top of page

Cyfansoddiad: Cymru 2020

Cyfansoddi: Cymru 2020 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Ar y cyd â Cyfansoddwyr Cymru,TÅ· Cerdd, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.

​

Dydd Mawrth 28 Ionawr 2020
Dydd Mawrth 3 Mawrth 2020

Dydd Mercher 4 Mawrth 2020

bbc 1.png

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cynnig cyfle unigryw a chyffrous: mae cyfansoddwyr yn cael eu gwahodd i gyflwyno sgôr i'w hystyried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru a gynhelir yn ystod mis Ionawr a mis Mawrth 2020.

​

Bydd y sgorau a ddewisir yn ymddangos yn y prosiect yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd. Bydd Diwrnod Gweithdy cychwynnol Cyfansoddi: Cymru yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 28 Ionawr 2020 - dilynir y diwrnod hwn gan ail gam deuddydd Cyfansoddi: Cymru ddydd Mawrth 3 Mawrth a Dydd Mercher 4 Mawrth 2020.
 
Bydd y prosiect yn cael ei arwain gan yr Arweinydd a'r Cyfansoddwr B Tommy Andersson gyda Chyfansoddwr Cyswllt BBC NOW, Huw Watkins. Gan ddibynnu ar y cyflwyniadau, bydd 6 i 8 sgôr yn cael eu dewis ar gyfer y prosiect gan B Tommy Andersson a Huw Watkins.

Mae'r prosiect yn rhan o weithgarwch Dysgu Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Y nod yw arddangos gwaith gan gyfansoddwyr yng Nghymru sy'n deilwng o sylw ehangach, a chaiff ei drefnu ar y cyd â Cyfansoddwyr Cymru, TÅ· Cerdd, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.


Dyma’r cyfansoddwyr sy’n gymwys i gyflwyno sgorau:
•    Cyfansoddwyr a aned yng Nghymru ac sydd wedi cwblhau gradd mewn cerddoriaeth ar lefel israddedig neu gymhwyster cyfwerth.
•    Cyfansoddwyr sy'n byw yng Nghymru ac sydd wedi cwblhau gradd mewn cerddoriaeth ar lefel israddedig neu gymhwyster cyfwerth.
•    Cyfansoddwyr sy'n astudio cyfansoddi ar lefel Ôl-radd yng Nghymru.
•    Cyfansoddwyr a aned yng Nghymru sy'n astudio cyfansoddi ar lefel Ôl-radd y tu allan i Gymru 

​

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd yn ystyried sgorau gan gyfansoddwyr a aned yng Nghymru neu sy'n byw yng Nghymru ar hyn o bryd ac sy'n gallu dangos hanes sicr o gyfansoddi, heblaw cwblhau gradd mewn cerddoriaeth neu gymhwyster cyfwerth. Sylwer bod rhaid i gyfansoddwyr allu dangos yn glir eu bod wedi cael addysg flaenorol gyfwerth a bod ganddynt lefel addas o brofiad neu gymhwysedd sy’n cymharu â'r categorïau a restrir uchod. 

​

Mae croeso i sgorau gan gyfansoddwyr sydd wedi’u dewis o’r blaen i ymddangos yn Cyfansoddi: Cymru neu Sioe Arddangos Cyfansoddwyr Cymru (sef enw’r digwyddiad hwn yn flaenorol). Efallai y bydd hyn yn cael ei ystyried yn ystod y broses ddethol er mwyn rhoi sylw i’r detholiad ehangaf posibl o gyfansoddwyr. 

​

Yn yr un modd, os yw cyfansoddwyr wedi cael amrywiaeth o brofiadau proffesiynol eisoes, efallai y bydd hyn yn cael ei ystyried yn y broses ddethol.

Ni fydd sgorau sydd wedi cael eu perfformio eisoes gan gerddorfa broffesiynol yn cael eu hystyried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru.


Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno pedwar copi o sgorau llawn A3 ac un copi o sgôr lawn A4: 
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2020 am 10:00         
Hyd y darn: dim mwy nag 8 munud. Sylwer fod croeso i sgorau sy'n fyrrach o ran hyd. 

Bydd y cyfansoddwyr a ddewisir i'w cynnwys yn Cyfansoddi: Cymru 2020 yn cael gwybod ddydd Gwener 6 Rhagfyr 2020

Y dyddiad cau i gyfansoddwyr gyflwyno rhannau (copïau caled ynghyd â PDF a ffeil electronig naill ai yn: fformat Sibelius 7.5, Sibelius 6, Sibelius 5 neu Sibelius 4): Dydd Llun 6 Ionawr 2020.

