Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
+44 (0)29 2063 5640
CoDI Llifo: Llais a Llinynnau
Yn galw ar grewyr cerddoriaeth o unrhyw genre i gyfansoddi ar gyfer llais a phedwarawd llinynnol.
Mae'r llwybr datblygu creadigol hwn yn cynnig cyfle i 5 crëwr cerddoriaeth o Gymru archwilio a datblygu dulliau newydd o ysgrifennu ar gyfer llais a phedwarawd llinynnol ochr yn ochr â'r gantores a'r bardd Bethany Celyn, a'r Pedwarawd Draig.
Trwy weithdai stiwdio, mentora a chydweithio â'r perfformwyr, bydd artistiaid dethol yn arbrofi gyda'r berthynas rhwng testun, llais a llinynnau, gan greu gwaith newydd uchelgeisiol sy'n adlewyrchu ac yn ehangu eu hiaith gerddorol a'u harfer creadigol eu hunain.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio yn y Gymraeg neu’r Saesneg, ac o bob genre cerddorol. Mae'r llwybr hwn yn cynnwys creu deunyddiau perfformio ar gyfer y perfformwyr. Croesewir ceisiadau gan grewyr cerddoriaeth sy'n defnyddio nodiant safonol, yn ogystal â'r rhai y mae eu hymarfer yn cynnwys dulliau graffig, gweledol, arbrofol neu ddulliau eraill heb fod yn draddodiadol o gyfathrebu syniadau cerddorol, yn ogystal ag artistiaid y mae eu gwaith wedi'i wreiddio mewn traddodiadau llafar, byrfyfyr.
Os ydych chi'n teimlo y byddai eich cerddoriaeth a'ch ymarfer creadigol yn elwa o'r cyfle hwn i ddatblygu gwaith newydd o fewn carfan gefnogol o artistiaid, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
YNGLŶN Â'R LLWYBR
Bydd y cyfranogwyr yn datblygu un darn o waith newydd drwy gydol y rhaglen, gan archwilio a mireinio syniadau ym mhob gweithdy ar y safle, gyda'r Pedwarawd Draig, Bethany Celyn, a'r brif gyfansoddwraig Supriya Nagarajan.
Mae'r gweithdai wedi'u cynllunio fel sesiynau stiwdio cydweithredol lle gall artistiaid arbrofi, rhoi cynnig ar syniadau a derbyn adborth yn uniongyrchol gan berfformwyr, mentoriaid a chyd-gyfranogwyr. Bydd gan bob crëwr cerddoriaeth amser neilltuol i weithio gyda'r pedwarawd a'r canwr ar eu darn eu hunain, tra hefyd yn dysgu trwy arsylwi a thrafod datblygiad gwaith pawb arall.
Ar draws pob llwybr CoDI, ein nod yw creu mannau croesawgar lle mae artistiaid yn teimlo eu bod yn gallu cymryd risgiau creadigol: i arbrofi, herio eu hunain ac ehangu eu cerddoriaeth i gyfeiriadau newydd (ac weithiau anghyfarwydd!).
Rhwng y gweithdai, bydd cyfranogwyr yn parhau i ddatblygu eu gwaith yn annibynnol, gyda chefnogaeth sesiynau mentora un-i-un gyda'r mentor arweiniol ac aelodau o dîm Tŷ Cerdd. Gall cymorth gynnwys arweiniad creadigol, cyngor technegol a chymorth nodiant lle bo hynny'n briodol.
Dylai ymgeiswyr ystyried yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig rhwng gweithdai. Bydd angen cyflwyno deunyddiau cyn pob sesiwn er mwyn caniatáu digon o amser paratoi i berfformwyr. Lle bo'n briodol, gallai hyn gynnwys sgoriau confensiynol, nodiant graffig, recordiadau, taflenni arweiniol, nodiadau perfformio neu ddeunyddiau eraill sy'n addas ar gyfer cyfathrebu eich syniadau i'r perfformwyr.
AR AGOR I BOB GENRE
Mae llwybrau CoDI ar agor i artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw genre cerddorol. P’un a yw eich ymarfer wedi’i wreiddio mewn cerddoriaeth werin, glasurol, jazz, pop, electronig, hip hop, arbrofol, neu rywbeth rhyngddynt, rydym yn croesawu ceisiadau gan gerddorion sy’n barod i ddatblygu eu hymarfer creadigol a dysgu ochr yn ochr ag eraill.
