top of page

Jefferson Lobo

  • SoundCloud
  • Facebook
  • Instagram

Cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd â’i gartref yng Nghaerdydd yw Jefferson Lobo a anwyd ym Mrasil. Mae wedi bod yn canolbwyntio ar grŵfs jazz-ffync dyfodolaidd a ysbrydolir gan natur ac ar hyn o bryd mae’n rhyddhau cerddoriaeth newydd yn rheolaidd o’i gatalog.

 

Gwahoddiad i fyd o bosibiliadau sonig annisgwyl yw cyfansoddiadau Jefferson. Mae harmonïau pêr hiraethus wedi’u cyfuno ag alawon tyner ac (ar brydiau) ffraeth yn ffurfio sylfaen ei bair cerddorol, sy’n cynnwys arddulliau megis jazz, cerddorfaol, Lladin, reggae, dyfodolaidd a cherddoriaeth fyd.

 

Mae wedi gweithio gyda’r cwmni theatr August 012 a Radio’r BBC ac wedi cyfansoddi, sgorio a threfnu cerddoriaeth i Garnifal Butetown 2020 a 2021. Uchafbwynt arbennig oedd ei ddarn trawsatlantig Zamba a gomisiynwyd gan Gymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown.

Jeferson Lobo copyright Matthew Thistlewood - Tŷ Cerdd.jpg
ENG

Brazilian-born Jefferson Lobo is a musician, composer and producer living in Cardiff. He has been focusing on futuristic, nature-inspired jazz-funk grooves and is currently releasing new music regularly from his catalogue.

 

Jefferson's compositions are an invitation to a world of unpredictable sonic possibilities. Hauntingly sweet harmonies combined with soothing and (at times) witty melodies form the basis for his musical cauldron, which includes styles such as jazz, orchestral, Latin, reggae, futuristic, and world music.

 

He has worked with the theatre company August 012 and with BBC Radio and has written, scored, and arranged music for Butetown Carnival 2020 and 2021, a particular highlight being his transatlantic piece Zamba, commissioned by Butetown Arts & Culture Association.

bottom of page