top of page

Mae Patrick Rimes yn canu’r ffidil, y fiola, mae’n bibydd, yn gyfansoddwr ac yn drefnydd cerddoriaeth sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’n hanu o Fethesda yng Ngogledd Cymru, ac mae ei arddull wedi ei gwreiddio yn nhraddodiad arbennig y ffidil yn yr ardal ond mae’n tynnu ar ystod eang o ddylanwadau eraill hefyd, o gerddoriaeth gerddorfaol i jazz a bebop.

Wedi dechrau dysgu’r ffidil yn 7 oed, denwyd Patrick yn gyflym i’r sîn fywiog o sesiynau cerddoriaeth draddodiadol a gweithdai ym Mangor, ochr yn ochr â’i astudiaethau offerynnol mwy ffurfiol gydag athrawon clasurol. Cafodd ei ddewis ddwywaith yn bencampwr iau y ffidil yng Nghymru, ac mae’n dal i fod yr unig un i ennill gwobr y Rhuban Glas yn Eisteddfod Môn am berfformiad cerdd traddodiadol yn hytrach na chlasurol.

Dechreuodd arwain pan oedd ym Mhrifysgol Leeds, yn arwain Cerddorfa Symphoni’r Brifysgol ar deithiau llwyddiannus i Ffrainc, Yr Almaen a Sbaen ac yn 2014 roedd yn un o gyd-sefydlwyr Camerata Gogledd Cymru.  Mae’r gerddorfa siambr nwyfus yma yn ceisio rhoi llwyfan i gerddorion ifanc i chwilio i ben draw eu sgiliau cerddoriaeth siambr, yn ogystal â bod yn gam gwerthfawr ar y ffordd i chwarae’n broffesiynol. Mae cryn dipyn o alw ar Patrick fel athro gyda Trac (Sefydliad cerddoriaeth draddodiadol Cymru) a Clera (Cymdeithas offerynnau traddodiadol Cymru) yn rhoi gweithdai a gwersi rheolaidd ar arddull, repertoire a sgiliau trefnu. Mae’n gweithio’n rheolaidd ar lwyfannau clasurol a cherddoriaeth gynnar, yn canu’r fiola i’r Pedwarawd Cambrian ac yn chwarae’n aml fel aelod o’r Essex Baroque Orchestra. Ymddangosodd fel unawdydd fiola gyda’r Leeds Baroque Orchestra a gyda’r John Jenkins Ensemble ar fiola cyfnod dadeni.

Mae Patrick yn parhau i chwilio am ffordd o blygu, ac yn y pen draw i dorri’r canfyddiad o ffin rhwng cerddoriaeth gwreiddiau a genres eraill. Fel un o’r pump aelod o’r grŵp gwerin arloesol Calan, mae wedi recordio tri albwm stiwdio, ac wedi gosod cerddoriaeth Cymru ar y map yn rhai o wyliau pwysicaf Lloegr yn cynnwys Caergrawnt, Sidmouth a Cropredy, yn ogystal â theithio’n rheolaidd drwy Ewrop ac Unol Daleithiau America.  Mae’r cydweithrediad ffrwythlon gyda band Cerys Matthews wedi mynd a’u hasiad unigryw o gerddoriaeth a gafodd ei ddylanwadu gan Gymru ac America i lwyfan y World Music Expo, y Nuyorican Poets Cafe yn Efrog Newydd a Proms y BBC. Yn 2014 rhyddhawyd ei waith cyntaf fel Cyfarwyddwr Cerdd ar deledu gyda’i gydweithio llwyddiannus gyda Bryn Terfel a dewis o artistiaid gwadd ar gyfer 'Nadolig Bryn Terfel' i S4C. Dilynwyd hyn gan 'Bryn Terfel - Gwlad y Gân' i S4C yn 2016.

Bu Patrick yn rhan o nifer o brosiectau cyffrous yn 2015 gan gynnwys dwy daith i UDA gyda Calan, 'Beyond Borders' i PRSf a 'Cylch Canu: Song Chain' i Theatr Mwldan. Yn 2016, bu Patrick yn curadu gŵyl cerddoriaeth werin Canolfan Mileniwm Cymru, 'Calan Mai', perfformio darn newydd o waith ar gyfer y stori 'The King, The Cat & The Fiddle' yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a theithio o amgylch y DU gyda Calan.

DSC01479-Editcopy.jpg

Patrick Rimes

Patrick Rimes is a fiddle and viola player, piper, composer and arranger, based in Cardiff. Born and raised in Bethesda, North West Wales, his style is firmly rooted in the area’s distinctive fiddle tradition but he draws on a wide variety of other influences too, from orchestral music to jazz and bebop.

After starting to learn the fiddle aged 7, Patrick was quickly drawn into the thriving scene of traditional music sessions and workshops in Bangor, alongside his instrumental studies with ‘classical’ teachers. He was twice named junior fiddle champion of Wales, and remains the only person to have won the coveted ‘Blue Ribbon’ award at Anglesey Eisteddfod for a traditional, rather than classical, music performance.

He began conducting whilst at the University of Leeds, leading the University Symphony Orchestra on successful tours of France, Germany and Spain, and in 2014 co-founded the North Wales Camerata. This vibrant chamber orchestra strives to provide a platform for young musicians to explore the very limits of their chamber music skills, as well as being a valuable stepping stone into the world of professional playing. Patrick is in demand as a teacher with both Trac (Wales' traditional music foundation) and Clera (the society for traditional instruments in Wales), giving regular workshops and lessons on style, repertoire and arranging skills. He is regularly in action on the classical and early music stage, as violist of the Cambrian Quartet and frequent member of Essex Baroque Orchestra. He has appeared as a viola soloist with Leeds Baroque Orchestra, and with the John Jenkins Ensemble on renaissance viola.

Patrick continues to strive to bend and ultimately break the perceived ‘boundaries’ between roots music and other genres. As a member of ground breaking folk five-piece Calan, he has recorded three studio albums and placed Welsh music on the map at many of England’s most prestigious festivals including Cambridge, Sidmouth and Cropredy, as well as touring regularly in Europe and the USA. His fruitful collaboration with the Cerys Matthews band has seen him take their unique blend of Welsh and American influenced music to the platform of the World Music Expo, the Nuyorican poets cafe in New York and the BBC Proms. 2014 saw the release of his first work as a musical director for television – a successful collaboration with Bryn Terfel and a selection of guest artists for S4C's 'Nadolig Bryn Terfel'. This was followed by 'Bryn Terfel - Gwlad y Gân' (Bryn Terfel - Land of Song) for S4C in 2016.

In 2015 Patrick embarked on a number of exciting projects, including two tours of the USA with Calan, 'Beyond Borders' for PRSf and 'Cylch Canu: SongChain' for Theatr Mwldan. In 2016, Patrick curated the Wales Millennium Centre's free folk music festival, ‘Calan Mai’, premièred a new piece of music for the children's story 'The King, The Cat & The Fiddle at St David's Hall, Cardiff and toured the UK with Calan.

ENG
Amrwd square _edited.jpg
bottom of page