top of page

Grantiau Loteri
TÅ· Cerdd

Lottery Oct 2023 images (with bilingual text).png

CANLLAWIAU

Pwy all wneud cais?

Unrhyw sefydliad, o grwpiau gwirfoddol neu gymunedol i gyrff proffesiynol ac elusennau, cyhyd â bod gynnoch chi:

  • dogfen lywodraethu / cyfansoddiad ysgrifenedig

  • cyfrif banc

  • o leiaf dau o bobl nad ydynt yn gysylltiedig ar eich corff llywodraethu (ni chaiff yr un person gael ei restru ar gyfer mwy nag un swydd ar y ffurflen)

​

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan:

  • unigolion

  • unig fasnachwyr

  • sefydliadau er elw (er enghraifft, cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau)

  • sefydliadau a leolir y tu allan i’r DU

  • y naill sefydliad yn gwneud cais am gyllid ar ran un arall

​

Beth na allwn ei ariannu?

  • gweithgareddau sy’n statudol neu a fydd yn cymryd lle cyllid statudol (e.e. gweithgareddau ar gwricwlwm ysgol neu sy’n digwydd yn ystod oriau gwersi ysgol)

  • unrhyw weithgaredd neu wariant sy’n digwydd ynghynt na phum wythnos ar ôl dyddiad cau’r cais.
    DS: ni allwn ariannu gweithgaredd y mae tocynnau eisoes ar werth i’r cyhoedd ar ei gyfer

  • unrhyw wariant cyfalaf (e.e. offerynnau, offer recordio, iwnifformau)

  • gweithgareddau a anelir yn bennaf at gynulleidfaoedd y tu allan i Gymru

  • ceisiadau am ariannu costau teithio’n unig

  • ceisiadau am dalu costau gwneud recordiad masnachol yn unig

  • costau staff presennol; gallwn dalu i unigolion gyflwyno gweithgareddau byrdymor

  • gorbenion sefydliadol (er enghraifft, biliau cyfleustodau, y dreth gyngor, rhent ac yswiriant)

  • gweithgarwch codi cyllid

  • TAW adenilladwy

​

Blaenoriaethau ariannu

Bydd y panel yn edrych i ariannu prosiectau sy’n cynnig cyfleoedd rhagorol i artistiaid / cyfranogwyr / cynulleidfaoedd. Ochr yn ochr â hyn, dylai’ch gweithgaredd ymateb i’r blaenoriaethau isod. Gwerthfawrogwn na fydd pob prosiect yn ymateb i’r holl flaenoriaethau, ond gyda rowndiau cyllid cystadleuol, ffefrir prosiectau sy’n gweithio yn y mwyaf o’r meysydd blaenoriaeth:

  • Meithrin cerddoriaeth newydd.

  • Creu partneriaethau rhwng artistiaid a sefydliadau.

  • Helpu i ddod â chymunedau ynghyd.

  • Ysbrydoli pobl ifainc.

  • Gweithio gyda a thros unigolion a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli neu sydd wedi

​

Yn ogystal â’r blaenoriaethau hyn, bydd y panel yn edrych ar ddosbarthiad daearyddol a math y sefydliadau sy’n gwneud cais i sicrhau bod ein harian yn cael ei dargedu mor eang â phosibl.

​

Pryd y gallwn wneud cais?

Ceir pedwar dyddiad cau y flwyddyn ar gyfer ceisiadau – ym mis Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref; cyhoeddir yr union fanylion ar brif dudalen y Loteri YMA.

​

Sut i wneud cais?

I wneud y broses yn haws, rydyn ni wedi creu porth ar-lein i gyflwyno’ch cais y gellir mynd ato drwy’r ddolen YMA. Mae’r porth yn gadael i chi roi’r holl wybodaeth angenrheidiol am eich sefydliad, megis manylion cyfreithiol a chyswllt, rhifau elusen ac yn y blaen. Ochr yn ochr â hyn, bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen ar gyfer manylion y prosiect a dogfen gyllideb a lleoliad y gellir hefyd gael hyd iddynt ar ein gwefan. Dylid uwchlwytho’r ddwy ddogfen i’r porth cyn i chi gyflwyno’ch cais.

​

â–¶ Ffurflen manylion y prosiect - Creu

​

â–¶ Ffurflen manylion y prosiect - Ymgysylltu/Ysbrydoli

​

â–¶ Gwybodaeth cyllideb a lleoliad

 

Ni allwch gadw’ch cais a dychwelyd ato felly rhaid i chi ei gwblhau mewn un cynnig ond gallwch edrych ar y porth cynifer o weithiau ag sydd raid i weld pa wybodaeth sydd ei hangen.

​

Fel arall, mae croeso i chi anfon cais fideo aton ni. Ni ddylai’ch fideo bara mwy na 5 munud a rhaid iddo ateb yr un cwestiynau ag y gwna ceisiadau ysgrifenedig. Dylech ei chyflwyno drwy’r un porth ar-lein, gyda dogfen gyllideb a lleoliad wedi’i huwchlwytho ochr yn ochr â’r fideo. Os bydd angen help aelod o dîm TÅ· Cerdd i greu’r ddogfen gyllideb, cysylltwch â ni.

