CoDI Grange
Mae CoDI Grange wedi comisiynu chwe artist neu pâr i greu gosodiadau cerddoriaeth a sain ar gyfer y gofod capel aml-ffydd yn Ysbyty Prifysgol newydd y Grange yn Llanfrechfa. Disgwylir i'r capel aml-ffydd, ynghyd â'r gosodiadau sain agor yng ngwanwyn 2021.
ARTISTIAID
Ashley John Long
Angharad Jenkins and Delyth Jenkins
Leona Jones
Stacey Blythe
Teifi Emerald and Ess Louise
Jo Thomas (lead composer)
Bydd y gyfansoddwraig/artist sain Cymreig arobryn Jo Thomas yn cyfansoddi ei gwaith ei hun i’r gofod gan gydweithio â Thŷ Cerdd i ddarparu arweinyddiaeth artistig a thechnegol i’r pum artist sy’n cymryd rhan (a ddetholir drwy alwad agored). Bydd pob un o’r pum artist yn cydweithio â grŵp cerddoriaeth cymunedol yn un o awdurdodau lleol y Bwrdd Iechyd (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, De Powys) yn ystod y broses o greu ei ddarn.
Amserlen
Cyflwyno’r gwaith: Rhagfyr 2020
Agor yr ysbyty: gwanwyn 2021
