top of page


Delweddau Rhondda Cynon Taf
Tlws y Cerddor ar ei newydd wedd ar gyfer Eisteddfod RCT 2024



Galwad agored i gyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth

​

Mae Tlws y Cyfansoddwr yn cynnig cyfle cyflogedig i gefnogi taith gyrfaol cyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth i gyfansoddi ar gyfer ensemble siambr – gan ddefnyddio delweddau o Rhondda, Cynon Taf fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfansoddiadau newydd.

 

Bydd y tri gwaith gorffennedig yn cael ei berfformio yn y Pafiliwn mewn seremoni arbennig yn ystod wythnos yr Eisteddfod ddechrau Awst 2024 – gyda delweddau o ddewis y cyfansoddwr yn cael eu taflunio ar sgrin. Cyhoeddir enw’r cyfansoddwr buddugol ar ddiwedd y seremoni a chyflwynir ‘Tlws y Cyfansoddwr’ a gwobr ariannol o £750.

 

Mae hon yn gystaldeuaeth ar y cyd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, TÅ· Cerdd a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru mewn cydweithrediad a’r cyfansoddwr-mentor, John Rea a phedwar cerddor o Sinfonia Cymru.

 

Bydd tri chyfansoddwr dethol yn derbyn ffi o £500 yr un yn ogystal â gwahoddiad i weithdai wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru a chyfranir costau teithio i’r gweithdai (Caerdydd) a pherfformiad (Pontypridd).

 

Bydd yr artistiaid yn derbyn y cyfle i’w gwaith gorffenedig gael ei gyhoeddi gan TÅ· Cerdd.

 

Mae offeryniaeth yr ensemble fel a ganlyn:

ffidil, clarinet, soddgrwth a phiano

 

Rhaid i bob ymgeisydd fod ar gael ar gyfer y gweithdai/perfformiadau canlynol:

  • Dydd Gwener 2 Chwefror 2024 – gweithdy cychwynnol (Stiwdio TÅ· Cerdd, Caerdydd)

  • Dydd Gwener 12 Ebrill – gweithdy #2 (Stiwdio TÅ· Cerdd, Caerdydd)

  • Dydd Gwener 7 Mehefin – gweithdy #3 (Stiwdio TÅ· Cerdd, Caerdydd)

  • gweithdy/ymarfer/perfformiad yn ystod wythnos yr Eisteddfod (dyddiad i’w gadarnhau – rhwng dydd Llun 5 a dydd Sadwrn 10 Awst ym Mhontypridd)

 

_______________________

 

Cyfranogwyr

  • Genre  Er bod y cyfle hwn ar gyfer y rhai sy'n creu cerddoriaeth gan ddefnyddio hen nodiant, rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid sy'n gweithio mewn unrhyw arddull gerddorol.
     

  • Cyfansoddwyr Cymraeg  Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr a chrëwyr cerddoriaeth ar draws Cymru. Os ydych yn gerddorol ac yn ateb gofynion y rheolau isod, rydych yn gymwys i gystadlu. Mae cystadlaethau ac ysgoloriaethau’r Eisteddfod yn agored i unrhyw un:

    • a anwyd yng Nghymru, neu

    • y ganwyd un o'u rhieni yng Nghymru, neu

    • sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg,

    • neu sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am flwyddyn cyn 31 Awst 2024.

​

  • Amrywiaeth  Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sy'n cael eu tangynrychioli / sydd yn cael eu heithrio o'r gymuned gelfyddydol; rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
     

  • Yr Iaith Gymraeg Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn ddwyieithog, gwahoddir chi i gyfranogi ble bynnag ydych chi ar y daith i ddysgu Cymraeg gyda chyfranogwyr yn dangos ymrwymiad i'r iaith a gwerthfawrogiad o'i phwysigrwydd i'r prosiect.
     

  • Gweithio gyda delweddau  Gan gynnwys ffotograffau o dirwedd ôl-ddiwydiannol, i bensaernïaeth, i bobl – bydd yr weledigaeth yma yn nwylo’r cyfranogwyr. Fel rhan o’r cais, rhowch eglurhad sut  gallai cyfrwng weledol ychwanegu at y cyfansoddiad.

