Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
Menter Celfyddydau ac Iechyd yn comisiynu carfan o artistiaid i wneud gosodiadau cerddoriaeth a sain bwrpasol ar gyfer y capel aml-ffydd yn Ysbyty Prifysgol Grange yn Llanfrechfa. Ariannwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mewn cydweithrediad â Studio Response.
Jo Thomas
Sketch of Nature

.png)
Cyfansoddwraig ac artist sain yw Jo Thomas, a aned a’i magu yng Nghymru ac sydd bellach yn byw yn Llundain o ble mae’n gweithio.
Mae’n cyfansoddi ar gyfer y llwyfan cyngherddau, orielau, troeon sain ac i ryddhau’n fasnachol ac mae ei gwaith wedi ennill gwobrau rhyngwladol. Mae Jo yn ei gweld ei hun fel rhywun anabl ac yn eiriolwraig dros fynediad teg yn y celfyddydau. Hi yw Is-gadeirydd Sound and Music ac un o gyfarwyddwyr Academi Ivors.
Gwrandewch ar 'Sketch of Nature'...
Sketch of Nature – nodyn cyfansoddwr
Mae’r gwaith wedi’i seilio ar y pedair adran o’r ardd furiog yn nhŷ gwreiddiol y Faenor (sydd o fewn tiroedd yr ysbyty), ynghyd â barddoniaeth gan Elizabeth Mitchell a fu’n byw yn yr hen dŷ ac atgofion y rheini sy’n gwirfoddoli yn yr ardd.
Mi anogais y gwirfoddolwyr drwy weithdai i fyfyrio ar y gofodau o’u cwmpas ac wedyn mi wnes i recordio agweddau ar y sain gan fraslunio delweddau o’n hamgylchedd.
Mae pedair rhan i’r darn:
-
water revelations – seiliedig ar y cerflun dŵr ger y brif giât
-
rockwall – adeunydd sain sy’n swnio’n dew. Daw’r cerrig yn y wal o bob cwr o Gymru ac roedd y wal fel pe bai’n dal rhyw soniaredd hudol dwfn oedd yn elfennol iawn ac roeddwn i am ddal hwnnw
-
poly plastic – wedi’i hysbrydoli gan ddisgrifiad a roddwyd gan Jan, pennaeth y gwirfoddolwyr, o sŵn y tŷ gwydr polyplastig pan fyddai’r glaw’n syrthio
-