Tŷ Cerdd
Lottery Grants
SUT I WNEUD CAIS
Sut i wneud cais i Creu / Ysbrodoli / Ymgysylltu
Mae Tŷ Cerdd yn peilotio system newydd i wneud cais i’w gronfeydd Loteri.
I wneud cais am gyllid Creu / Ysbrydoli / Ymgysylltu, bydd angen i chi:
-
Cwblhau’r ffurflen ynglŷn â manylion y prosiect a llenwi’r ddogfen ategol (gyda’ch cyllideb arfaethedig a manylion lleoliad eich prosiect)
-
Cwblhau’r ffurflen uwchlwytho gydag ychydig wybodaeth ychwanegol am eich sefydliad a’ch prosiect
-
Atodi’ch ffurflen gais a’r ddogfen ategol
-
Cyflwyno’ch cais.
Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen uwchlwytho mewn un sesiwn, felly ein hawgrym yw eich bod yn cael popeth ynghyd i’w chwblhau cyn i chi ddechrau. Bydd angen:
-
manylion am y sefydliad rydych chi’n ei gofrestru (manylion cyswllt, dyddiad dechrau’r sefydliad)
-
manylion am y prosiect (enw, dyddiad dechrau, dyddiad dod i ben)
-
manylion cyswllt ar gyfer eich prif gyswllt a’r person a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am unrhyw gyllid
Bydd y ffurflen uwchlwytho yn agored o 7 Ionawr 2021 a gallwch edrych arni faint fynnoch chi o weithiau cyn ei chwblhau.
Dewisiadau eraill ar gyfer gwneud cais
Os nad ydych chi’n gallu defnyddio ein system ar-lein ac am ddefnyddio ffordd arall o wneud cais, fel ffurflen gais bapur, ffurflen gais fideo neu ryw ddull arall, cysylltwch â ni ar lottery@tycerdd.org neu ar 029 2063 5640.
manylion y prosiect ddogfen ategol ffurflen uwchlwytho
Sut i wneud cais i Achub / Adnodd / Ailddechrau
Mae Tŷ Cerdd yn peilotio system newydd i wneud cais i’w gronfeydd Loteri.
I wneud cais am gyllid Achub ac Adnodd, bydd angen i chi:
-
Cwblhau’r ddogfen ategol (gyda’ch cyllideb arfaethedig a manylion lleoliad eich prosiect)
-
Cwblhau’r ffurflen uwchlwytho gydag ychydig wybodaeth ychwanegol am eich sefydliad a’ch prosiect
-
Atodi’ch ffurflen gais a’r ddogfen ategol
-
Cyflwyno’ch cais.
I wneud cais am Ailddechrau, bydd angen i chi:
-
Cwblhau’r ffurflen ynglŷn â manylion y prosiect a llenwi’r ddogfen ategol (gyda’ch cyllideb arfaethedig a manylion lleoliad eich prosiect)
-
Cwblhau’r ffurflen uwchlwytho gydag ychydig wybodaeth ychwanegol am eich sefydliad a’ch prosiect
-
Atodi’ch ffurflen gais a’r ddogfen ategol
-
Cyflwyno’ch cais.
Bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen uwchlwytho mewn un sesiwn, felly ein hawgrym yw eich bod yn cael popeth ynghyd i’w chwblhau cyn i chi ddechrau. Bydd angen:
-
manylion am y sefydliad rydych chi’n ei gofrestru (manylion cyswllt, dyddiad dechrau’r sefydliad)
-
manylion cyswllt ar gyfer eich prif gyswllt a’r person a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am unrhyw gyllid
-
ar gyfer Ailddechrau bydd hefyd angen manylion am y prosiect (enw, dyddiad dechrau, dyddiad dod i ben)