top of page

CYFWELIAD

Teifi Emerald

Mae’r cyfansoddwr CoDI Symud yn siarad am rai’r darnau ysbrydoledig sydd wedi dylanwadu’i waith

Fel cyfansoddwr, a ydych chi wedi'ch ysbrydoli gan ffurfiau celf eraill? Os felly, pa rai?

​

Fe wnes i hyfforddi mewn theatr, theatr gorfforol a chlown. Mae comedi a cherddoriaeth gomedi wedi fy ysbrydoli, fel Victor Borge, Victoria Wood, Tim Minchin, Monty Python, Brett Domino.

​

Rwy'n hoffi cerddoriaeth sy'n chwareus a doniol, ac yn hoff o'r rhif Hen Bollywood yma -Eena Meena Deeka gyda Kishore Kumar:

Academy Cardiff 1 07.jpg

Mae natur, ecosystemau a chylchoedd naturiol yn ffynhonnell ysbrydoliaeth enfawr. Rwy'n hoffi gwaith artistiaid Daear fel Andy Goldsworthy; hefyd yn fwy ffiweddar ffeindiais y dylunydd ffasiwn couture Iris van Herpen sy'n defnyddio patrymau natur i greu cerfluniau gwisgadwy anhygoel.


Ar gyfer pa ffurf gelf yr hoffech chi ysgrifennu cerddoriaeth?


Theatr a dawns, gan mai'r rhain hefyd yw fy ffurfiau celf gyda cherddoriaeth. Ond gallai bron unrhyw gydweithrediad amlgyfrwng fod yn gyffrous i weithio arno.


Hoffwn i gwneud y lleisiau ac ysgrifennu sgôr ar gyfer cyfres o gartwnau. Yn ddelfrydol - cartŵn amlieithog gyda sawl arwres yn mynd ar antur i wlad swrrealaidd, yn ymladd cythreuliaid ac yn achub y dydd - byddai hynny'n wych!


Mae gan gartwnau hen rythmau a tempo gwych; dysgais lawer o’r cartwnau gwyliais fel plentyn.

Pa gerddoriaeth sy'n eich ysbrydoli?

​

Rwy'n caru cerddoriaeth soulful, chwareus neu gyda curiadau gwych. Mae artistiaid fel The Soil, Bobby McFerrin, Prince, Bjork, Portishead, Jeff Buckley wedi dylanwadu arnaf, yn enwedig gyda sut maen nhw'n chwarae gyda’u lleisiau.

Mae llais Nao yn y gân neo-soul hon Orbit yn rhoi iasau i mi.

Mae cerddoriaeth y Balcanau a Klezmer hefyd yn ddylanwad, mae Besh o DroM yn wych:

Dwi hefyd yn ffan o Yat Kha - band roc o Siberia sy'n defnyddio canu gwddf traddodiadol.

Yn broffesiynol, beth yw eich nod?

Shwd gymaint o nodau, a cyn lleied o amser! Dwi am dal ati i adeiladu fy ngwaith fel artist unigol, ysgrifennu a rhyddhau cerddoriaeth, perfformio, perfformio, perfformio a pherfformio eto. Dwi eisiau codi lan pobl eraill gyda fy nghynnwys, a hefyd cyfrannu yr hyn a allaf i greu byd cariadus, cyfiawn.

​

Beth yw prosiect eich breuddwydion?

Rwy'n aelod o Ladies of Rage Caerdydd, grwp ar gyfer menywod a pobl non-binary mewn cerddoriaeth, ac mae potensial enfawr yno ar gyfer cydweithrediadau,

​

prosiectau, datganiadau, a teithiau. Nid oes gen i un prosiect breuddwydiol penodol mewn golwg, ond bod yn rhan o gymuned - nid dim ond Ladies of Rage (er bod hynny'n hynod bwysig i mi), ond yr olygfa greadigol ehangach De Cymru, mae yna lawer iawn o dalent, dwi’n edrych ymlaen i weld beth sy’n mynd i flodeuo, ac i chwarae fy rhan yn hynny.

​

Rhywbryd, hoffwn gyfansoddi ar gyfer theatr. Mae gen i lawer o feddyliau am bethau y mae cerddoriaeth yn gwneud yn dda y mae theatr weithiau yn eu colli, a dwi eisiau profi'r syniadau hyn un diwrnod ....

Tyfais I fynu gyda RnB y 90au, ac roedd agwedd a canu harmoni En Vogue yn ysbrydoliaeth enfawr:

Mae'r trac ffync hwn gan Louis Cole yn fy ngwneud i'n hapus.

bottom of page