top of page

Thalia Ellice Richardson 
aka
E11ICE   1997

Hunan arall yw E11ICE y gantores a rapwraig amlgenre a aned yng Nghernyw ac sy’n byw yng Nghaerdydd, Thalia Ellice Richardson. Mae cerddoriaeth E11ICE yn adlewyrchu ei siwrnai ei hun drwy fywyd a’i helyntion gan edrych ar gysyniadau fel dieithrio, unigrwydd, pryderon, angerdd, cariad, ofn, hapusrwydd a dicter ac yn tywallt ei hemosiynau i gyfrwng barddol i’w hystyried gyda’r gynulleidfa. Mae jazz yn chwarae rôl allweddol yn nilyniant y symudiadau sy’n tanategu ei cherddoriaeth, gyda rhyddid a chelfyddyd yng nghanol ei sŵn. Yn ystwytho’n rhwydd i mewn ac allan o genres mewn adlewyrchiad amrwd a gonest o’i theimladau ei hun, mae perfformiadau byw dihafal E11ICE yn amrywio o wahanol berfformiadau gan fandiau llawn i setiau offerynnol ac acwstig moel, gan gyfuno alawon a geiriau ymwybodol â phresenoldeb grymus ar y llwyfan.

  • Spotify
  • Instagram
Thalia Richardson.jpg

E11ICE is the alter-ego of Cornwall-born, Cardiff-based multi-genre singer and rapper Thalia Ellice Richardson. E11ICE’s music reflects her own journey through life and its trials and tribulations exploring concepts of alienation, loneliness, anxieties, passions, love, fear, happiness and anger – pouring her emotions into a poetic medium to be explored with the audience. Jazz plays a key role in the progression of the movements that underpin of her music, with freedom and artistry at the heart of her sound. Flexing fluidly in and out of genres in a raw and honest reflection of her own feelings, E11ICE’s inimitable live performances range from a variety of performances from full bands to stripped back instrumental and acoustic sets, fusing melodies and conscious lyrics with a powerful stage presence.

ENG
bottom of page