Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Caerdydd – Map Sonig
5 micro-gomisiwn celfyddyd sain
galwad i gyfranogwyr y gyfres ddiweddar o Droeon Machlud a'u rwydweithiau
Mae TÅ· Cerdd – Canolfan Gerdd Cymru – yn cynnig £200 yr un i bum artist i greu recordiadau sain byrion o gerddoriaeth a/neu gelfyddyd sain a ysbrydolir gan, neu sy’n ymateb i, eu hardal leol yng Nghaerdydd.
Bydd y 5 darn yn ffurfio rhan o fap sonig sy’n cael ei ddwyn at ei gilydd o sŵn a cherddoriaeth pobl ifainc o bob cwr o’r ddinas.
Bydd Aleighcia Scott, Kiddus Murrell, Mace the Great, a Sahar Martinez yn dethol y 5 artist o’r ceisiadau a dderbynnir. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu comisiynu i greu recordiad tua 2 funud ar ei hyd a gaiff ei integreiddio i’r Map Sonig sy’n deillio o hyn gan yr artist arweiniol Kiddus Murrell.
Sut i wneud cais:
Cwblhewch y ffurflen ar-lein yma a fydd yn gofyn am:
-
eich enw, oedran, cyfeiriad, rhif ffôn symudol, cyfeiriad e-bost
-
2 ddolen â’ch cerddoriaeth / celfyddyd sain / perfformiad llafar (neu gallwch atodi, er enghraifft, ddogfen yn cynnwys 2 set o eiriau os nad oes gynnoch chi recordiadau)
-
hyd at 100 o eiriau am eich ardal leol yng Nghaerdydd / a’r synau / cerddoriaeth y mae’n eu hawgrymu i chi
-
hyd at 100 o eiriau am y ffordd y byddech chi’n mynd ati i wneud recordiad creadigol i’r Map Sonig
-
cadarnhad a oes angen cefnogaeth dechnegol ai peidio gynnon ni i greu’ch ffeiliau sain
DS: mae ceisiadau fideo hefyd yn dderbyniol – lanlwythwch yr wybodaeth y gofynnir amdani yng nghwestiynau 1 a 2 i’r ffurflen lanlwytho a recordio fideo ohonoch chi’n ateb Cwestiynau 3-5 (heb fod yn hirach na 3 munud ar ei hyd). Os oes angen cymorth wrth lanlwytho’ch gwybodaeth i’r ffurflen, cysylltwch â kiddus.murrell@tycerdd.org
​
Mynediad a thechnegol:
-
Os oes gynnoch chi unrhyw anghenion mynediad yr hoffech eu trafod â ni, cysylltwch â kiddus.murrell@tycerdd.org
-
Os oes angen cefnogaeth dechnegol arnoch i greu’ch ffeiliau sain, efallai y byddwn yn gallu helpu yn Stiwdio TÅ· Cerdd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthon ni yn eich cais pa gymorth fydd ei angen arnoch.
Amserlen:
-
Y dyddiad cau am geisiadau: 12:00 dydd Llun 16 Mai
-
Hysbysir yr ymgeiswyr erbyn: dydd Gwener 20 Mai
-
Cyfnod creu: dydd Gwener 20 Mai tan dydd Gwener 3 Mehefin
-
Cyflwyno ffeiliau sain: dydd Llun 6 Mehefin
-
Digwyddiad yn y cnawd i rannu’r Map Sonig: ganol i ddiwedd Mehefin