top of page

Lloyd Coleman 1992

Cyfansoddwr a chlarinetydd yw Lloyd Coleman y mae ei gerddoriaeth wedi cael ei pherfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Aurora, Pedwarawd Sacconi ac Ensemble Siambr Newydd Llundain.

 

Wedi’i eni yn ne Cymru, enillodd Lloyd le yn Ysgol Gerdd Chetham ym Manceinion a daeth yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr cyn symud i Lundain i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol lle mai ei athrawon oedd Gary Carpenter (cyfansoddi) ac Angela Malsbury (clarinét).

 

Y dyddiau hyn, mae’n cyfuno ei weithgareddau cyfansoddi ag amserlen berfformio brysur – gan amlaf gyda Charles Hazlewood a Pharagerddorfa Prydain. Yr ensemble proffesiynol cyntaf yn y byd sydd wedi’i ffurfio o ddim ond cerddorion sydd ag anableddau, fe’i lansiwyd i gynulleidfa fyd-eang o tua hanner biliwn o wylwyr pan berfformiodd yn Seremoni Gloi Gemau Paralympaidd Llundain 2012. Ym mis Hydref 2017, penodwyd Lloyd fel ei Gyfarwyddwr Cerdd Cyswllt cyntaf.

 

Ymhlith uchafbwyntiau eraill yn ddiweddar mae ymddangosiadau yng Ngŵyl Ynys Wydrin (Glastonbury) gyda’r Army of Generals – yn talu teyrnged i David Bowie ac yn edrych ar draciau sain i gemau fideo – a dathliad o gerddoriaeth Barry Gray ar gyfer y gyfres deledu Thunderbirds yng Ngŵyl Gerdd BBC 6.

 

Pan na fydd yn cerddora ei hun, mae Lloyd yn mwynhau rhannu’i frwdfrydedd am fiwsig gyda chynulleidfaoedd ar y teledu a’r radio ac mae’n cyflwyno cyngherddau Proms y BBC o Neuadd Frenhinol Albert er 2016

Lloyd Coleman (photo by Paul Blakemore_e
ENGLISH

Lloyd Coleman is a composer and clarinettist whose music has been performed by the BBC NOW, CBSO, Aurora Orchestra, Sacconi Quartet and New London Chamber Ensemble.

 

Born in South Wales, Lloyd won a place at Chetham’s School of Music in Manchester and became a member of the National Youth Orchestra of Great Britain, before moving to London to study at the Royal Academy of Music, where his teachers were Gary Carpenter (composition) and Angela Malsbury (clarinet).

 

Nowadays, he combines his composing activities with a busy performing schedule – most often with Charles Hazlewood and the British Paraorchestra.  The first professional ensemble in the world solely comprised of musicians with disabilities, it launched to a global audience of around half a billion viewers when it performed at the Closing Ceremony of the London 2012 Paralympic Games. In October 2017, Lloyd was appointed as its first Associate Music Director.

 

Other recent highlights include appearances at the Glastonbury Festival with Army of Generals – paying tribute to David Bowie and exploring soundtracks for video games – and a celebration of Barry Gray’s music for the TV series Thunderbirds at the BBC 6 Music Festival.

 

When not making music himself, Lloyd enjoys sharing his passion for it with audiences on TV and radio and has presented BBC Proms concerts from the Royal Albert Hall since 2016..

bottom of page