top of page
text icon black.png

Gareth Churchill 1980

Ganwyd Gareth Churchill i deulu o Gymru yn 1980 ond fe’i magwyd ar wastadeddau Gwlad yr Haf, Lloegr. Astudiodd yn Llundain gyda Rhian Samuel ac yng Nghaerdydd gydag Anthony Powers, gan dderbyn PhD mewn Cyfansoddi yn 2008.​

 

Mae gwaith Gareth wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys Gwobr Goffa David Wynne/Eirwen Thomas a Gwobr William Matthias. Mae comisiynau yn cynnwys gwaith ar gyfer Gŵyl Bro Morgannwg, Musicfest Aberystwyth a Gŵyl Gerdd Bangor, gyda pherfformiadau o’i gerddoriaeth wedi cyrraedd cynulleidfaoedd yng Ngwlad Belg, Estonia, yr Eidal, Japan, Norwy, Sbaen, yr UDA a’r Deyrnas Unedig. Mae gwaith Gareth yn cynnwys miniaturau a dilyniannau ohonynt, sy’n adlewyrchu diddordeb mewn cryptograffeg, gyda llawer o deitlau’r gweithiau yn cynnig yr allwedd i ddeall eu modd cerddorol.

 

Mae wedi addysgu yn Ysgol Gerdd Prifysgol Caerdydd, ar y cwrs cyfansoddwyr yn Musicfest Aberystwyth ac mae’n athro cerdd yng Nghanolfan Addysg Barhaus a Phroffesiynol Prifysgol Caerdydd.

Gareth Churchill yn Fron b.jpg