top of page

CASGLIAD

CERDDORIAETH

CYMREIG

Adnodd sylweddol yw Casgliad Cerddoriaeth Cymru TÅ· Cerdd ar gyfer gwybodaeth am gerddoriaeth a chyfansoddwyr clasurol Cymru. Rydym yn dal copïau o gannoedd o sgorau cyhoeddedig ac anghyhoeddedig gan gyfansoddwyr Cymreig. Gallwch weld catalog o’r sgorau rydym yn eu dal yma, neu os oes gynnoch chi unrhyw ymholiadau am sgorau sydd heb eu rhestru, cysylltwch ag Ethan Davies.


Ar ben hyn, mae llyfrau, cylchgronau, torion papurau newydd a rhaglenni i gyd yn ymwneud â cherddoriaeth Gymreig i’w cael ar ein silffoedd ynghyd â CDs, casetiau a recordiau o gerddoriaeth a nifer bach o ddarllediadau. At ei gilydd, at ddefnydd llyfrgell yn unig y mae’r eitemau hyn ac felly gallwch eu gweld drwy drefnu apwyntiad cyn eich ymweliad drwy gysylltu ag ethan.davies@tycerdd.org.


Ymhlith yr eitemau amrywiol yng Nghasgliad Cerddoriaeth Cymru, ceir hynafiaethau fel hen lyfrau ymarferion yn cynnwys tonau a geiriau emynau wedi’u hysgrifennu â llaw; casgliadau cyhoeddedig o gerddoriaeth i’r delyn a chaneuon gwerin a chasgliad o gerddoriaeth ddalen i’r sinema o Theatr y Capitol Caerdydd. Mae llawer o’r eitemau hyn yn brin neu’n unigryw ac yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 19eg ganrif.


Os mai cyfansoddwr o Gymru ydych chi ac rydych yn dymuno gadael eich sgorau, recordiadau a/neu frasluniau gyda ni, cysylltwch ag ethan.davies@tycerdd.org. Rydym yn derbyn copïau caled yn ogystal â PDFs i’w harchifo’n ddigidol.

​

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau amdano beth sydd gyda ni yn ein casgliad, plîs gysylltwch ag Ethan (ethan.davies@tycerdd.org) wnawn ni ein gorau i’ch helpu cyn gynted â phosib.
 

bottom of page