top of page

Tom Elstob

CHAOS, PERIL AND

THE GREAT ESCAPE

Dw i wedi cael andros o hwyl wrth ddod i nabod Academi South 2 Hijinx a’r gobaith yw y bydd y darn rydyn ni wedi’i greu gyda’n gilydd yn adlewyrchu’r hwyl rydyn ni wedi’i chael. Drwy’r adeg dw i wedi cydweithio â Francis Maxey o NoFit State Circus ac ar y cyd rydyn ni wedi gadael lle i bersonoliaethau unigol y perfformwyr dywynnu drwy’r broses greadigol.

 

Dw i wedi dysgu cryn dipyn yn ystod y broses yma. Dw i hefyd wedi bod yn ceisio dysgu i’r myfyrwyr sut i wrando –i mi, sgil pwysicaf y cerddor – ac ymateb. Rydyn ni i gyd wedi dysgu llawer o sgiliau syrcas newydd y bydd llawer ohonynt i’w gweld yn ein darn Chaos, Peril & The Great Escape.

 

Ar y dechrau, cynigiodd Francis y thema ‘carchariad’ ac fel grŵp buon ni’n trafod y posibiliadau. Beth oedd yn peri i ni deimlo’n gaeth? A ydyn ni’n gaeth yn ein cyrff? Yn gaeth yn ein meddyliau? Yn gaeth yn y system?

 

Gobeithiwn fod ein darn yn trafod y posibiliadau hyn mewn ffordd chwareus a difyr.

CoDI SYMUD / MOVE

move icon black.png

I’ve had a terrific time getting to know Hijinx Academy South 2, and hopefully the piece we’ve created together will reflect the fun we’ve had. I’ve been collaborating throughout with NoFit State Circus’ Francis Maxey and together we’ve allowed space for the individual personalities of the performers to shine through the creative process.

 

I’ve learned a great deal during this process. I’ve also been trying to teach the students how to listen – for me, the greatest skill a musician can have – and respond. We’ve all learned a lot of new circus skills, many of which will be on display in our piece: “Chaos, Peril & The Great Escape.”

Early on, Francis offered the theme of “imprisonment” and as a group we discussed the possibilities. What made us feel trapped? Are we trapped in our bodies? Trapped in our minds? Trapped in the system?

 

We hope our piece will discuss these possibilities in a playful and engaging way.

bottom of page