top of page

Berkeley Ensemble i berfformio
gwaith ysbrydoledig Mark Bowden: 
The Mare's Tale

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Nos Iau 28 Chwefror 2019
7:30yh


Perfformiwyd gan Berkeley Ensemble

​

Naratif llafar yw The Mare’s Tail wedi’i osod i gerddoriaeth. Drama delynegol a gomisiynwyd yn arbennig oddi wrth Damian Walford Davies yw’r testun a ysbrydolwyd gan y gyfres o arluniau o’r un enw gan Clive Hicks-Jenkins.

 

Mae’r ddrama’n troi o gwmpas traddodiad gwasaela Cymreig hynafol gefn y gaeaf, y Fari Lwyd. Yn ei hanfod yn byped wedi’i greu o benglog ceffyl gyda rhubanau a chlychau ac wedi’i orchuddio â lliain, byddai’r Fari yn troi allan gyda grwpiau o ddiddanwyr liw nos ar droad y flwyddyn, yn gofyn drwy ganu am gael dod i gartrefi pobl.

 

Fe’m comisiynwyd i gyfansoddi’r gerddoriaeth mewn ymateb i’r testun newydd a gwaith celf oedd eisoes yn bod. Mae stori Damian yn edrych ar y ffordd yr aflonyddir yn seicolegol ar y cymeriad canolog, Morgan Seyes, ar ôl iddo ddychwelyd i bentref ei febyd yn nes ymlaen yn ei fywyd. Mae fy sgôr, a ysbrydolwyd gan y lluniau gwreiddiol, yn edrych ar fyd mewnol ingol Morgan. Yn aml, mae’r gerddoriaeth yn gweithredu fel gwrthbwynt i’r testun ac, yn ei hanfod, yn gyfres o amrywiadau ar gân werin y Fari Lwyd a genid yn draddodiadol gan bobl yn dathlu wrth iddynt fynnu mynediad i gartrefi ar eu hynt.

 

Ers datblygu’r gwaith gyda’r tîm creadigol gwreiddiol, gwefr fawr i mi yw gweithio ag Ensemble Berkeley i ddwyn y gwaith hwn gerbron y cyhoedd am y tro cyntaf – gyda chefnogaeth gan Sefydliad y PRS. Gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn mwynhau profi, ochr yn ochr â’m cerddoriaeth, harddwch tywyll y lluniau gwreiddiol a’r testun hyfryd a grëwyd mewn ymateb iddynt.

​

Mark Bowden

Mae mwy o wybodaeth amdano'r perfformiad YMA.

Clive Jenkins.jpg

Celf gan Clive Hicks-Jenkins. Both Fall o'r gyfres Mari Lwyd, The Mare's Tale. 

Mark B.png

Cyfansoddwr Mark Bowden.

bottom of page