DYDDIADAU
Pob un Stiwdio Tŷ Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
-
Dydd Sul 13 Medi – Gweithdy #1 (Cyflwyniad)
-
Dydd Sul 25 Hydref – Gweithdy #2
-
Dydd Gwener 11 Rhagfyr – Gweithdy #3
-
Dydd Llun 18 Ionawr – Gweithdy #4
-
Dydd Llun 15 Mawrth – Rhannu terfynol
Cynhelir sesiynau mentora un-i-un rhwng y gweithdai a byddant yn cael eu trefnu ar adegau sy'n gyfleus i bawb sy’n cymryd rhan.
Bydd y gwaith a grëwyd yn cael ei recordio i'w rannu gyda'r cyfranogwyr. Efallai y bydd cyfle i ryddhau'r gwaith ymhellach, ond bydd hyn yn amodol ar gytundeb ar wahân i'w gynnal yn nes ymlaen.
Gofynnwn i chi sicrhau eich bod ar gael ar gyfer y ddyddiadau a gynhelir ar y safle yn Stiwdio Tŷ Cerdd cyn gwneud cais, ac y gallwch ymrwymo amser rhwng sesiynau i ddatblygu eich gwaith.
FFIOEDD A THREULIAU
Bydd pob crëwr cerddoriaeth sy'n cymryd rhan yn derbyn ffi o £1000 ynghyd â chostau teithio ar gyfer siwrneiau yng Nghymru.
Nodwch, oherwydd amodau ariannu, mai dim ond costau teithio o fewn Cymru y gellir eu had-dalu. Darperir llety lle bo angen, yn unol â pholisi teithio a threuliau Tŷ Cerdd.
PWY YDYM NI?

Mae Tŷ Cerdd – Music Wales wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu cerddoriaeth newydd o bob genre o Gymru. Mae artistiaid sy'n cymryd rhan yn ein llwybrau yn dod o bob genre a chefndir cerddorol, gyda neu heb hyfforddiant ffurfiol. Mae ein rhaglen CoDI 2026-27 yn dathlu arbrofi, gan annog creu cerddoriaeth uchelgeisiol, wreiddiol a wnaed yng Nghymru.

Mae Supriya Nagarajan yn gantores, cyfansoddwr, cynhyrchydd ac yn artist rhyngddisgyblaethol Prydeinig-Indiaidd, y mae ei gwaith yn ail-ddychmygu cerddoriaeth glasurol (Carnatic) De India, trwy gydweithredu â cherddoriaeth gyfoes, jazz, celfyddyd sain, ymarfer amgylcheddol a pherfformiad ymdrochol. Fel sylfaenydd a Chyfarwyddwr Artistig sefydliad celfyddydol Manasamitra yn Swydd Efrog, mae hi wedi treulio dros ddau ddegawd yn creu prosiectau traws-genre sy'n dod â cherddorion, gwyddonwyr, artistiaid gweledol, awduron a chymunedau at ei gilydd i archwilio themâu gan gynnwys newid hinsawdd, lles, mudo a hunaniaeth ddiwylliannol.
Mae ei gwaith clodwiw yn cynnwys Lullaby—Sonic Cradle, Meltwater, Ultimate Breath, Other Voices, Sound of Tea a Slumber Stories, ac mae pob un yn cyfuno perfformiad byw, gosodiad, cyfranogiad a chynllunio sain arloesol. Mae ei gwaith wedi cael ei gyflwyno'n genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn canolfannau a gwyliau gan gynnwys Royal Albert Hall, Southbank Centre, Royal Opera House, Wigmore Hall, Harpa Concert Hall (Gwlad yr Iâ), Casa da Música (Portiwgal), Riverside Theatres Sydney, WOMAD, Ultima Oslo a Jaipur Literature Festival.
Ochr yn ochr â'i hymarfer artistig, mae Supriya yn fentor, yn gynhyrchydd ac yn arweinydd creadigol profiadol. Mae hi wedi cefnogi artistiaid sy'n dod i'r amlwg trwy weithdai, mentora un-i-un, rhaglenni cerddoriaeth gymunedol a phrosiectau ymchwil cydweithredol, gan hyrwyddo deialog rhyngddiwylliannol ac arloesi artistig. Mae ei dull cyfranogol o weithio yn gosod y gymuned wrth galon y broses greadigol, gan hybu cydweithio ar draws cenedlaethau a diwylliannau.
Mae ei gwaith yn parhau i ddangos sut y gall arferion cerddoriaeth draddodiadol ysbrydoli perfformiadau cyfoes beiddgar tra hefyd yn creu cysylltiadau ystyrlon rhwng pobl, lle a'r amgylchedd.

