Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
Gwen Siôn 1992
Mae Gwen Siôn yn gyfansoddwr arbrofol, pianydd ac artist amlddisgyblaethol sy'n gweithio gyda sain, ffilm, cerfluniaeth a gosodwaith. Mae ganddi ddiddordeb yn y weithred o gyfieithu a thrawsnewid, ac mae’n defnyddio sain fel ffordd o ddisgrifio profiadau gweledol, ffisegol ac emosiynol. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio'r syniad o gyfieithu tirweddau i gyfrwng sain ac yn cyfuno elfennau o gerddoriaeth ambient ac electroacwstig, minimaliaeth a musique concrète.
Mae Gwen wedi arddangos gweithiau sain yng Nghymru a Llundain ac yn 2019 gweithiodd fel artist preswyl yn Iwerddon ar ei phroject safle-benodol ‘Hearing Landscape’, yn trosi tirweddau lleol yn gasgliad o weithiau sain. Yn ogystal â gweithio fel cyfansoddwr arbrofol ac artist sain mae Gwen hefyd yn gweithio fel cerddor, awdur geiriau, lleisydd a chynhyrchydd i’r triawd cerddoriaeth electronig 'LSN', sydd wedi perfformio ym Mhrydain, Ewrop, yr Unol Daleithiau a Chanada ac wedi rhyddhau catalog amrywiol o waith, gan gynnwys senglau, EPs ac LP ar finyl ac yn ddigidol ar wahanol labeli recordio annibynnol.

Gwen Siôn is an experimental composer, pianist and multidisciplinary artist who works with sound, film, sculpture and installation. She is interested in acts of translation and transformation, using sound as a way to describe visual, physical and emotional experience. Her work often explores the idea of translating landscapes into sound and combines elements of ambient, electroacoustic, minimalism and musique concrète.
Gwen has exhibited sound works in Wales and London and in 2019 worked as an artist in residence in Ireland on her site-specific project 'Hearing Landscape', translating local landscapes into a collection of sound works. As well as working as an experimental composer and sound artist, Gwen also works as a musician, writer, vocalist and producer as part of electronic music trio ‘LSN’, who have performed across the UK, Europe, USA and Canada and have a diverse back catalogue including vinyl/digital EPs, singles and an LP on various independent record labels.