top of page

Isaac George
aka Truth 2003

Rapiwr 18 oed yw Isaac George AKA Truth, o’r Pill yng Nghasnewydd.

​

“Dw i’n mynd i Goleg Gwent, Pont-y-cymer, yn astudio BTEC Lefel 3 Technoleg Gerddoriaeth gan ddefnyddio meddalwedd gerddoriaeth ac yn helpu i osod offer, llwyfannau, systemau PA ac yn y blaen ar gyfer gweithdai ein coleg. A finnau’n sgwennu caneuon, dw i’n ceisio treulio cymaint o amser ag sy’n bosibl yn y stiwdio. Mi fydda i’n gwneud grime a hip-hop yn bennaf ond galla i weithio gydag unrhyw un ac unrhyw beth. Mi ddechreuais i gerddora pan oeddwn i’n 14 oed ac mi wnes i fy nhrac cyntaf erioed ym mis Ebrill 2017 o’r enw “Found My Talent”. Yn ôl yr adborth ges i, dyma rywbeth y dylwn i sticio ati. Gyda help cynhyrchwyr, peirianwyr cerddoriaeth ac artistiaid cerddoriaeth eraill, dw i’n ceisio gwella fy ngherddoriaeth bob un diwrnod drwy wneud darnau offerynnol. Hefyd dw i eisiau cyflwyno geiriau fy nghaneuon i’r rheini sy’n dwlu ar ysgrifennu creadigol.”

Isaac George square.jpg
  • YouTube
  • Spotify
  • SoundCloud
ENG

Isaac George AKA Truth, is an 18-year-old rapper from Pill in Newport, South Wales.

​

“I go to Coleg Gwent, Crosskeys, studying Level 3 BTEC Music Technology, using music software and helping set up equipment, stages, PA systems etc, for our college workshops. As I make songs I try to spend time in the studio as much as possible. I mostly make grime and hip-hop but I can work with anyone and anything. I got into making music when I was 14 and I made my first ever track in April 2017, called ‘Found My Talent’. The feedback was that this is something I should stick at. With the help of producers, music engineers and other music artists, I’m trying to improve my music every single day by making instrumentals. I also want to allocate my lyrics to those who love creative writing.”

bottom of page