Mae Bethany Celyn (Beth Celyn) yn gantores-gyfansoddwraig a bardd o Ddyffryn Clwyd sy'n byw yng Ngheredigion. Yn adnabyddus am ei llais cynnes a'i chariad tuag at y piano, mae hi wedi cydweithio â cherddorion megis Sinfonia Cymru, triawd gwerin siambr VRï a'r artist Manon Awst. Mae hi hefyd yn ymestyn y tu hwnt i Gymru ac wedi cydweithio â cherddorion sy'n creu mewn ieithoedd lleiafrifoledig eraill fel yr artist Llydaweg ei hiaith Perynn Bleunven (Emezi).
Mae Bethany yn aml yn gwehyddu ei cherddoriaeth a'i barddoniaeth mewn prosiectau creadigol, ac mae hi'n gyn-aelod o'r grŵp barddol benywaidd, Cywion Cranogwen, a'r colectif TAIR. Nid yw'n ddieithryn i'r byd teledu a radio nac ychwaith llwyfannau helaeth Cymru a thu hwnt, ac mae hi'n angerddol dros greu cyfleon a rhannu ei chrefft gydag eraill. Mae hi'n aml yn cynnal gweithdai ac wedi dysgu canu gwerin i blant, pobl ifanc ac oedolion ar y cyrsiau Trac Cymru Gwerin Iau, Gwerin Gwallgo ac Ambell i Gân.

Pedwarawd llinynnol Cymreig yw Pedwarawd Draig a ffurfiwyd yn 2020 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle enillon nhw wobr Pedwarawd Llinynnol Albion a gwobr siambr Bridgewood & Neitzert. Maent wedi ymddangos yn Neuadd Wigmore, wedi gwasanaethu fel Pedwarawd Preswyl Ifanc yng Nghynhadledd ESTA yn 2021, ac wedi bod yn Artistiaid Ifanc yng Ngŵyl Gerdd y Bont-faen yn 2023 a 2024. Wedi derbyn canmoliaeth gan yr adolygydd Richard Bratby am eu "egni" a "bywiogrwydd eu sain tutti", mae'r pedwarawd wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru.
CYMHWYSEDD
Rydych chi'n gymwys i wneud cais os ydych chi:
-
yn creu cerddoriaeth wreiddiol
-
wedi’ch lleoli yng Nghymru ers blwyddyn o leiaf, neu wedi eich geni yng Nghymru a bellach yn byw rhywle arall
-
yn 18 oed neu'n hŷn
-
yn gallu ymrwymo i fynychu pob gweithdy a gynhelir ar y safle
Mae'r llwybr hwn yn croesawu ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio gyda nodiant safonol yn ogystal â'r rhai y mae eu hymarfer creadigol yn defnyddio dulliau llafar, byrfyfyr, graffig neu amgen o greu a chyfathrebu cerddoriaeth.
Wrth wneud cais, ystyriwch hefyd yr ymrwymiad amser sy'n gysylltiedig â datblygu eich gwaith rhwng gweithdai. Bydd dyddiadau cau ar gyfer sgôr yn disgyn cyn pob sesiwn er mwyn caniatáu digon o amser paratoi i berfformwyr.
Mae costau teithio ar gael ar gyfer teithiau yng Nghymru yn unig.
Rydym yn arbennig yn annog ceisiadau gan artistiaid sydd:
-
nad ydynt wedi cael hyfforddiant ffurfiol mewn cyfansoddi neu gerddoriaeth, neu sydd wedi dod at gerddoriaeth drwy lwybrau DIY (gwna dy hun), gan gynnwys y celfyddydau gweledol neu ddisgyblaethau eraill.
-
wedi wynebu rhwystrau economaidd-gymdeithasol a/neu systemig i gyfleoedd ddatblygu eu hymarfer neu eu cerddoriaeth yn y gorffennol.
-
yn uniaethu fel pobl anabl a/neu niwroamrywiol.
-
yn Ddu, yn Asiaidd neu'n rhan o'r Mwyafrif Byd-eang.
-
yn uniaethu fel LHBTC+.
-
yn dod o gefndir dosbarth gweithiol.
OS OES GENNYCH DIDDORDEB, OND MAE AMBELL I GWESTIWN GENNYCH...
... gallwn sgwrsio â chi yn uniongyrchol dros y ffôn neu Zoom. E-bostiwch neu ffoniwch i drefnu sgwrs.
SUT I WNEUD CAIS
Uwchlwythwch y wybodaeth ganlynol i'n PORTH ar-lein
1. Manylion personol: eich enw, rhagenwau dewisol, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, yn ogystal â chadarnhad eich bod dros 18 oed.
