top of page

E T Davies 1878-1969

​Cyfansoddwr a chanddo gysylltiadau cerddorol da oedd Evan Thomas Davies: ar ochr ei fam roedd yn ddisgynnydd i’r cyfansoddwr caneuon/cyfansoddwr R. S. Hughes a bu ganddo gysylltiad agos â Harry Evans, ei diwtor, drwy gydol ei oes. A dweud y gwir, ymgartrefodd yn y pen draw ym Merthyr Tudful, yn agos iawn i’r tŷ lle’r oedd ei gyn-fentor wedi byw. (Mae trefniant enwog Harry Evans o Ar Hyd y Nos ar gyfer SATB a TTBB hefyd newydd ei ailgyhoeddi gan Tŷ Cerdd).

Yn ogystal â’i waith fel cyfansoddwr, roedd galw mawr am ei ddoniau fel organydd, a lansiodd dros gant o organau newydd ar draws y DU. Ef hefyd oedd y cyfarwyddwr cerdd llawn-amser cyntaf yn yr hyn sydd bellach yn Brifysgol Bangor.

Cân a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, Llundain ym 1909 oedd un o’i ddarnau, Ynys y Plant – dyma oedd un o ffefrynnau’r soprano, Amy Evans ac fe’i clywir ar lwyfan yr Eisteddfod hyd heddiw. Hefyd bu’n cydolygu Caneuon Cenedlaethol Cymru [The National Songs of Wales] â Sydney Northcote – cyfansoddwr, beirniad ac organydd arall uchel ei barch – ar gyfer Boosey & Hawkes ym 1959.

Evan Thomas Davies was a composer who was musically well-connected in Wa