod datblygiad gwaith eraill.
Trwy ein holl raglenni CoDI, rydym yn gobeithio creu mannau croesawgar i gymryd risgiau yn eich cyfansoddiadau: herio eich hun, arbrofi, ac ehangu eich cerddoriaeth i gyfeiriadau newydd (ac weithiau anghyfarwydd!).
Rhwng gweithdai, bydd y crewyr cerddoriaeth yn parhau i ddatblygu eu darnau yn annibynnol, gyda chefnogaeth drwy sesiynau un-i-un gyda'r mentoriaid a thîm Tŷ Cerdd. Gall y gefnogaeth hon gynnwys arweiniad creadigol, cyngor technegol, a phrawfddarllen nodiant lle bo angen.
Wrth wneud cais, ystyriwch yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â datblygu eich gwaith rhwng y gweithdai. Bydd dyddiadau cau sgôr yn disgyn cyn pob sesiwn i ganiatáu digon o amser paratoi i berfformwyr.
DYDDIADAU
Dyma fanylion y gweithdai:
Stiwdio Tŷ Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd (ar y safle)
10:00-17:30 (yn fras)
-
Dydd Llun 28 Medi: Gweithdy #1
-
Dydd Mercher 4 Tachwedd: Gweithdy #2
-
Dydd Gwener 4 Rhagfyr: Gweithdy #3
-
Dydd Mawrth 2 Chwefror: Gweithdy #4
-
Dydd Llun 22 Mawrth: Rhannu terfynol (sesiwn yn cael ei recordio)
Bydd sesiynau mentora un-i-un yn cael eu cynnig rhwng gweithdai, i'w trefnu ar adeg gyfleus i bawb rhwng y crëwr cerddoriaeth sy'n cymryd rhan a'r mentor / aelod o staff Tŷ Cerdd.
FFIOEDD A THREULIAU
Bydd pob cyfansoddwr sy'n cymryd rhan yn derbyn taliad 0 £1000 (yn ogystal â threuliau teithio o fewn Cymru, a llety lle bo angen).
PWY YDYM NI?

Mae Tŷ Cerdd – wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu cerddoriaeth newydd o bob genre o Gymru. Mae artistiaid sy'n cymryd rhan yn ein llwybrau yn dod o bob genre a chefndir cerddorol, gyda neu heb hyfforddiant ffurfiol. Mae ein rhaglen CoDI 2026-27 yn dathlu arbrofi, gan annog creu cerddoriaeth uchelgeisiol, wreiddiol a wnaed yng Nghymru.

Mae Claire Victoria Roberts yn gyfansoddwraig a pherfformiwr sy’n cymylu’r ffiniau rhwng jazz, cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth werin. Mae ei gwaith wedi’i berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Psappha Ensemble, y sielydd Oliver Coates, Opra Cymru, Uproar Ensemble, Solem Quartet, Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, National Youth Folk Ensemble a The Carice Singers. Mae wedi cydweithio fel cyfansoddwraig a pherfformiwr gyda Cherddorfa Symffoni Camden, Theatr y Sherman, côr New Voices, Gŵyl Gelfyddydau Morley a Gŵyl y Celfyddydau Aberystwyth. Fel cyfansoddwraig, mae wedi derbyn comisiynau gan Ŵyl Cheltenham, Gŵyl Presteigne, MusicFest a Neuadd Wigmore. Yn 2024, creodd opera animeiddiedig ar gyfer Sinfonia Cymru a Music Theatre Wales, mewn cydweithrediad â’r cwmni animeiddio Picl. Cafodd y gwaith ei gynnwys ar restr hir Gwobrau Sky Arts, ac enillodd wobr y Ffilm Berfformiad Cymreig Orau yng Ngŵyl Ffilm Focus.
Enillodd Claire wobr Cyfansoddwr Ifanc Urdd Cerddorion Cymru yn 2022, derbyniodd Wobr Cyfansoddwyr Jerwood Arts yn 2021, enillodd Wobr Gyfansoddi’r Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn 2019–2020, Gwobr Gyfansoddi Mathias yn 2017, a Gwobr Francis Chagrin yn 2019. Mae ei gwaith wedi’i ddarlledu ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru. Fel feiolinydd, lleisydd ac artist byrfyfyr, bu’n rhan o gynllun datblygu artistiaid Take Five Serious Music EFG London Jazz Festival, ac mae wedi perfformio ei cherddoriaeth ei hun yng Ngŵyl Jazz Glasgow, Gŵyl Jazz Manceinion a London Jazz Showcase yn Neuadd Frenhinol Albert. Derbyniodd gyllid gan Help Musicians UK i greu albwm o’i chaneuon jazz a chlasurol gyda cherddorfa yn 2022, ac yn 2025 aeth ar daith gyda Poesis, prosiect jazz rhydd a guradwyd ar gyfer Gŵyl Llais yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’r Barbican yn Llundain. Mae Claire yn parhau i berfformio ei threfniannau unigryw o ganeuon traddodiadol Cymreig yn y DU a thramor, gan gynnwys yng Ngŵyl Artefacto yn Logroño ac yng Nghanolfan Áras Chrónáin yn Nulyn.