2. Dywedwch wrthym am eich ymarfer (Uchafswm o 200 gair): Dywedwch wrthym beth rydych chi'n hoffi ei wneud fel artist/crëwr cerddoriaeth a beth rydych chi wedi bod yn fwyaf balch ohono. Fel rhan o'ch ateb, dywedwch wrthym a ydych chi'n defnyddio nodiant cerddorol, a sut rydych chi'n creu eich gwaith.
3. Pam hoffech chi fod yn rhan o'r llwybr hwn? (Uchafswm o 400 gair) Dywedwch wrthym am:
-
Natur yr hyn yr hoffech ei ddysgu trwy'r llwybr hwn, a sut rydych chi'n gobeithio y gallai effeithio ar eich gwaith.
-
Eich diddordeb mewn cyfansoddi ar gyfer pedwarawd llinynnol
-
Eich diddordeb yn y llais a'ch agwedd at y llais
-
Sut y bydd gweithio mewn carfan o artistiaid o fudd i chi
4. Enghreifftiau o'ch gwaith: dylech ddolenni i ddau ddarn o'ch cerddoriaeth (NB: anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, cysylltwch â ymholiadau@tycerdd.org.) Dewiswch enghreifftiau sy'n adlewyrchu eich cerddoriaeth orau nawr a/neu sy'n berthnasol i'ch agwedd at y cyfle hwn.
5. Oes gennych unrhyw ofynion mynediad neu wybodaeth arall yr hoffech ei rhannu gyda ni?
Yn Tŷ Cerdd, rydym yn dilyn model cymdeithasol anabledd, gan gydnabod mai yn yr amgylcheddau a'r strwythurau cymdeithasol y mae'r rhwystrau'n bodoli, nid yn y bobl eu hunain. Rydym yn eich gwahodd i rannu manylion unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch er mwyn eich galluogi i gymryd rhan yn y rhaglen breswyl/lwybr hon, ond mae hyn yn gwbl ddewisol ar y cam hwn o'ch cais. Os cynigir lle i chi ar y rhaglen, cewch hefyd gyfle i rannu a thrafod eich gofynion mynediad a'ch access rider gyda ni ar unrhyw adeg yn ystod y prosiect.
Ni fydd unrhyw wybodaeth am ofynion mynediad a ddarperir gennych ar y cam hwn yn cael ei rhannu â'r panel, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei chynnwys fel rhan o'ch cais (nodwch hyn isod os felly).
Fformatau rhaglenni amgen
Croesewir ceisiadau hefyd mewn fformat sain neu fideo.
Recordiwch eich ymatebion i Gwestiynau 2 a 3 (cyfanswm o hyd at bedwar munud) a uwchlwythwch ddolen i'ch recordiad, ochr yn ochr â'r wybodaeth y gofynnwyd amdano yng Nghwestiynau 1, 4 a 5.
Os oes angen help arnoch i greu dolen i'ch fideo, cysylltwch â Jordan.pricewilliams@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org am gefnogaeth.
MEINI PRAWF
Bydd y panel yn asesu ceisiadau yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
-
I ba raddau y mae'r ymgeisydd yn dangos agwedd greadigol gref a pherthnasol at y llwybr. Nodwch nid yw hyn yn golygu bod angen i chi wneud cais gyda syniad prosiect sefydlog; yn hytrach eich bod yn dangos i'r panel sut mae'r cyfle hwn yn berthnasol i'ch dull creadigol a chyfeiriad eich gwaith.
-
I ba raddau y bydd yr ymgeisydd yn dangos y bydd eu cerddoriaeth yn elwa o'r llwybr hwn ar hyn o bryd.
-
I ba raddau y mae'r ymgeisydd yn dangos sut y byddant yn elwa o agweddau mentora a charfan y llwybr hwn.
-
Y gwreiddioldeb, ansawdd a photensial a ddangosir yn yr enghreifftiau cerddoriaeth rydych chi'n eu cyflwyno.
LLINELL AMSER A PHROSES
Ceisiadau'n cau: Dydd Llun 17 Awst, 10yb.
Hysbysu ymgeiswyr: ar neu cyn Dydd Gwener 28 Awst .
Bydd y panel dethol yn cael ei arwain gan Jordan Price Williams a Deborah Keyser (Tŷ Cerdd) a Supriya Nagarajan (cyfansoddwr/mentor).
Bydd adborth ar gael ar gais.
CWESTIYNAU
Os hoffech drafod y cyfle cyn gwneud cais, byddem yn hapus i drefnu sgwrs dros y ffôn neu Zoom.
Cysylltwch â Jordan.pricewilliams@tycerdd.org neu ymholiadau@tycerdd.org
Rydyn ni am gael gwared ar gymaint o rwystrau â phosibl i wneud cais, felly os oes unrhyw beth yr hoffech ei drafod, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu.




