top of page

Mae Tŷ Cerdd yn dathlu a hyrwyddo cerddoriaeth Cymru. Trwy ei gweithgareddau a gweithio gydag amrwyiaeth o bartneriaid, mae Tŷ Cerdd yn gweithio tuag at:

  • ddod â cherddoriaeth Cymru i sylw cynulleidfaoedd ledled y genedl ac o amgylch y byd

  • diogelu treftadaeth cerddoriaeth Cymru y gorffennol a gyrru datblygiad cyfansoddi newydd,
    ar draws genres cerddorol

  • galluogi cymunedau

  • ​i gefnogi’r sector proffesiynol a’r rheini nad ydynt yn broffesiynol, perfformwyr a chynulleidfaoedd, i berfformio, cyfansoddi a phrofi cerddoriaeth Cymru

  • darparu cymorth uniongyrchol i gyfansoddwyr, a chydweithio â sefydliadau cerddoriaeth proffesiynol Cymru, gyda chymorth ein stiwdio recordio fewnol, ein label recordio (Recordiau Tŷ Cerdd) a’n gwasgnod cyhoeddi

Llwybrau Cyfansoddwry CoDI – rhaglen amrywiol i grewyr cerddoriaeth o Gymru a Chymru yn cynnig ystod o gyfleoedd datblygu

Recordiau Tŷ Cerdd Records – label record uchel ei chlod yn arbenigo mewn cerddoriaeth gan gyfansoddwyr a pherfformwyr Cymreig (Edrychwch ar ein rhestr chwarae )

Tapestri – archif cerddoriaeth fyw a dathliad cerddorol cenedlaethol o bobl, cymunedau ac ieithoedd Cymru

Cyhoeddiadau Tŷ Cerdd – repertoire Cymreig sy'n cynnwys gweithiau gan William Mathias, Grace Williams, Morfydd Owen, Rhian Samuel a, Gareth Wood

Casgliad Cerddoriaeth Cymreig  – llyfrgell gyfeirio yn cynnwys miloedd o eitemau gan gynnwys llyfrau prin ac unigryw, cyfnodolion, a recordiadau sain sy'n ymwneud â chanrifoedd o gerddoriaeth yng Nghymru

 

Darganfod Cerddoriaeth Cymru – canolbwynt digidol i gerddoriaeth Cymru gydag archif sy'n archwilio hanes cerddoriaeth Gymreig

Cronfa Cyfansoddwr – cyfeirlyfr helaeth o gyfansoddwyr Cymreig

Llyfrgell – casgliad mawr o gerddoriaeth gorawl i'w llogi

bottom of page