top of page
Jasper%2520Dommett_BBC%2520NOW%2520Rehea

Jasper Dommett 

yn derbyn

enwebiad Ivors 

Mae’r cyfansoddwr o Gymru, Jasper Dommett, yn ymateb i’w ddarn cerddorfaol Night Music yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ivors i gyfansoddwyr.

Jasper Dommett yn ystod ymarfer Night Music

ffoto: BBC NOW

quotation%2520marks_edited_edited.png

Anrhydedd anhygoel i mi yw cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon. Mae Gwobrau Cyfansoddwyr Ivors (Gwobrau Cyfansoddwyr Prydain tan 2019) yn rhan mor bwysig o gerddoriaeth gyfoes ym Mhrydain. Bob blwyddyn enwebir sawl cyfansoddwr ar gyfer gwaith a berfformiwyd am y tro cyntaf yn ystod y 12 mis blaenorol a hynny dros ystod o gategorïau. Wrth dderbyn yr enwebiad yma, ni allaf lai na chael rhyw bwl reit hegr o ‘syndrom y ffugiwr’. Ffigurau aruthrol fu’r artistiaid sydd wedi bod ar y rhestr fer yn y gorffennol, rhai dw i wir yn eu parchu - Harrison Birtwistle, Helen Grime, Kenneth Hesketh, Raymond Yiu, a llawer un arall. Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer darn a gyfansoddais i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd yn arbennig iawn i mi. Mae’r Gerddorfa wedi bod yn annatod i’m datblygiad fel cyfansoddwr - nid yn unig oherwydd iddynt berfformio fy ngweithiau innau yn 2019 a 2020, ond hefyd drwy eu rhaglennu helaeth. Profi amrywiaeth eang o gerddoriaeth fyw yn rheolaidd yw’r addysg orau i gyfansoddwr: dros fy mhedair blynedd diwethaf yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dw i wedi bod yn ddigon ffodus i fynychu llawer o gyngherddau anhygoel gan Gerddorfa Gymreig y BBC. Hefyd dw i’n gyffro i gyd wrth edrych ymlaen at ddyfodol y gerddorfa gyda’r tîm newydd sef y cyfarwyddwr Lisa Tregale a’r prif arweinydd Ryan Bancroft wrth y llyw ac mi wn fod ganddyn nhw rai syniadau cyffrous iawn i’w datgelu.

Jasper%20Dommett_BBC%20NOW%20Pre-Concert

Meurig Bowenyn siarad â Jasper Dommett o flaen perfformiad Night Music gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC.

​

ffoto: BBC NOW

Fel corff datblygu i gerddoriaeth o Gymru, mae TÅ· Cerdd wedi bod yn hollbwysig i’m datblygiad fel cyfansoddwr. Mae eu cefnogaeth drwy gynlluniau cyfansoddi fel CoDI a Cyfansoddi: Cymru’r BBC wedi bod yn anhygoel. Mae eu partneriaeth agos â Cherddorfa Gymreig Genedlaethol y BBC wedi sicrhau bod Cyfansoddi: Cymru o hyd yn datblygu ac yn gwella, ac ni fydd 2021 yn eithriad yn hyn o beth. Fel rhan o’r cynllun, mae TÅ· Cerdd yn comisiynu tri o’r cyfansoddwyr sy’n cymryd rhan bob blwyddyn i ysgrifennu darn i’w berfformio yng nghyfres cerddoriaeth gyfoes Neuadd Dewi Sant o’r enw HwyrGerdd (NightMusic yn y Saesneg, sy’n ddryslyd braidd yn y cyd-destun yma!). Y gyfansoddwraig Freya Waley-Cohen sy’n curadu’r gyfres a gynhelir ar Lefel 3. Ym mis Ionawr 2020, bues i’n ddigon ffodus i fod yn un o’r cyfansoddwyr hynny, gan gyfansoddi i’r ddeuawd biano George Fu a Thomas Ang.

G&T 01.jpg

George Fu a Thomas Ang yn perfformio comisiwn TÅ· Cerdd gan Jasper Dommett ar gyfer cyfres HwyrGerdd Neuadd Dewi Sant, Ionawr 2020​

​

ffoto: Matthew Thistlewood

Dommett Jasper_Night Music Front Cover.j

Mae gan fy nghyfansoddiad Night Music le arbennig iawn yn fy nghalon. Wedi’i gyflwyno i’m diweddar nain, Mary Dommett, teimlaf, nid yn unig ei fod yn ddathliad o’i bywyd, ond hefyd yn llythyr ffarwél ar ôl salwch hir. Mae wedi’i hymgorffori yn y darn gyda’r brif alaw sy’n tanategu’r gwaith cyfan, gan amlinellu rhyw chwiban y bydden ni’n ei ddefnyddio i gael hyd i’n gilydd pan fydden ni ar grwydr. Os rhywbeth, mi welaf yr enwebiad yma fel teyrnged iddi hi, achos hebddi hi fyddwn i ddim lle’r ydw i heddiw. Er bod gan y darn yma gysylltiad hynod bersonol, mae’r natur raglennol yn un sy’n edrych ar amser y nos a’m hymateb emosiynol iddo – gan gyfuno delweddau o lonyddwch ochr yn ochr ag eiliadau o egni i roi ymdeimlad â chreaduriaid y nos yn sgathru o gwmpas. Drwy wahanol lensys, gall y gynulleidfa ddehongli’r darn yma mewn llawer o wahanol ffyrdd ac mae hynny’n iawn gen i. Wedi mynd y mae’r dyddiau lle mae darn wedi’i osod yn sownd yn ei nodyn rhaglen ei hun a dyna’r modd i bawb wrando ar y gwaith. Mae cerddoriaeth yn camu i’r adwy lle bydd ein geiriau’n methu ac felly dylai adael lle i bob un ohonon ni ddychmygu ein byd ein hunain wrth i ni wrando arni.

quotation%252520marks_edited_edited_edit
bottom of page