top of page
MPT tuba 01.jpg

Matthew Thistlewood

(Head of Digital Content / Pennaeth Cynnwys Digidol)

matthew.thistlewood@tycerdd.org          +44 (0)29 2063 5650

 

Ymunodd Matthew â ThÅ· Cerdd yn 2005 fel Rheolwr Cerddoriaeth Ieuenctid, gan redeg gweithgareddau chwech o saith ensemble cenedlaethol ieuenctid Cymru. Ymhlith uchafbwyntiau’r cyfnod yma mae teithiau i Lwcsembwrg a’r Ariannin, recordiadau CD, ymddangosiadau mewn gwyliau a pherfformiadau ym Mhroms y BBC, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â’r arweinyddion Ben Gernon, Simon Toyne a Pete Harrison a’r cyfansoddwyr, Paul Mealor a Gareth Wood.

​

Mae Matthew yn dilyn gyrfa gerddorol bortffolio fel chwaraewr tiwba, athro ac arweinydd a hefyd yn gweithio fel ffotograffydd a dylunydd graffig. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg y Gofaint Aur, Prifysgol Llundain a’r Academi Gerdd Frenhinol a dysgwyd iddo chwarae’r tiwba gan James Gourlay a Patrick Harrild. Mae wedi gweithio’n llawrydd gyda cherddorfeydd ac ensembles ledled de Cymru a gorllewin Lloegr ac ar hyn o bryd ef yw prif chwaraewr tiwba Thames Fanfare Brass ac y Bristol Ensemble.

​

Mae gwaith addysg Matthew wedi cynnwys tiwtora gyda cherddorfeydd a bandiau ieuenctid megis Cerddorfa Chwyth Ieuenctid Caint a’r Gerddorfa Blant Genedlaethol. Mae’n arwain Pres Symffonig Sir Caerdydd a Bro Morgannwg er 1993 ac wedi bod yn gyfarwyddwr nifer o ensembles eraill gan gynnwys Cerddorfa Chwyth Adran Iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Band Chwyth Ysgolion Uwchradd Sir Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae Matthew yn cynnal busnes addysgu preifat llwyddiannus gyda llawer o’i ddisgyblion yn sicrhau lleoedd yn ensembles cenedlaethol ieuenctid Cymru a Phrydain Fawr a nifer sylweddol yn mynd yn eu blaenau i astudio mewn ysgolion cerdd ac ymlaen wedyn i’r byd cerddora proffesiynol.

 

Matthew works part-time for TÅ· Cerdd where he is responsible for the creation of visual identity and strategy for external comms. He was previously engaged as Youth Music Manager and from 2005-17 ran the activities of six out of Wales’s seven national youth ensembles. Highlights of this period include tours to Luxembourg and Argentina, CD recordings and BBC Proms performances as well as work alongside the conductors, Ben Gernon, Simon Toyne and Pete Harrison and composers, Paul Mealor and Gareth Wood.

​

Matthew pursues a portfolio musical career as a tuba player, teacher and conductor and also works as a photographer and designer.  He studied music at Goldsmiths' College, University of London and the Royal Academy of Music and was taught the tuba by James Gourlay and Patrick Harrild. He freelances with orchestras and ensembles throughout South Wales and the west of England and is currently the tuba player of Thames Fanfare Brass and the Bristol Ensemble.

​

Matthew’s education work has included coaching with a variety of youth ensembles including Kent Youth Wind Orchestra and National Childrens' Orchestra of Great Britain. He has conducted Cardiff County & Vale of Glamorgan Symphonic Brass since 1993 and has been the director of a number of other groups including the Wind Orchestra of the RWCMD’s Junior Department and CCVG High Schools' Wind Band.  Matthew runs a successful private teaching practice with many of his pupils gaining places in the national youth ensembles of Wales and Great Britain and a significant number going on to study at conservatoire and then into professional music making.

 

English
bottom of page