top of page

HwyrGerdd – galwad i gyfansoddwyr

Yn dilyn galwad agored am geisiadau, mae Tŷ Cerdd am gomisiynu cyfansoddwr o Gymru* i ysgrifennu cân 5 munud i’r soprano Ruby Hughes a’r pianydd Huw Watkins – i’w pherfformio yn HwyrGerdd Neuadd Dewi Sant ar 28 Mawrth 2023.

 

Bydd yr artist a ddewisir yn derbyn ffi comisiwn o £500, ynghyd â chefnogaeth Tŷ Cerdd a’r cyfansoddwr sy'n curadu HwyrGerdd, William Marsey, yn ystod y broses, a bydd Tŷ Cerdd yn cyhoeddi’r gwaith sy’n deillio ohono (100% o freindal perfformio yn mynd i’r cyfansoddwr).

Ruby Hughes.jpg

Ruby Hughes

> bywgraffiad

Huw Watkins credit Benjamin Ealovega.jpg

Huw Watkins

> bywgraffiad

Cyfranogwyr

  • *Cyfansoddwyr: Os ydych yn creu cerddoriaeth wreiddiol ac wedi bod yn byw yng Nghymru ers o leiaf blwyddyn, neu wedi eich geni yng Nghymru, rydych yn gymwys.

  • Amrywiaeth: Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan unigolion sydd wedi’u tangynrychioli / sydd wedi’u hesgeuluso neu eu hallgáu o gymuned y celfyddydau; rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. 
     

Os oes gennych ddiddordeb, ond bod gennych ambell gwestiwn…

…gallwn gael sgwrs dros y ffôn neu Zoom. Anfonwch e-bost atom i drefnu galwad.

I ymgeisio…

…lanlwythwch y wybodaeth ganlynol i’n porth

  1. Manylion personol: eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn symudol, cyfeiriad, a chadarnhad eich bod dros 18

  2. Soniwch am eich gwaith: dywedwch wrthym beth sy’n mynd â’ch bryd fel artist a beth rydych yn fwyaf balch ohono. (dim mwy na 200 gair)

  3. Pam fyddech chi’n hoffi bod yn rhan o’r llwybr hwn? Beth yr hoffech ei gyflawni drwy gymryd rhan? Pam fod gweithio ar lwybr Cymraeg/dwyieithog, ac ymwneud â’r gymuned ym Merthyr yn bwysig i chi. (dim mwy na 250 gair)

  4. Enghreifftiau o’ch gwaith: anfonwch ddwy ddolen neu atodiadau i’ch cerddoriaeth (sylwer: byddem yn ddiolchgar petaech yn anfon dolenni yn hytrach na ffeiliau sain neu fideo; cofiwch gysylltu os oes angen help arnoch i greu dolenni.)

 

Rydym yn croesawu ceisiadau fideo hefyd. Recordiwch eich fideo yn ateb cwestiynau 2 a 3 uchod (hyd at 3 munud o hyd), a lanlwythwch ddolen i’ch fideo, gan roi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yng nghwestiynau 1 a 4 ar y ffurflen i’w lanlwytho. Os oes angen help arnoch i greu dolen i’ch fideo, mae pob croeso i chi yrru e-bost atom i gael help.

 

Yr amserlen a’r broses

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12:00 dydd Gwener 16 Rhagfyr

  • Bydd Aisha Kigwalilo, Deborah Keyser ac Ethan Davies o staff Tŷ Cerdd; ynghyd â Steph Power, Cadair Tŷ Cerdd

  • Byddwn yn rhoi gwybod y canlyniad i chi erbyn dydd Llun 19 Rhagfyr

Mynediad

Rydyn ni am ddileu cynifer o rwystrau ag y gallwn – os hoffech siarad â ni am unrhyw beth, cysylltwch â Deborah Keyser a bydd hi’n fwy na pharod i helpu i ddod o hyd i ateb.

 

Mae’r soprano Gymreig Ruby Hughes yn gyn Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 sydd wedi dod yn adnabyddus am ei dehongliadau o gerddoriaeth Baróc, yn ogystal â repertoire'r 20fed a’r 21ain ganrif. Mae hi wedi cydweithio’n gyson gyda Huw Watkins (yn ei rôl fel pianydd a chyfansoddwr), a rhyddhawyd eu halbwm ECHO yn ddiweddar ar BIS. Bydd repertoire o'r albwm hwnnw yn ymddangos yn y datganiad HwyrGerdd.

Mae Huw Watkins yn un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru, a’r DU, yn ogystal â phianydd prysur a phoblogaidd. Mae wedi cael ei gomisiynu i ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer grwpiau perfformio a gwyliau blaenllaw, ac mae ei waith wedi cael ei berfformio ledled Ewrop a Gogledd America. Fel pianydd mae wedi gweithio ledled y byd, gan gydweithio'n rheolaidd â chyfansoddwyr. Mae ei gerddoriaeth ei hun wedi cael ei recordio ar gyfer labeli NMC a BIS.

biogs
CoDI NIghtMusic logo strip.png
bottom of page