Mae Emily Thorner ("Ultrasoprano") yn gantores o fri rhyngwladol sy'n enwog am ei hystod pedair wythfed a'i llais sinematig anhygoel. Mae ei pherfformiadau yn rhychwantu cerddoriaeth ffilm, theatr gerdd, opera a chroestoriad symffonig, ac mae hi wedi perfformio ledled y byd fel unawdydd blaenllaw. Mae Emily yn cydweithio'n rheolaidd ar brosiectau cerddoriaeth ffilm cerddorfaol ac opera gyfoes, ac fe fydd yn perfformio rhan Greta Thunberg am y tro cyntaf yng Ngŵyl Opera Grimeborn 2026. Trwy berfformio, mae Emily yn archwilio'r llais dynol fel offeryn presenoldeb, mynegiant a thrawsnewid.

Mae Julian Warburton yn offerynnwr taro, arweinydd ac addysgwr o fri rhyngwladol, sy'n enwog am ei waith ym maes cerddoriaeth diwedd yr 20fed ganrif a'r 21ain ganrif. Yn enwog am fod yn amryddawn, am ei rinwedd ac eglurder ei ddehongli, mae wedi perfformio ledled y byd fel unawdydd gydag ensembles a cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys y premiere byd o Heartland gan Mark Bowden gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn brif chwaraewr hirsefydlog gyda Birmingham Contemporary Music Group, mae Julian wedi cydweithio'n agos â chyfansoddwyr gan gynnwys Thomas Adès, Harrison Birtwistle ac Oliver Knussen, gan ymddangos ar sawl recordiad clodwiw. Mae'n Athro Offerynnau Taro a Chyfarwyddwr Ensemble yn Ysgol Gerdd a Drama'r Guildhall.
CYMHWYSEDD
-
Crewyr cerddoriaeth o Gymru Os cawsoch eich geni yng Nghymru neu os ydych wedi bod yn byw yng Nghymru ers o leiaf flwyddyn, a'ch bod chi'n creu cerddoriaeth wreiddiol, rydych chi'n gymwys.
-
Mae'r llwybr hwn yn cynnwys creu neu nodi sgoriau. Croesewir ceisiadau gan grewyr cerddoriaeth nad ydynt yn cynnwys nodiant cerddoriaeth safonol (e.e. sgoriau gweledol/graffig/arbrofol) yn ogystal ag artistiaid sy'n nodi.
-
Mae angen i chi fod ar gael i ymrwymo i ddyddiadau arfaethedig y llwybr (ar y safle, nid ar-lein).
-
Wrth wneud cais, ystyriwch hefyd yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â datblygu eich gwaith rhwng gweithdai. Bydd dyddiadau cau sgôr yn disgyn cyn pob sesiwn i ganiatáu digon o amser paratoi i berfformwyr.
-
Mae costau teithio ar gael ar gyfer teithiau yng Nghymru yn unig.
Rydym yn arbennig yn annog ceisiadau gan artistiaid sydd:
-
nad ydynt wedi cael hyfforddiant ffurfiol mewn cyfansoddi neu gerddoriaeth, neu sydd wedi dod at gerddoriaeth drwy lwybrau DIY (gwna dy hun), gan gynnwys y celfyddydau gweledol neu ddisgyblaethau eraill.
-
wedi wynebu rhwystrau economaidd-gymdeithasol a/neu systemig i gyfleoedd ddatblygu eu hymarfer neu eu cerddoriaeth yn y gorffennol.
-
yn uniaethu fel pobl anabl a/neu niwroamrywiol.
-
yn Ddu, yn Asiaidd neu'n rhan o'r Mwyafrif Byd-eang.
-
yn uniaethu fel LHBTC+.
-
yn dod o gefndir dosbarth gweithiol.
Os oes gennych ddiddordeb, ond mae gennych rai cwestiynau...
... gallwn sgwrsio â chi yn uniongyrchol dros y ffôn neu dros Zoom. E-bostiwch neu ffoniwch i drefnu sgwrs.
SUT I WNEUD CAIS
Uwchlwythwch y wybodaeth ganlynol i'n PORTH AR-LEIN
1. Manylion personol: eich enw, rhagenwau, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, ynghyd â chadarnhad eich bod dros 18 oed.
