Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Paru creadigol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer Mabwysiadu Crëwr Cerddoriaeth cyntaf Cymru
Mae Tŷ Cerdd wedi cyhoeddi heddiw y bydd y gyfansoddwraig Eloise Gynn yn ymuno â Chôr Meibion Mynwy mewn partneriaeth greadigol a fydd yn creu darn newydd i’w berfformio am y tro cyntaf yn ystod 2021. Gan ymuno â Making Music a Sound and Music, mae Tŷ Cerdd yn dod â’r cynllun i Gymru am y tro cyntaf.
Dros y flwyddyn nesaf, bydd Eloise yn ymweld yn rheolaidd ar gyfer sesiynau ymarfer gan ddod i nabod aelodau’r côr a rhoi iddynt y cyfle i gyfrannu at greu gwaith gwreiddiol newydd. Bydd yn mynychu gweithdai a gynhelir gan bartneriaid Tŷ Cerdd Making Music a Sound and Music gan gael ei mentora gan y gyfansoddwraig ac athrawes hynod brofiadol, Lynne Plowman.
A hwythau wedi cynnal partneriaethau tebyg rhwng cyfansoddwyr ac ensembles cymunedol yn y gorffennol, eleni mae Tŷ Cerdd yn dod ynghyd â Making Music a Sound and Music i ddod â’r cynllun Mabwysiadu Crëwr Cerddoriaeth i Gymru. Bellach yn ei 20fed flwyddyn a chyda thros 120 o brosiectau anhygoel o greadigol a llwyddiannus hyd yn hyn rhwng grwpiau cerdd hamdden a chyfansoddwyr, mae’r prosiect hynod bwysig, Mabwysiadu Cyfansoddwr, yn ehangu yn 2020/21 o dan enw newydd.
CoDI (Menter Datblygu Cyfansoddwyr) yw rhaglen hyfforddi Tŷ Cerdd ar gyfer crewyr cerddoriaeth o Gymru ac sy’n byw yng Nghymru. Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae ei rhaglen bresennol yn cynnig 30 o gyfleoedd datblygu gyda chyflog, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ymyriadau datblygu proffesiynol drwy hyb canolog CoDI: Rhyngweithio.
Eloise Gynn
Wedi’i hysbrydoli gan fyd natur, barddoniaeth a symud, ymhlith y disgrifiadau o gerddoriaeth Eloise Gynn mae “arallfydol, cuchiog” (Terry Blain, BBC Music Magazine), “yn hollol feddwol” (Classical Reviewer) ac “yn symud yn foethus o ara deg, meddal a meddylgar” (Iwan Hewitt, Telegraph). Mae ei gwaith wedi cael ei berfformio gan Sinffonieta Llundain, Kokoro, Ensemble Ynysoedd Heledd, Ensemble Schubert, Côr MusArc, Cerddorfa Symffoni Llundain a llawer o ensembles eraill. Perfformiwyd ei sgôr fale ddiweddar i’r teulu, Little Red Riding Hood a goreograffwyd gan Mariana Rodrigues, am y tro cyntaf gan Northern Ballet ym mis Hydref 2019 yn Leeds a’r Tŷ Opera Brenhinol ac yn nes ymlaen fe’i haddaswyd i CBeebies.
Côr Meibion Mynwy
Mae’r Côr, a ffurfiwyd yn 2012 gan griw bach o ddynion o dan arweiniad Aneurin Hughes, wedi cyflawni pethau mawr yn ystod cyfnod byr ei fodolaeth gan gynnwys perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain, cyngherddau yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd a channu’r anthem genedlaethol ar y cae yn y gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru a’r Alban yn 2016. Yn ogystal â’r digwyddiadau pwysig yma, bu’r côr yn hyrwyddo cyngherddau gala yn Nhrefynwy ac yn perfformio mewn digwyddiadau codi arian ar gyfer amrywiaeth eang o achosion da.
“Yn Nhŷ Cerdd rydym yn hynod ymwybodol o’r heriau dirfodol sydd ynghlwm â’r pandemig presennol i gyfansoddwyr a cherddorion cymunedol fel ei gilydd. Gwyddom fod yr amserau anodd ymhell o fod drosodd ac felly mae’r cyfle yma i feithrin cysylltiadau creadigol newydd a chefnogi datblygu gwaith newydd yn teimlo’n bwysicach nag erioed. Rydyn ni’n methu aros i gyflwyno Eloise a Chôr Meibion Mynwy i weddill cyfranogwyr y DU a chlywed y gerddoriaeth y maent yn ei chreu. Pleser digymysg yw cael cydweithio â Making Music a Sound and Music ar y fenter hon!”