top of page

Bursaries available for Classical:NEXT (Berlin, May 2024)

​

Classical:NEXT is the global networking and exchange hub dedicated exclusively to classical and art music, for all professionals – artists, managers, presenters, orchestras, labels, educators, press, media, publishers and more. The event includes an interactive conference, project pitches, showcase concerts, expo, and networking. By taking part in Classical:NEXT, you join over 1,000 professionals from more than 45 countries from around the world.

​

The event takes place this year in Berlin from 13 to 16 May, and TÅ· Cerdd (with support from Wales Arts International) is offering 5 bursaries to support Welsh/Wales-based professionals to attend as delegates.

​

TÅ· Cerdd (Music Centre Wales) will be managing the Welsh presence at the event – including a Cymru/Wales stand at the expo.

​

We held a Zoom session for organisations or artists wanting to find out more about Classical:NEXT, the opportunities it provides and the bursaries we’re offering, and you can see the recording from the session HERE.

 

Application details and deadline

The opportunity is open to organisations and individuals.

5 bursaries of £1000 are available.

​

To apply please upload the following information to our PORTAL by 1700 on Tuesday 9 April:

​​​

  1. Name, address, email address, mobile number, website, social media handles (if you’re applying for an organisation, please complete your organisational details here)

  2. If you are an artist: 2 audio/audio-visual links to your music.

  3. Short description of your practice/professional work (up to 100 words);

  4. Have you attended Classical: NEXT before? If yes, what were the outcomes? (up to 100 words)

  5. What would you aims be in attending the 2024 event? (up to 200 words)

 

NB: Video and audio applications are also welcomed. Record your answers to questions 3, 4 & 5 above (up to 4 minutes’ duration), and upload the information requested in questions 1 & 2 to the upload form. If you need help creating links, email us for help.

​

Notes to applicants

  • Equality, diversity & inclusion: We are keen to receive applications from individuals who are under-represented / have faced neglect or exclusion from the arts community; we particularly welcome applications from disabled people, Black, Asian and ethnically diverse people, LGBTQ+ people, and people from lower socio-economic backgrounds.

  • Access: If you have any questions or concerns around access requirements, email and we’ll do our best to help or find answers.

  • Queries: If you have any queries about the bursaries or the event, and want to discuss a potential application please email and we can arrange a conversation.

  • Panel: Deborah Keyser (TÅ· Cerdd), Danny KilBride (Trac), Eluned Haf (Wales Arts International), Suzanne Griffiths-Rees (ACW).

  • Timeline: All applicants will be informed of the decisions by w/c Monday 15 April 2024.

CYM

Bwrsariaethau ar gael ar gyfer Classical:NEXT (Berlin, Mai 2024)

​

Classical:NEXT yw’r hwb rhwydweithio a chyfnewid byd-eang sy’n benodol ar gyfer cerddoriaeth glasurol a chelf, i bob gweithiwr proffesiynol – yn artistiaid, rheolwyr, cyflwynwyr, cerddorfeydd, labeli, addysgwyr, y wasg, y cyfryngau, cyhoeddwyr a mwy. Mae’r digwyddiad yn cynnwys cynhadledd ryngweithiol, cyflwyniadau i brosiectau, cyngherddau arddangos, expo, a rhwydweithio. Trwy gymryd rhan yn Classical:NEXT, byddwch yn ymuno â mwy na 1,000 o weithwyr proffesiynol o dros 45 gwlad ledled y byd.

​

Cynhelir y digwyddiad eleni yn Berlin rhwng 13 ac 16 Mai, ac mae TÅ· Cerdd (gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) yn cynnig 5 bwrsariaeth i gefnogi gweithwyr proffesiynol  Cymreig/o Gymru i’w fynychu fel cynrychiolwyr.

​

Bydd TÅ· Cerdd yn rheoli presenoldeb Cymru yn y digwyddiad – gan gynnwys stondin Cymru/Wales yn yr expo.

​

Cynhaliom ni sesiwn Zoom ar gyfer sefydliadau ac artistiaid a oedd eisiau gwybod mwy am Classical:NEXT, y cyfleoedd posibl ohono a’r bwrsariaethau rydyn ni’n eu cynnig, a gallwch wylio'r recordiad o'r sesiwn YMA.

​

Manylion ymgeisio a dyddiad cau

Mae’r cyfle hwn yn agored i sefydliadau ac unigolion

Mae 5 bwrsariaeth o £1000 ar gael.

​

I ymgeisio, lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n PORTH erbyn 1700 ddydd Mawrth 9 Ebrill:

​​​

  1. Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, gwefan, dolenni i gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol (os ydych yn gwneud cais dros sefydliad, rhowch fanylion eich sefydliad yma)

  2. Os ydych yn artist: anfonwch 2 ddolen at sain/fideo o’ch cerddoriaeth.

  3. Rhowch ddisgrifiad byr o’ch ymarfer/gwaith proffesiynol (hyd at 100 gair)

  4. Ydych chi wedi mynychu Classical: NEXT o’r blaen? Os do, beth oedd y canlyniadau? (hyd at 100 gair)

  5. Beth fyddai eich amcanion wrth fynychu digwyddiad 2024? (hyd at 200 gair) 

 

Sylwer: Rydym yn croesawu ceisiadau ar fideo a sain hefyd. Recordiwch eich atebion i gwestiynau 3, 4 a 5 uchod (hyd at 4 munud), a lanlwytho’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 2 i’r ffurflen lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolenni, e-bostiwch ni am help.

​

Nodiadau i ymgeiswyr

  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant: Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli / sydd wedi’u hesgeuluso neu eu gwahardd o gymuned y celfyddydau; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

  • Mynediad: Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch mynediad, anfonwch ebost atom ac fe wnawn ein gorau i helpu neu ddod o hyd i atebion.

  • Ymholiadau: Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y bwrsariaethau neu’r digwyddiad, ac eisiau trafod cais posibl, anfonwch neges ebost a gallwn drefnu sgwrs ffôn.

  • Panel: Deborah Keyser (TÅ· Cerdd), Danny KilBride (Trac), Eluned Haf (Celfyddydau Rhyngwladol Cymru), Suzanne Griffiths-Rees (ACW).

  • Amserlen: Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwybod ein penderfyniadau erbyn yr wythnos yn dechrau dydd Llun 15 Ebrill 2024.

WOMEX 2024 logo strip.png
bottom of page