Bydd disgwyl i bob cyfansoddwr llwyddiannus ddod i BOB sesiwn a dyddiad a nodir isod.

​

Gweithdai a chyngerdd penllanw:
Dydd Mawrth 28 Ionawr 2020 - Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd
Gweithdai ar agor i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim: 1400-1700 a 1800-2100 

Dydd Mawrth 3 Mawrth 2020 - Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd
Gweithdai ar agor i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim: 1400-1700 a 1800-2100 

Dydd Mercher 4 Mawrth 2020 - Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd
Ymarfer agored yn rhad ac am ddim: 14:30-17:30
Cyngerdd yn rhad ac am ddim o uchafbwyntiau'r prosiect: 19:00   

​

Canllawiau ar gyfer Cyfansoddwyr

Briff Arweiniad 

Gwahoddir sgorau gyda’r briff canlynol fel arweiniad: 

Darn perffaith i agor un o gyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC neu fel encore, er enghraifft yn y cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi neu ar daith ryngwladol. 

Hyd y darn: dim mwy nag 8 munud. Sylwer fod croeso i sgorau sy'n fyrrach o ran hyd.


1. Gofynnir i’r cyfansoddwyr sicrhau bod amseroedd manwl gywir yn cael eu darparu. Ar gyfer gweithiau sy'n cynnwys mwy nag un symudiad, dylai’r cyfansoddwyr ddweud pa symudiad yr hoffent iddo gael ei ystyried ar gyfer y prosiect.
  
2. Caiff cyfansoddwyr gyflwyno hyd at 2 waith i'w hystyried ar gyfer y prosiect. Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno sgorau yw 10:00 Dydd Mercher 13 Tachwedd 2019.

​

3. Ni fydd sgorau sydd wedi cael eu perfformio eisoes gan gerddorfa broffesiynol yn cael eu hystyried ar gyfer Cyfansoddi: Cymru.

​

4. Rhaid i gyfansoddwyr gyflwyno pedwar copi A3 ochrau dwbl ar ffurf portread wedi'u rhwymo ac un copi ochrau dwbl A4 ar ffurf portread heb ei rwymo o sgorau llawn eu gwaith – ynghyd â ffeil PDF o'r sgôr. DS: Plîs peidiwch ag ysgrifennu eich enw ar eich sgorau gan fod y broses o lunio rhestr fer yn digwydd yn ddienw.


5. Sgorau wedi'u printio fyddai orau; ond derbynnir sgorau mewn llawysgrifen os ydynt yn daclus ac yn ddarllenadwy.

​

6. Rhaid ysgrifennu'r sgorau ar gyfer cerddorfa symffoni gyda'r trefniant cerddorfaol mwyaf posibl:
3.3.3.3. 4.3.3.1. Tymp.+3Taro Telyn Piano/Selesta. Llinynnau 12.10.8.6.4 
DS: Ni fydd sgorau y tu hwnt i'r trefniant cerddorfaol hwn, neu a ysgrifennwyd ar gyfer offeryn unigol a cherddorfa, yn cael eu hystyried ar gyfer prosiect Cyfansoddi: Cymru BBC NOW.
Chwythbrennau:
Sylwer o fewn y cyflenwad chwythbrennau o 3.3.3.3 bod dybliadau picolo, ffliwt alto, cor anglais, clarinét Eb, clarinét bas ac is-fasŵn ar gael.

Offerynnau Taro - Sylwer:
i). Sicrhewch fod modd i rannau'r offerynnau taro gael eu chwarae gan 3 offerynnwr taro i ganiatáu amser i symud rhwng offerynnau.
ii). Rhaid i'r offerynnau taro a ddewisir fod o fewn darpariaeth safonol cerddorfa symffoni. I gael rhagor o eglurder, cysylltwch â now@bbc.co.uk
 
D.S. Cynghorir cyfansoddwyr yn gryf i ddarllen y ddogfen ychwanegol ‘A Composer’s Guide to Percussion’ gan Chris Stock (Prif Offerynnwr Taro, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC) sydd ar gael ar ffurf PDF os gwneir cais amdano drwy anfon neges e-bost i now@bbc.co.uk

​

7. Sylwer y dylid cadw at gynllun safonol cerddorfa symffoni yn y neuadd gan na fydd amser i ad-drefnu'r gerddorfa yn ystod y diwrnodau.

