top of page
CoDI Grange (new).png

Menter Celfyddydau ac Iechyd yn comisiynu carfan o artistiaid i wneud gosodiadau cerddoriaeth a sain bwrpasol ar gyfer y capel aml-ffydd yn Ysbyty Prifysgol Grange yn Llanfrechfa. Ariannwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mewn cydweithrediad â Studio Response.

Stacey Blythe
Where the Veil is Thin

  • Twitter
  • SoundCloud
  • Instagram
Stacey Blythe 02.jpg
CoDI Grange (new).png

Yn gyfansoddwraig, perfformwraig ac amlofferynwraig, mae Stacey Blythe wedi perfformio ledled y DU ac yn America. Mae’n ysgrifennu’n rheolaidd i adran ymgysylltu Opera Genedlaethol Cymru ac wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Gyfansoddwyr Sefydliad Paul Hamlyn. Mae’n perfformio gyda’r bandiau Cymreig Ffynnon ac Elfen ac wedi teithio a recordio’n helaeth fel cyfansoddwraig a pherfformwraig gydag artistiaid sy’n cynnwys Maria Hayes, Dylan Fowler, Julie Murphy a Meredith Monk. Yn wreiddiol o Birmingham, mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn siarad Cymraeg yn rhugl. https://www.staceyblythe.com  

Gwrandewch ar 'Where the Veil is Thin'... 

Where the Veil is Thin – nodyn cyfansoddwr

Pan ddechreuais i weithio ar y darn hwn, mi wnes i fwrw fy rhwyd yn eang iawn gan gysylltu â llawer o sefydliadau amgylcheddol a bywyd gwyllt lleol. Es i am sawl tro ar fy mhen fy hun yn yr ardal i brofi naws y lle ac yna dechrau ceisio cysylltu â’r bobl yno. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf roedd hyn, felly roedd yn anodd cwrdd â phobl i’w recordio, ond mi dderbyniais i adborth ac ymatebion personol gwerthfawr i’r cwestiwn, “Beth mae dŵr yn ei olygu i chi wrth i chi gerdded yn yr awyr agored er mwyn cael gorffwys ac ymlacio?” (gyda llawer yn cyfeirio at y dyfrffyrdd o gwmpas Cwmbrân, gan gynnwys Afon Lwyd, Nant Sor, Nant Candwr ac eraill).


Roedd Carole Jacob, trefnydd Cyfeillion y Ddaear yng Nghwmbrân, yn frwdfrydig iawn yn syth ac mi wnaethon ni gwrdd lawer gwaith i fynd am droeon hir a sgyrsiau hir am gefn gwlad a bywyd gwyllt hardd Cwmbrân y mae’n eu caru ac yn ymgyrchu drostynt. Fe’m cyflwynodd i feicwyr, selogion y gamlas, cerddwyr, canŵ-wyr a phobl leol eraill ar ein teithiau cerdded gyda’n gilydd.

Boating lake.jpg

Llyn Cychod Cwmbrân

Stacey B.jpeg

Stacey Blythe

Afon Lwyd.jpg

Afon Lwyd

O’r deunydd cyfoethog hwn daeth fy nghyfansoddiad terfynol. Cerdd gan Carole yw’r em yn y canol sy’n disgrifio trysor a phŵer y dirwedd leol yng Nghwmbrân. Dw i’n gorffen ei geiriau gyda phennill terfynol o’m heiddo fy hun sy’n adlewyrchu’r holl brofiadau bendigedig dw i wedi’u cael wrth greu siwrnai sain wreiddiol drwy-gyfansawdd 20 munud ar gyfer y prosiect gwych yma.

 

Newidiodd y gwaith hwn sut bydda i’n gweithio fel cyfansoddwraig… erbyn hyn mae gen i sgiliau nad oedd gen i o’r blaen a dw i’n wirioneddol ddiolchgar am y cyfle cyfareddol hwn.

Siaradodd Stacey â ni am yr ysgogiad gwreiddiol ar gyfer ei darn a sut y gwnaeth iddi archwilio llwybrau creadigol newydd...

Grange footer logos.png
Grange footer logos.png
Grange footer logos.png
bottom of page