top of page

Gareth Glyn 1951

Mae Gareth Glyn, sy’n enedigol o Fachynlleth, yn gyfansoddwr llawn-amser sydd wedi byw yn Sir Fôn ers 1978.  Mae’r ynys, drwy ei thirlun, hanes a chwedloniaeth, yn parhau i fod yn ddylanwad allweddol ar ei waith.

 

Mae ei gannoedd o gyfansoddiadau yn cynnwys symffoni, consiertos, agorawdau a darnau cerddorfaol eraill.  Mae’n cael ei gyfri’n un o brif gyfansoddwyr corawl Cymru, ac mae rhai o’i ganeuon unawdol, megis Llanrwst a Seithug, yn rhan o repertoire ein cantorion mwya blaenllaw. Cyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer nifer o ddramáu cerdd gan gynnwys Magdalen, 3-2-1 a Gwydion, a cafodd ei opera Wythnos yng Nghymru Fydd (a deithiodd drwy Gymru yn 2017) ei dyfarnu’r Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru 2018.

Gareth Glyn.jpg

Gareth Glyn, who was born in Machynlleth, mid-Wales, is a full-time composer who has lived since 1978 on Anglesey – an island which, though its landscape, history and legends, continues to be a key influence on his work.

 

His hundreds of compositions include a symphony, concertos, overtures and other orchestral works.  He is considered one of Wales’s foremost choral composers, and some of his solo songs are part of the standard repertoire of some of his country’s leading singers.  He composed the music for a great many musicals, and his opera Wythnos yng Nghymru Fydd (“A Week in a Future Wales”), which toured nationally in 2017, was judged Best Production in the Welsh Language in the Wales Theatre Awards 2018

ENGLISH
bottom of page