2. Dywedwch wrthym am eich ymarfer (Uchafswm 200 gair): Dywedwch wrthym beth rydych chi'n hoffi ei wneud fel artist/crëwr cerddoriaeth a’r hyn yr ydych chi wedi bod yn fwyaf balch ohono. Fel rhan o'ch ateb, dywedwch wrthym a ydych chi'n defnyddio nodiant cerddorol, a sut rydych chi'n creu eich gwaith.
3. Pam hoffech chi fod yn rhan o'r llwybr hwn? (Uchafswm 400 gair) Dywedwch wrthym am:
-
Natur yr hyn yr hoffech ei ddysgu trwy'r llwybr hwn, a sut rydych chi'n gobeithio y gallai effeithio ar eich gwaith.
-
Eich diddordeb mewn cyfansoddi ar gyfer offerynnau taro
-
Eich diddordeb yn y llais a'ch ymagwedd at y llais
-
Sut y bydd gweithio mewn carfan o artistiaid o fudd i chi
4. Enghreifftiau o'ch gwaith: gofynnwn i chi gynnwys dolenni i ddau ddarn o'ch cerddoriaeth (Nodwch: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, cysylltwch â enquiries@tycerdd.org). Dewiswch enghreifftiau sy'n adlewyrchu eich cerddoriaeth orau nawr a/neu sy'n berthnasol i'ch dull ar gyfer y cyfle hwn.
5. Oes gennych unrhyw ofynion mynediad neu wybodaeth arall yr hoffech ei rhannu gyda ni?
Yn Tŷ Cerdd, rydym yn dilyn model cymdeithasol anabledd, gan gydnabod mai yn yr amgylcheddau a'r strwythurau cymdeithasol y mae'r rhwystrau'n bodoli, nid yn y bobl eu hunain. Rydym yn eich gwahodd i rannu manylion unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch er mwyn eich galluogi i gymryd rhan yn y rhaglen breswyl/lwybr hon, ond mae hyn yn gwbl ddewisol ar y cam hwn o'ch cais. Os cynigir lle i chi ar y rhaglen, cewch hefyd gyfle i rannu a thrafod eich gofynion mynediad a'ch access rider gyda ni ar unrhyw adeg yn ystod y prosiect.
Ni fydd unrhyw wybodaeth am ofynion mynediad a ddarperir gennych ar y cam hwn yn cael ei rhannu â'r panel, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei chynnwys fel rhan o'ch cais (nodwch hyn isod os felly).
FFORMATAU YMGEISIO AMGEN
Croesewir ceisiadau hefyd mewn fformat sain neu fideo.
Recordiwch eich ymatebion i gwestiynau 2 a 3 uchod (hyd at 4 munud), ac uwchlwythwch ddolen i'ch recordiad, ochr yn ochr â'r wybodaeth y gofynnwyd amdano yng nghwestiynau 1, 4 a 5.
Os oes angen help arnoch i greu dolen i'ch fideo, cysylltwch â jordan.pricewilliams@tycerdd.org neu enquiries@tycerdd.org am gefnogaeth.
MEINI PRAWF
Bydd y panel yn asesu ceisiadau yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
-
I ba raddau y mae'r ymgeisydd yn dangos agwedd greadigol gref a pherthnasol at y llwybr. Nodwch nid yw hyn yn golygu bod angen i chi wneud cais gyda syniad prosiect sefydlog; yn hytrach eich bod yn dangos i'r panel sut mae'r cyfle hwn yn berthnasol i'ch dull creadigol a chyfeiriad eich gwaith
-
I ba raddau y mae’r ymgeisydd yn dangos y bydd eu cerddoriaeth yn elwa o'r llwybr hwn ar hyn o bryd
-
I ba raddau y mae'r ymgeisydd yn dangos sut y byddant yn elwa o agweddau mentora a charfan y llwybr hwn
-
Gwreiddioldeb a photensial yr enghreifftiau cerddoriaeth a ddarperir
LLINELL AMSER A PHROSES
Ceisiadau'n cau: Dydd Llun 17 Awst, 10yb.
Hysbysu ymgeiswyr: ar neu cyn Dydd Gwener 28 Awst.
Bydd y panel dethol yn cael ei arwain gan Deborah Keyser a Freya Dooley (Tŷ Cerdd) a Claire Victoria Roberts.
Bydd adborth ar gael ar gais.
Os oes gennych ddiddordeb, ond mae cwestiynau gennych...
... gallwn sgwrsio â chi yn uniongyrchol dros y ffôn neu dros Zoom. E-bostiwch freya.dooley@tycerdd.org neu enquiries@tycerdd.org i drefnu galwad. Rydyn ni am gael gwared ar gymaint o rwystrau â phosibl, felly os oes unrhyw beth yr hoffech siarad â ni amdano, rhowch wybod ac fe wnawn ein gorau glas i ddod o hyd i ateb.




