top of page
CoDI Arbrofol logo.png

Roedd chwe chreawdwr cerddoriaeth eu recriwtio ar gyfer CoDi Experimental - llwybr ar gyfer ysgrifennu / ymarfer arbrofol.

Cafodd chwe chrewr cerdd - Amy Sterly, Emma Daman Thomas, Fern Thomas, Francesca Simmons, Simon Proffitt a Stephen Black - l eu dewis ar gyfer CoDI Arbrofol. Yn arwain y chwe artist dethol drwy’r broses oedd: Angharad Davies (feiolín), Rhodri Davies (telyn ac electroneg) a Siwan Rhys (piano), sy’n ffurfio cydweithfa artistig yn arbennig ar gyfer y prosiect yma. Artistiaid arbrofol blaenllaw yw’r tri y mae eu gyrfaoedd wedi coleddu ystod o gerddoriaeth avant-garde, gan gynnwys byrfyfyrio, dulliau newydd o nodiant, dehongli sgoriau testun a graffeg, electroneg fyw a chelfyddyd berfformio.

 

Gan weithio o gasgliad archifau TÅ· Cerdd, roedd y gydweithfa’n creu deunydd crai i’r chwe chyfansoddwr ymateb iddynt/eu defnyddio yn ystod y broses greu. Drwy gyfres o weithdai, datblygwyd gweithiau newydd gan arwain yn y pen draw at berfformiad yn Eglwys Sant Edward (Caerdydd) ym mis Mai 2021.

 

Ochr yn ochr â diddordeb amlwg mewn / profiad o weithio mewn ffyrdd arbrofol, dangosodd yr ymarferwyr llwyddiannus  ymgysylltiad â threftadaeth diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Siaradwyr Cymraeg oedd pob aelod o’r gydweithfa a chynhelir gweithgareddau’r llwybr hwn yn ddwyieithog.

 

> RECORDIADADAU

​

CoDI 2020-21 logos.png

TÅ· Cerdd is a PRS Foundation Talent Development Partner in association with Youth Music

bottom of page