top of page
Oli Richards.jpg

Oli Richards aka Goodparley  
1993

Mae Oli Richards AKA Goodparley yn creu seinluniau drôn arbrofol llawn naws gan ddefnyddio dolenni byrfyfyr ar y gitâr, synthesis lled-fodiwlaidd a MIDI a thrin a thrafod effeithiau byw pen bwrdd. Dros y 18 mis diwethaf, mae wedi rhyddhau saith albwm ar labeli casetiau a CDs tanddaearol mawr eu parch.

 

Mae gwaith Goodparley yn anelu at ddal cyflwr y ‘llif’ a darparu bydoedd sain seicedelig rhwng cwsg ac effro i wrandawyr ymlwybro drwyddynt mor weithredol neu oddefol ag y mynnont, gyda synau’n dod yn rhan o amgylchedd y gwrandäwr, boed yn y blaendir neu’r cefndir. Mae gwreiddiau cysyniadol dyfnach i’w albymau mwy diweddar, gan gynnwys cylch o doriad y wawr tan nos a chanllawiau maes didactig oes newydd ar fwynhau natur sy’n cael eu cyflwyno ar lafar.

 

Mae Oli hefyd yn chwarae yn y band roc-celf o Gaerdydd, Silent Forum, sydd wedi ymuno â Recordiau Libertino ac wedi’i enwebu ynghynt ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Cymru. Ar hyn o bryd mae’n recordio ail record hir gyda’r band gan weithio hefyd ar ei drac sain gwreiddiol cyntaf ar gyfer ffilm.

ENG

Oli Richards AKA Goodparley, makes experimental ambient/drone soundscapes using looped guitar improvisations, semi-modular and MIDI synthesis and on-board live-effects manipulation. Over the last 18 months he has released seven albums on well-respected underground cassette and CD labels.

 

Goodparley's work aims to capture the ‘flow’ state and provide hypnagogic, psychedelic sonic worlds for listeners to explore as actively, or passively, as they choose, with sounds becoming part of the listener's environment whether this be in the foreground or the background. More recent albums have had a deeper conceptual rooting, including a dawn-dusk cycle and a narrated didactic new-age field guide to enjoying nature.

 

Oli also plays in Cardiff-based art-rock band Silent Forum, signed to Libertino Records and previously nominated for the Welsh Music Prize. He is currently recording a second LP with the band while also working on his first original soundtrack for film.

bottom of page