top of page
CotM Hilary Tann rectangle blue CYM_edited.png

Hilary Tann (1947-2023)

 

O’i phlentyndod yng Nghwm Rhondda, datblygodd Hilary Tann gariad dwys at fyd natur a oedd yn treiddio trwy ei holl gerddoriaeth ac sydd fwyaf amlwg yn Adirondack Light (1992) a With the Heather and Small Birds (1994). Roedd ganddi ddiddordeb dwfn yng ngherddoriaeth draddodiadol Japan a arweiniodd at astudio'r shakuhachi (ffliwt bambŵ fertigol hynafol Japan). Ymhlith y gweithiau niferus sy’n adlewyrchu’r diddordeb arbennig hwn mae’r gwaith cerddorfaol mawr, From afar a gafodd ei berfformiad cyntaf yn Ewrop yn 2000 gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac a ddewiswyd ar gyfer cyngerdd agoriadol The International Festival of Women in Music Today yng Nghorea yn 2003 .

Roedd Tann yn byw i'r de o'r Adirondacks yn Efrog Newydd lle bu'n Athro Cerddoriaeth John Howard Payne yn Union College, Schenectady. Enillodd raddau mewn cyfansoddi o Brifysgol Cymru, Caerdydd ac o Brifysgol Princeton ac o 1982 i 1995 bu'n weithgar ar Bwyllgor Gwaith Cynghrair Rhyngwladol y Cyfansoddwyr Merched.

Parhaodd ei chysylltiad â Chymru ar hyd ei hoes trwy gomisiynau corawl, gan gynnwys Salm 104 i Gôr Cymreig Gogledd America (1998) a Paradise (Gŵyl Gregynog, 2008). Mae dylanwad tirwedd Cymru hefyd yn amlwg mewn llawer o weithiau siambr ac mewn detholiadau testun gan y beirdd Cymreig George Herbert (Exultet Terra ar gyfer côr dwbl a phumawd corsen dwbl), RS Thomas (Seven Poems of Stillness ar gyfer soddgrwth ac adroddwr) a Menna Elfyn (Songs of the Cotton Grass i soprano ac obo). Ym mis Gorffennaf 2001, perfformiodd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl am y tro cyntaf The Grey Tide and the Green, a gomisiynwyd ar gyfer Noson Olaf y Proms Cymru. Yn 2015 hi oedd Cyfansoddwr Preswyl Tŷ Cerdd, yn ysgrifennu All the Moon Long ar gyfer Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac yn ailsgorio In the First Spinning Place ar gyfer y Gerddorfa Chwyth Genedlaethol Ieuenctid Cymru.


Caiff ei gwaith cerddorfaol ei edau gan gyfres o gomisiynau concerto – Here, the Cliffs (1997) ar gyfer ffidil; In the First, Spinning Place (2000) ar gyfer sacsoffon; Anecdote (2000) ar gyfer sielo; Shakkei (2007) ar gyfer obo.


Mae dros drigain o weithiau ar gael ar gryno ddisg gan gynnwys tair disg unigol o gerddoriaeth leisiol, siambr a cherddorfaol. Mae ei cherddoriaeth i’w gweld ar bedwar CD Recordiau Tŷ Cerdd a chyhoeddir rhai darnau gan Tŷ Cerdd.
 

Remembering Hilary - cyfweliad Dr Rhian Davies

▶ Gwefan Hilary Tann 

Am ymholiadau ynglŷn â cherddoriaeth Hilary Tann, cysylltwch â’i hystâd trwy  toddamos@mac.com

bottom of page