top of page
Tapestri logo (gold & silver)_edited.png

Gwyliwch Tapestri ar AM ac ar tycerdd.org o ddydd Sul 1 Mawrth 2026

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2026, mae Tŷ Cerdd yn cyflwyno Tapestri, casgliad o ffilmiau byrion sy'n cyfleu ysbryd 15 o grwpiau cerddorol ym mhob cwr o Gymru. Mae Tapestri yn plethu stori fywiog cerddoriaeth Gymreig heddiw. 

Fe fydd y ffilmiau’n cael eu dangos am y tro cyntaf ddydd Sul 1 Mawrth 2026, ar AM, cartref digidol y celfyddydau yng Nghymru. Crëwyd y ffilmiau yn ystod mis Ionawr 2026 gan y gwneuthurwr ffilmiau arobryn Meinir Siencyn. Mae'r ffilmiau'n cynnig golwg fanwl ar y gerddoriaeth sy'n cael ei chreu heddiw a phwysigrwydd grwpiau o'r fath i gymunedau ledled y wlad. 

O gôr a ffurfiwyd gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ensembles gwerin traddodiadol, ac o fand pres i gymdeithas y delyn deires. O gorau meibion i grŵp byrfyfyr arbrofol, mae Tapestri yn profi bod sain Cymru yn fwy amrywiol nag erioed o'r blaen.  

Mae'r rhan fwyaf o'r grwpiau dan sylw yn gweithredu'n ddwyieithog, gan berfformio yn Gymraeg a Saesneg, ac mae sawl iaith arall yn cael eu siarad ac eu cynnwys mewn perfformiadau gan y grwpiau hefyd. Ymhlith yr ieithoedd mae Arabeg, Hindi, Marathi, Yoruba, Twrceg, Ido, Medumba, Pwnjabeg, Creole a Tigrinya. Ymhlith y grwpiau mae côr sy'n dod â’r wefr o gyd-ganu i'r rheiny sy'n byw gyda dementia a'u hanwyliaid, mae grŵp arall wedi'i deilwra ar gyfer y rhai sy'n byw gyda Parkinson's, ac mae dau ensemble yn hyrwyddo cerddorion ag anableddau dysgu.

Mae Tapestri yn bosibl diolch i Gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026 Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi prosiectau ledled Cymru i ddathlu ein treftadaeth, ein diwylliant a'n gwerthoedd. Nod y gronfa yw gwneud Dydd Gŵyl Dewi 2026 y gorau a’r mwyaf cofiadwy hyd yma.

Ayan small.jpg

Ayan Cymru 

Grŵp amrywiol o berfformwyr a phobl greadigol sy'n cydweithio ar draws cerddoriaeth, dawns a theatr.

ayanmusic.co.uk

Canfod y Gân, Canolfan Gerdd William Mathias 

Prosiect arloesol gan Ganolfan Gerdd William Mathias mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd. Mae Canfod y Gân yn creu cerddoriaeth gydweithredol a chynhwysol. Y pwyslais yw cyfranogiad, mynegiant personol a chysylltiad cymdeithasol.

cgwm.org.uk/canfod-y-gan

Canfod y Gan
SWGMC_edited.jpg

Côr Meibion Hoyw De Cymru 

Côr bywiog a chynhwysol wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sy’n dod â phobl sydd wrth eu bodd yn canu at ei gilydd, waeth beth fo’u cefndir cerddorol.  

swgmc.co.uk

Côr Meibion Llanymddyfri 

Côr cymunedol sydd â’r brif nod o hyrwyddo gwerthfawrogiad pobl o gerddoriaeth gorawl meibion yng Nghymru. A hynny drwy gyflwyno cyngherddau i bobl leol, sefydliadau ac elusennau.

llandoverychoir.wales

Llandovery Male Voice Choir_edited.jpg
TELUNTRIRES_edited.jpg

Cymdeithas y Delyn Deires 

Criw o ffrindiau sy’n cyfarfod i chwarae a rhannu alawon ar y delyn draddodiadol Gymreig.    

cymdeithasydelyndeires.cymru

Dawns ar gyfer Parkinson’s, Cyffordd Llandudno 

Grŵp dawnsio ar gyfer y gymuned Parkinson’s, sy’n cyfarfod yn wythnosol i deimlo buddion symud creadigol, cerddoriaeth delyn fyw a sgwrs dda dros baned a chacen.      

facebook.com/danceforparkinsons

Dance for Parkinsons_edited.jpg
Ffidil Fawr_edited.jpg

Ffidil Fawr 

Penwythnos Ffidil Cymreig, dathliad o’r traddodiad ffidil yng Nghymru sy’n dod â dros 100 o bobol at ei gilydd i ddysgu, rhannu a dathlu’r ffidil yng Nghymru.

vri.cymru/ffidilfawr

Forget-Me-Not Chorus, De Caerdydd a’r Fro

Grŵp sy’n cefnogi’r rheiny sy’n byw gyda dementia, a’u hanwyliaid, drwybŵer cyd-ganu. 

forgetmenotchorus.com

Forget Me Not Chorus_edited.jpg
Llift_edited.jpg

LLiFT 

Grŵp cymunedol cynhwysol sy'n rhoi cyfle i unigolion chwarae neu brofi cerddoriaeth ensemble byrfyfyr yn rheolaidd yng ngogledd Cymru ac i archwilio dulliau rhyngddisgyblaethol ehangach o greu cerddoriaeth arbrofol.   

storiel.cymru/whats-on/llift-music-sessions

Panedeni 

Ensemble cerddorol unigryw sy'n cyfuno'r "paned o de" Cymreig - Paned - gyda te Adeni o Yemen.  Dathlu cerddoriaeth amlddiwylliannol, ehangu gorwelion.

panedeni.com

Panedeni_edited.jpg
Aberystwyth Phil_edited.jpg

Philomusica Aberystwyth 

Cerddorfa symffoni gymunedol Aberystwyth, a ffurfiwyd ym 1972, sy’n cynnwys myfyrwyr ac aelodau o'r gymuned leol o bob oedran.

philomusica.cymru

Seindorf Beaumaris 

Wedi ei lleoli yn nhref Beaumaris ar Ynys Môn, mae Seindorf Beaumaris yn fand sydd wedi ei gwreiddio yn ei chymuned ac yn falch iawn o fod yn llysgenhadon i'r dref a’r ynys.

 

beaumarisband.org.uk

Seindorf Beaumaris Band_edited.jpg
Sesiwn Werin Chapter_edited.jpg

Sesiwn Werin Chapter 

Sesiwn werin agored wrth far Chapter, Caerdydd sy’n rhoi cyfle i chwarae, canu, dawnsio, ac ymwneud â thraddodiadau Cymru a thu hwnt.    

sesiwnwerin

Wales One World Choir 

Prosiect celfyddydau cymunedol sy’n dathlu lleisiau pobl o bob cwr o’r byd. Wedi’i leoli yng Nghaerdydd. 

oneworldchoir.co.uk

Zebra Cactus_edited.jpg

Zebra Cactus

‘Supergroup’ Cymreig 10 aelod gyda naws ‘DIY’ ac agwedd bync – a ddaeth ynghyd drwy Bwthyn Sonig - prosiect Tŷ Cerdd ar gyfer cerddorion ag anableddau dysgu.   

tycerdd.org/bwthyn-sonig

DGD + TC + WG logos BLACK_edited.png
bottom of page