​

8. Sylwer na ddylid gofyn i gerddorion Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC leisio neu ganu.

​

9. Rhaid darparu sgorau llawn ar ffurf A3 ochrau dwbl (cynllun portread).
DS: Dylai erwyddi mewn sgorau llawn fod yn 7.5mm o uchder o leiaf.

​

10. Bydd yn ofynnol i gyfansoddwyr sgorau a ddewisir gyflwyno copïau caled o rannau ar ffurf A4 neu B4, ac un copi caled dyblyg o'r sgôr lawn heb ei rwymo ar ffurf A3 erbyn dydd Llun 6 Ionawr 2020, 5pm.

​

11. Hefyd, bydd yn ofynnol i gyfansoddwyr sgorau a ddewisir anfon y rhannau ar e-bost ar ffurf portread A4 mewn PDF ac fel ffeil electronig yn naill ai: Sibelius 7.5, Sibelius 6, Sibelius 5 neu Sibelius 4 erbyn dydd Llun 6 Ionawr 2020, 5pm. I gael eu derbyn, rhaid i rannau neu sgorau llawn fod yn daclus a darllenadwy os ydynt mewn llawysgrifen. 

DS: Cyflwynwch PDF ar wahân ar gyfer eich Sgôr Lawn yn ogystal â phob rhan unigol ar gyfer pob offeryn ym mhob adran o’r gerddorfa.
                                                                                         

Nodiadau ar Gyflwyno Rhannau Cerddorfaol

i)    Dylai cyfansoddwyr bob amser ystyried pa mor ddarllenadwy yw'r darnau o safbwynt chwaraewr, gan gofio y bydd y gerddoriaeth yn cael ei darllen o bellter rhesymol. 

ii)    Gofynnir i gyfansoddwyr roi sylw penodol i ganiatáu amser i chwaraewyr droi tudalennau a (lle bo angen) i newid offerynnau. 

iii)    Dylai sgorau a rhannau fod yn gwbl ddarllenadwy, ac yn benodol dylid cael rhifau bar ar ddechrau pob system a marciau ymarfer (yn cael eu dynodi fel llythrennau neu rifau bar mawr) bob hyn a hyn. 

iv)    Dylai rhannau unigol i'r llinynnau (e.e. Ffidil I) gael eu hargraffu gyda'i gilydd (h.y. ni ddylai divisis neu rannau unigol fod ar rannau gwahanol) a dylid nodi a yw'r divisis yn ôl chwaraewr ynteu ddesg.

v)    Sicrhewch eich bod yn creu rhannau ar wahân i bob cerddor unigol yn y gerddorfa, ac ni ddylent gynnwys unrhyw ddeunydd heblaw rhan y cerddor ei hun.

vi)    Dylid rhoi sylw arbennig i nodiant – dylid esbonio unrhyw nodiant anarferol er mwyn arbed amser wrth ymarfer. Hefyd, ceisiwch osgoi hapnodau diangen, ond lle bo angen, dylech gynnwys hapnodau rhybuddiol er mwyn osgoi dryswch.

vii)    Ceir enghreifftiau o arferion gorau mewn setiau cerddorfaol gan Barenreiter, Breitkopf, Faber, Novello a Schott.

viii)    Gwnewch yn siŵr fod sgorau llawn a'r holl rannau wedi cael eu prawfddarllen, eu gwirio a’u cywiro yn drwyadl a gofalus cyn eu hanfon.

​

12. Bydd yn ofynnol i gyfansoddwyr y sgorau a ddewisir fynychu’r holl weithdai sy’n cael eu cynnal ddydd Mawrth 28 Ionawr 2020, dydd Mawrth 3 Mawrth a dydd Mercher 4 Mawrth 2020


Recordiadau:
Os yw ar gael, anfonwch recordiad Sibelius electronig neu CD neu Ffeil sain o'r sgôr lawn. 
Sylwer nad yw’n hanfodol darparu recordiad.

​

Dylid anfon y sgorau i: 
Cyfansoddi: Cymru 2020, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5AL.

​

Cwestiynau

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, anfonwch e-bost at now@bbc.co.uk neu ffonio 0800 052 1812.

www.bbc.co.uk/now

bottom of page