 

Eich cyllideb

Bydd yn rhaid i chi gyflwyno cyllideb i ni gan ddefnyddio’r templed. Mae’r gyllideb yn cynnwys gwariant (costau cyflwyno’r prosiect) ac incwm a rhaid iddi fantoli (h.y. rhaid i holl gost y gwariant fod yn gyfateb i gyfanswm yr incwm). Ni allwn dderbyn cyllideb sy’n rhagweld elw neu golled.

​

Os yw’ch sefydliad wedi gwneud cais i gorff arall am gyllid ffurfiol tuag at y prosiect (megis ymddiriedolaeth / sefydliad elusennol ac yn y blaen), rhaid i chi nodi a yw’r cyllid yma yn yr arfaeth neu wedi’i gadarnhau. Gall hyn gael effaith ar eich cais pan fydd yn cael ei drafod gan y panel.

​

Dim ond hyd at 90% o gyfanswm costau’r prosiect y gallwn ei ariannu, felly bydd angen i chi ddangos bod 10% o’ch incwm yn dod o ffynonellau eraill (e.e. incwm drwy docynnau, eich cyllid eich hun, codi arian, rhoddion). DS: ni chaiff eich 10% o gyllid cyfatebol ddod o ffynonellau’r Loteri. 

​

Ar gyfer y cronfeydd Ymgysylltu ac Ysbrydoli, gall y 10% cyfatebol fod ar ffurf nwyddau a gwasanaethau. Cyfraniad i’ch prosiect sydd heb fod yn arian parod yw cefnogaeth drwy nwyddau a gwasanaethau (e.e. canolfan ar gael am ddim). Ar gyfer y gronfa Creu, ni ellir defnyddio cyllid cyfatebol ar ffurf nwyddau a gwasanaethau tuag at ffioedd artistiaid. Rydyn ni wedi creu adran ar wahân yn y gyllideb ar gyfer yr wybodaeth yma.

​

Gwybodaeth a chyngor pellach i helpu gyda’ch cais
Bydd eich cais yn mynd gerbron panel o gynghorwyr; rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bod ein paneli’n amrywiol ac yn cynrychioli ystod o gefndiroedd a dulliau / genres  cerddorol.

​

Pan fydd aelodau’r panel yn asesu’ch cais, byddant yn ystyried sut y bydd eich prosiect yn gwneud gwahaniaeth i artistiaid a chynulleidfaoedd a sut rydych yn bwriadu cyrraedd cymunedau a chyfranogwyr. Byddant am weld menter gyffrous sy’n dangos ôl meddwl, wedi’i chynnal gan gyllideb sy’n mantoli (ac sy’n realistig).

​

Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd aelodau’r panel â gwybodaeth flaenorol am eich sefydliad a’i weithgarwch. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu cyd-destun a chefndir byr i’r sefydliad cyn bwrw ati i fanylu am y gweithgaredd yr hoffech i ni ei ariannu. Os ydych yn teimlo y byddai’n helpu’ch cais i ychwanegu gwybodaeth ategol, cewch atodi dogfen Word sydd heb fod yn fwy na 2 ochr o A4, 12 pwynt.

​

Os oes angen help arnoch chi

Os oes angen cymorth o unrhyw fath gyda’ch cais, cysylltwch â lottery@tycerdd.org neu ffonio 029 2063 5640 ac mi wnawn ni ein gorau i’ch helpu. 

​

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rhown ni wybod i chi beth yw ein penderfyniad o fewn pum wythnos o ddyddiad cau’r ceisiadau.

​

Os yw’ch cais yn aflwyddiannus, rhown ni wybod i chi pam.

​

Os byddwn yn cynnig cyllid i chi, mi wnawn ni gysylltu â chi drwy e-bost gan roi manylion unrhyw amodau sydd i’r grant (lle bo’n berthnasol). Rhaid i chi ddychwelyd y cytundeb i ni o fewn 28 diwrnod o dderbyn yr e-bost, ynghyd â chadarnhad y gallwch gyflawni unrhyw amodau. Yn sgil hynny byddwn yn rhyddhau 75% o’r cyllid i chi.

​

Wrth i’ch prosiect ddod yn nes at gael ei orffen, anfonwn atoch chi adroddiad prosiect i’w gwblhau sy’n ein helpu i ganfod sut aeth pethau, beth oedd yn gweithio a beth oedd ddim yn gweithio, a beth oedd y canlyniadau. Bydd taliad 25% olaf eich grant yn cael ei ryddhau ar ôl i’r adroddiad gael ei gymeradwyo a rhown ni wybod i chi unwaith i’r taliad gael ei wneud. 

​

Nodyn i ymgeiswyr CREU llwyddiannus: dylech ddychwelyd yr adroddiad cwblhau aton ni cyn gynted ag y bydd eich crëwr cerddoriaeth wedi cyflwyno ei sgôr neu wedi gorffen ei waith (yn hytrach nag aros tan ar ôl y perfformiad cyntaf), i sicrhau bod y crëwr cerddoriaeth yn derbyn y taliad llawn cyn gynted ag y bo modd.

​

​

â–¶ Sut i wneud cais

​

â–¶ Telerau ac amodau

​

â–¶ Grantiau Loteri

​

â–¶ Creu

​

â–¶ Ymgysylltu

​

â–¶ Ysbrydoli

​

​

WG lottery & ACW logos.png
bottom of page