top of page

Brian Hughes 1938

website icon.png

Mae Brian Hughes yn cael ei gyfrif yn un o’r prif gyfansoddwyr corawl a cherddorfaol yng Nghymru heddiw. Perfformir ei waith yn gyson gan gorau amatur a phroffesiynol fel ei gilydd ym mhob rhan o’r wlad. Mae hefyd yn hyfforddwr lleisiol sy’n cael ei ystyried yn un o’r prif arbenigwr yn y maes.

 

Fe’i ganwyd yn Rhosllannerchrugog yn 1938, ac mae ei arbenigedd corawl yn arbennig yn deillio o’i brofiad fel arweinydd Côr Ysgol Alun, Yr Wyddgrug ac yna fel corfeistr Côr Brenhinol y Gogledd - y Royal Northern College of Music - ym Manceinion. Bu’n Gorfeistr yno ac yn Bennaeth Staff Cerddoriaeth Opera am dros 25 mlynedd.  Bu’n gweithio gyda chorau proffesiynol megis Corws Opera Gŵyl Buxton, Cheltenham a Gothenburg,  a chynhaliodd weithdai corawl ar hyd a lled Prydain.

 

Cynhyrchodd gorff enfawr o weithiau, yn amrywio o weithiau lleisiol a cherddorfaol ar raddfa fawr, i weithiau ar gyfer plant ac unigolion a grwpiau siambr. Enghreifftiau o’i waith yw Tyger! Tyger! Burning Bright (cerdd William Blake) a gomisiynwyd gan Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn 2007 ar gyfer cystadleuaeth y Corau Meibion, Te Deum a gomisiynwyd gan Gymdeithas Gorawl Harrogate, Tanau ar gyfer cerddorfa simffoni a band pres (comisiynwyd gan y Proms Cymreig yn 2003), Pren Planedig ar gyfer soprano a cherddorfa (comisiynwyd gan Laudamus), Requiem ar gyfer côr cymysg a meibion (comisiynwyd gan Trawsnewid),  The Bells of Paradise, concerto ar gyfer ffliwtiau, llinynnau ac offerynau taro - gwaith a ysbrydolwyd gan glychau enwog eglwys Gresford, un o saith rhyfeddod Cymru (comisiynwyd gan Sinfonia Cymru), Troad (a gomisiynwyd gan Gerddorfa Ieuenctid Cymru yn 2010), Quando, cerddoriaeth siambr ar gyfer clarinet, a Pieces for Miriam ar gyfer ffliwt.

 

Mae ei gerddoriaeth yn llawn egni a rhythmau, yn creu effeithiau dramatig yn aml ac yn cyfleu arddull ffres a chyfoes sy’n apelio’n uniongyrchol at y gwrandawyr.

ENGLISH

Brian Hughes is considered to be one of the foremost choral and orchestral composers in Wales today. His works are performed regularly by amateur and professional choirs alike in all parts of the country. He is also a voice trainer and is regarded as one of the main specialists in this field.

 

He was born in Rhos - Rhosllannerchrugog, Wrexham - in 1938. His choral expertise in particular is based on his experience as conductor of the Alun School Singers, Mold, and then as chorus master at the Royal Northern College of Music, Manchester. He spent over 25 years there as choirmaster and Head of the Opera Music Staff. He has worked with professional choirs such as the Buxton Festival Opera Chorus, the Cheltenham Festival Opera Chorus, the Gothenburg Opera Chorus and has led several choral workshops in different parts of the UK.

 

He has produced a substantial body of work, varying from large scale choral and orchestral works to works for children and individuals and chamber ensembles. Examples of his works are: Tyger! Tyger! Burning Bright (William Blake’s poem), commissioned by the Llangollen International Eisteddfod in 2007 for the male voice choir competition, Te Deum commissioned by the Harrogate Choral Society, Tanau for symphony orchestra and brass band (commissioned by the Welsh Proms in 2003), Pren Planedig for soprano and orchestra (commissioned by Laudamus), Requiem for mixed and male choirs (commissioned by Trawsnewid),  The Bells of Paradise, a concerto for flute, strings and percussion - inspired by the famous bells of Gresford church, one of the seven wonders of Wales (commissioned by Sinfonia Cymru),  Troad (commissioned by the National Welsh Youth Orchestra in 2010), Quando, chamber music for clarinet, and Pieces for Miriam for the flute.

 

His music is full of rhythmic energy and makes full use of dramatic effects, adopting a fresh and contemporary style that has an immediate appeal to the listener.

bottom of page