top of page
CyM rectangle Lynne Plowman 2 copy_edited.jpg

Mae rhychwant eang cerddoriaeth Lynne Plowman yn ymestyn o fawredd gweithiau cerddorfaol a sgorau theatrig, i agosatrwydd darnau offerynnol unawdol. Mae ei gweithiau wedi cael eu perfformio’n helaeth ledled y DU ac mae comisiynwyr a chydweithredwyr wedi cynnwys Glyndebourne, y Royal Shakespeare Company a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Yn y blynyddoedd diwethaf mae ei cherddoriaeth wedi mwynhau cydnabyddiaeth ryngwladol fwyfwy gyda Clarion Call (a gomisiynwyd gan y grŵp cerddoriaeth gyfoes o Ffrainc, Ensemble Télémaque) yn derbyn nifer o berfformiadau yn ne Ffrainc yn 2021, a Small World (a gomisiynwyd gan Merian Ensemble yr Atlanta Symphony Orchestra) a dangoswyd am y tro cyntaf yn Atlanta ym mis Mawrth 2022. Bydd recordiad CD o Small World gan y Merian Ensemble yn cael ei ryddhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Efallai ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei gweithiau llwyfan sy’n cynnwys Gwyneth and the Green Knight. Wedi’i hysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd teuluol, ac enillodd iddi Wobr Cyfansoddwr Prydeinig a chafodd ei chanmol gan The Times fel ‘Un o’r operâu newydd mwyaf dawnus a glywais ers sawl blwyddyn’. Ers hynny mae hi wedi creu tair opera arall gan gynnwys Captain Blood’s Revenge (a gomisiynwyd gan Glyndebourne yn 2012) a The Face in the Mirror (a gomisiynwyd yn 2011 gan Opera Cenedlaethol Cymru) a gynhyrchwyd mewn cyfieithiad Ffrangeg newydd, gan Opéra-Théâtre Junior yn Genefa yn 2023.

Mae Plowman yn byw ym Mro Morgannwg ac mae dylanwad ei hardal wledig yn ogystal â phryder dwfn am yr argyfwng hinsawdd i’w glywed yn aml yn ei cherddoriaeth. Yn ystod y cyfnod cloi, cafodd ei chomisiynu gan BBC Radio 3 i greu Songbird ar gyfer ffliwt unawdol, a wnaeth yn ei tro ysbrydoli gyfres o ddarnau sy'n defnyddio cân yr adar, gan gynnwys Bird Music ar gyfer y recorder a phiano a Dances with Bells and Birds a gafodd ei dangos am y tro cyntaf gan Elena Cholakova yn Ngŵyl Piano Prague 2023. Disgwylir i recordiad CD newydd o'r olaf gael ei ryddhau ar label o'r UDA, New Focus Recordings yn 2024.

Y tu hwnt i’w gwaith fel cyfansoddwr, mae Plowman wedi ennill ei blwyf fel athrawes a mentor uchel ei barch ac mae wedi dysgu cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ers dros ugain mlynedd. Yn hyrwyddwr cerddoriaeth angerddol mewn ysgolion, hi yw cyfansoddwr preswyl cynllun Cyfansoddwyr Ifanc Dyfed ac yn 2022 dyfarnwyd iddi Wobr Joseph Parry gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru am ei chyfraniad eithriadol i addysg gerddorol yng Nghymru.

Mae Plowman mor brysur ag erioed ar hyn o bryd gyda llu o berfformiadau yn cael eu cynnal ym mis Mawrth. Y pennaf ymhlith y rhain yw The Wind Sweepers sy’n ymddangos yn nhaith wanwyn UPROAR.

perfformidau yn y dyfodol

01.03.24 Small World

Manchester University Contemporary Music Ensemble

Martin Harris Centre for Music and Drama, Prifysgyol Manceinion, Manceinion M13 9PL 

▶ gwybodaeth

08.03.24 maggie and millie and molly and may

'A Female Perspective' - darganfyddiad o leisiau merched trwy amser; detholiadau o lythyrau a ysgrifennwyd dros ganrifoedd wedi'u gwau i gerddoriaeth hardd gan gyfansoddwyr benywaidd

Urban Crofters, Crofts Street, Caerdydd CF24 3DZ

▶ gwybodaeth

04.03.24; 15.03.24; 22.03.24; 30.04.24 Logs and Shells (allan o 'A Field Guide to Pebbles')

cyngherddau ysgolion Opera Cenedlaethol Cymru
Caerdydd, Llandudno, Southampton a Plymouth

▶ gwybodaeth

07.03.24; 22.03.24; 23.02.24 The Wind Sweepers

taith UPROAR 

Aberystwyth, Merthyr Tudful a Rhosygilwen

▶ gwybodaeth

26.08.24 Gwaith newydd ar gyfer telyn a cherddorfa linynnol (wedi ei gyd-gomisiynu gan Gŵyl Llanandras a Grand Teton Music Festival, UDA)

Anne Denholm, telyn

Gŵyl Llanandras

▶ Lynne Plowman: The Wind Sweepers

▶ lynneplowman.co.uk

▶ traciau Lynne Plowman ar Spotify

▶ cyhoeddiadau Lynne Plowman gan Composer's Edition

▶ cyhoeddiadau Lynne Plowman gan Wise Music Classical

▶ Cyfansoddwr y Mis

bottom of page