​

Diddordeb ac yn awyddus holi a darganfod mwy?

…gallwn sgwrsio â chi yn uniongyrchol dros y ffôn neu Zoom. E-bostiwch i drefnu cyfarfod. Rydyn ni eisiau cynnig arweiniaid a bod yno i’ch cefnogi – felly, rhowch wybod i ni a byddwn yn ceisio helpu i ddod o hyd i ateb.

​

_______________________

​

I ymgeisio…

Cyflwynwch y wybodaeth ganlynol i'r porth 
 

  1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, cadarnhad eich bod dros 18

  2. Dywedwch wrthym am eich gwaith: Dywedwch wrthym am eich profiadau fel crëwr cerddoriaeth / cyfansoddwr a'r hyn yr ydych wedi bod fwyaf balch ohono. (Uchafswm 200 gair)

  3. Pam hoffech chi fod yn rhan o'r cynllun hwn? Sut ydych chi'n meddwl y byddai’r cynllun o fudd i chi? Dywedwch wrthym sut mae'n adeiladu ar eich profiad blaenorol a beth rydych chi'n gobeithio ei ddatblygu trwy gyfranogi? (Uchafswm 250 gair)

  4. Pam fod yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn bwysig i chi fel crëwr cerddoriaeth / cyfansoddwr? Sut gallai delweddaeth o’r Rhondda ysbrydoli eich gwaith newydd? Dywedwch wrthym am eich perthynas â Chymru a’i hiaith, ac elfennau o dirwedd a diwylliant y Rhondda sydd o ddiddordeb i chi. (Nid oes angen i chi atodi delweddau i'ch cais.)

  5. A oes gennych unrhyw angenion? Dywedwch wrthym os oes unrhyw gymorth neu unrhyw amodau sydd eu hangen arnoch i'ch galluogi i gymryd rhan yn y cynllun?

  6. Enghreifftiau o'ch gwaith: atodwch 2 ddolen neu atodiad i'ch cerddoriaeth a'r 2 sgôr cyfatebol
    (DS: ar gyfer y sain anfonwch ddolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; os oes angen help arnoch i greu dolenni, rhowch wybod i ni.)

​

Croesewir ceisiadau fideo a sain hefyd. Cofnodwch eich atebion i gwestiynau 2-5 uchod (hyd at 5 munud), a lanlwythwch ddolen i'ch recordiad, gan ychwanegu'r wybodaeth y gofynnwyd amdanynt yng nghwestiynau 1 a 6 at y ffurflen uwchlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i'ch fideo, e-bostiwch am help.

​

_______________________

​

Amserlen a phroses

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 1200 canol dydd, dydd Gwener 8 Rhagfyr

  • Bydd y panel (John Rea; Elen Ellis o’r Eisteddfod Genedlaethol; Deborah Keyser a Steph Power o TÅ· Cerdd) yn cyfarfod ddydd Mawrth 12 Rhagfyr

  • Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad erbyn dydd Llun 18 Rhagfyr         

​

_______________________

 

Mae John Rea yn gyfansoddwr o Gymru ac mae ei yrfa wedi ymestyn dross awl cyfrwng gan gynnwys cyngherddau, bandiau roc, gosodiadau a mwy. Yn ddiweddar, mae wedi dod ag ymgysylltiad cynyddol â gwaith cysyniadol, ac mae’n cael ei ysbrydoli gan ddelweddaeth, archifau a hanes cymdeithasol, fel y gwlir yn ei gyfanwaith Atgyfodi (ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru yn Sian Ffagan).

 

Mae Sinfonia Cymru yn gerddorfa sy’n ymroddedig i ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd cerddorion proffesiynol dawnus o dan 30 oed.

​

Pwrpas Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru ydy hybu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o gerddoriaeth cyfansoddwyr o darddiad Cymreig a chyfansoddwyr o unrhyw genedligrwydd sy’n byw yng Nghymru.

Tlws y Cyfansoddwr logo strip_edited.png
Welsh Music Guild log.png
Tlws y Cyfansoddwr logo strip_edited.png
bottom of page