Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Richard Baker 1972
Richard Baker is a composer based in Ceredigion, Wales. His distinctive work is often concerned with the transcription and transformation of extra-musical material, and is characterised by a refined ear for harmony and instrumental colour, coupled with a bold and often surprising rhetoric. In a career during which he also made his name as a sought-after conductor of contemporary music and opera, he has maintained a steady output of substantial, thought-provoking works. Milestones include: Learning to Fly (1999), the work that first brought his name to attention when it was presented by London Sinfonietta in their ‘State of the Nation’ festival; The Tyranny of Fun (2013) a commission for Birmingham Contemporary Music Group (nominated for a Royal Philharmonic Society Chamber-Scale Composition Award); The Price of Curiosity (2019), a commission for the BBC Symphony Orchestra/Radio 3; and Motet II (2020), a commission for Ensemble Télémaque, Marseille. All of these works – and others – will shortly be available on a portrait CD from NMC Recordings. Since 2004 he has been a Professor of Composition at Guildhall School of Music & Drama.
Mae Richard Baker yn gyfansoddwr o Geredigion. Mae ei waith trawiadol yn ymwneud yn aml â thrawsgrifio a thrawsnewid deunydd all-gerddorol, gan fod wedi’i nodweddu gan glust dethol ar gyfer harmoni a lliw offerynnol, ynghyd â rhethreg feiddgar sy’n aml yn peri syndod. Yn ei yrfa mae hefyd wedi gwneud enw iddo’i hun fel arweinydd poblogaidd cerddoriaeth gyfoes ac opera, mae wedi dal ati i gynyrchu allbwn cyson o weithiau sylweddol sy’n procio’r meddwl. Ymhlith y cerrig milltir mae: Learning to Fly (1999), y gwaith a ddaeth â’i enw i sylw gyntaf pan gafodd ei gyflwyno gan y London Sinfonietta yn eu gŵyl ‘State of the Nation’; The Tyranny of Fun (2013) comisiwn ar gyfer Birmingham Contemporary Music Group (ac wedi’i enwebu ar gyfer Gwobr Cyfansoddi ar Raddfa Siambr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol); The Price of Curiosity (2019), comisiwn ar gyfer Cerddorfa Symffoni’r BBC/Radio 3; a Motet II (2020), comisiwn ar gyfer Ensemble Télémaque, Marseille. Bydd yr holl weithiau hyn – ac eraill – ar gael cyn bo hir ar gryno-ddisg portread o NMC Recordings. Ers 2004 mae wedi bod yn Athro Cyfansoddi yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall.