top of page

Alan Chamberlain 1973

Yn dilyn seibiant, mae Alan Chamberlain wedi mynd yn ôl at gyfansoddi a pherfformio dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Ymhlith ei weithgareddau diweddar mae perfformiadau o The Gift yn Nhŷ Rhydychen, Llundain (fel rhan o Audio Mostly), Rhwydwaith Ymchwil Cerddoriaeth Ddigidol (Llundain) a Phrifysgol Lausanne yn y Swistir. Alan a gyfansoddodd a recordio’r gerddoriaeth ar gyfer y ffilm arobryn Into the Looking Glass a dderbyniodd wobr Cyngor Ffilm a Fideo Prifysgolion Prydain yn Sefydliad Ffilm Prydain yn 2018. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar draciau sain eraill a darn y mae’n gobeithio ei berfformio am y tro cyntaf yng Nghynhadledd Celfyddyd a’r Dychymyg Archaeolegol 2019 yn Aberystwyth.

 

Hefyd mae Alan yn cael ei gyfareddu gan y gwahanol ffyrdd y gall pobl ddefnyddio meddalwedd yn greadigol i ddatblygu gwahanol ddulliau o gyfansoddi ac mae ganddo ddiddordeb penodol yn y celfyddydau a datblygu cymunedol yng Nghymru.

ENG

Following a hiatus, Alan Chamberlain has made a return to composing and performance over the last couple of years. Recent activities have included the performance of The Gift at Oxford House, London as part of Audio Mostly, composed using software produced by Dave De Roure, University of Oxford. This performance has been used in presentations at the Turing Institute, the Digital Music Research Network (London) and Lausanne University, Switzerland. Alan composed and recorded the music for the award winning Into the Looking Glass film, which was awarded a British Universities Film & Video Council (BUFVC) at the British Film Institute 2018. He is currently working on other soundtracks and a piece that he hopes to premier at the Art and Archaeological Imagination Conference, Aberystwyth 2019.

 

Alan is fascinated by the different ways in which people can creatively use software to develop different approaches to composition and has a particular interest in the arts and community development in Wales.

bottom of page