top of page

RESPONSE TO ARTS COUNCIL WALES
INVESTMENT REVIEW DECISION

We are grateful for the ongoing support announced by Arts Council of Wales today as we continue as one of its Portfolio organisations. The increased support recognises the developments we have made over the last few years to broaden opportunities for Wales’s music makers. We will now be taking a moment to absorb this news; to reflect on its impact, and how we can consolidate and build from this point forward. We will share updates soon.

 

We know only too well what a highly demanding time it has been for the industry and Arts Council of Wales alike. Our thoughts are with everyone who has received hard news today. We hope that the sector can be a place of support and care for its members and that the creativity, collaboration and resilience that underpins our work can be galvanised to find new and meaningful opportunities for people to thrive. We will play our part in that.

 

We would like to extend a warm welcome the new members of the portfolio announced today. We can see huge opportunities for Welsh music to thrive through potential new partnerships and cross pollination, as the sector expands to be more open, inclusive, and diverse in its work.

 

We remain committed to support artists, communities, and audiences to create, perform and participate in the music of Wales. If you have any questions about today’s news, please don’t hesitate to get in touch at enquiries@tycerdd.org

YMATEB I BENDERFYNIAD ADOLYGIAD BUDDSODDI
CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Rydym yn ddiolchgar am y parhad yn y gefnogaeth a gyhoeddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru heddiw wrth i ni barhau i fod yn un o sefydliadau ei Bortffolio. Mae’r cynnydd yn y gefnogaeth yn cydnabod y datblygiadau rydyn ni wedi’u gwneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ehangu cyfleoedd i gerddorion Cymru. Byddwn yn awr yn mynd ati i bwyso a mesur y newyddion hwn; i adfyfyrio ar ei effaith, a sut y gallwn atgyfnerthu ac adeiladu o hyn ymlaen. Byddwn yn rhannu gwybodaeth bellach yn fuan.

 

Gwyddom yn rhy dda ei bod yn gyfnod heriol iawn i’r diwydiant ac i Gyngor Celfyddydau Cymru fel ei gilydd. Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi derbyn newyddion anodd heddiw. Gobeithiwn y gall y sector fod yn lle sy’n cefnogi ac yn gofalu am ei aelodau ac y gellir ysgogi’r creadigrwydd, y cydweithio a’r gwytnwch sy’n sail i’n gwaith i fynd ati i gael gafael ar gyfleoedd newydd ac ystyrlon i bobl ffynnu. Byddwn yn chwarae ein rhan yn hyn o beth.

 

Hoffem estyn croeso cynnes i aelodau newydd y portffolio a gyhoeddwyd heddiw. Rydym yn gweld cyfleoedd enfawr i gerddoriaeth Cymru ffynnu drwy bartneriaethau newydd posibl a thrawsbeillio, wrth i’r sector ehangu i fod yn fwy agored, cynhwysol ac amrywiol ei waith.

 

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi artistiaid, cymunedau a chynulleidfaoedd i greu, perfformio ac ymwneud â cherddoriaeth Cymru. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch newyddion heddiw, mae croeso cynnes i chi gysylltu â ni drwy enquiries@tycerdd.org

bottom of page