Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2063 5640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL
Cân:affricerdd

Mae Cân: affricerdd yn gyfle i grewyr cerddoriaeth o dras Affricanaidd sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru i ysgrifennu cân newydd (mewn unrhyw iaith a genre cerddorol) a chreu fideo cerddoriaeth o'r gwaith newydd.
Mae Mirari More, N'famady Kouyaté, Ogun, a Skunkadelic (Tumi Williams) eu dewis ar ôl galwad agored i artistiaid i greu gwaith newydd ar gyfer cân: affricerdd. Mae'r rhaglen hon yn un o linynnau Tapestri, menter newydd Tŷ Cerdd sy'n helpu i greu archif gerddorol fyw o bobl, ieithoedd a chymunedau Cymru – wedi’i hariannu gan raglen Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Pencerdd ifanc o Guinea (Conakry) yw N’famady Kouyaté sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. Yn aml-offerynnwr talentog, ei brif offerynnau yw’r balaffon – seiloffon pren traddodiadol sy’n sanctaidd i ddiwylliant Gorllewin Affrica a threftadaeth ‘griot’ ei deulu. Mae N’famady yn chwarae fel artist unawd yn ogystal â gyda band cyfan fel y Successors of the Mandingue. Asiad yw ei drefniannau o Affricanaidd Mandingue a dylanwadau jazz, pop, indi a ffync gorllewin Ewrop sy’n cael eu cynhyrchu gan griw bythol-esblygol o gerddorion.
Mae perfformiadau N’famady yn creu sawl gwahanol naws a feib rhyfeddol a bydd cynulleidfaoedd yn cael eu swyno gan ei frwdfrydedd heintus a llawenydd, gan wefreiddio cynulleidfaoedd ar draws y DU ac Iwerddon yn ystod hydref/gaeaf 2019/20 yn cefnogi Gruff Rhys ar daith yr albwm ‘Pang!’ yn ogystal â chwarae gyda band Gruff.
Yn haf 2021, gwelwyd N’famady yn dechrau ar bennod greadigol newydd a chyffrous wrth ryddhau ei EP gyntaf, “Aros i Fi Yna” – casgliad o ganeuon llawn lliwiau llachar ac yn gyflwyniad llawen i artist cyffrous a gwirioneddol ryngwladol yng Nghymru.
Manssa Nou Cissé – N'famady Kouyaté
cliciwch YMA am y geiriau mewn tair iaith

Mae bariton cyfarwydd a deheurwydd telynegol prif MC Caerdydd Skunkadelic (Tumi Williams) yn hawdd ei adnabod yn syth yn seinlun ffrwythlon hip-hop y DU. Yn tynnu ar dreftadaeth gerddorol a luniwyd gan oes aur hip-hop ac sydd wedi’i gwreiddio yn Nigeria, cartref ei deulu, mae’n sianelu angerdd amrwd, profiad a dyfeisgarwch i bob odl.
Cafodd darn diweddar ganddo gyda’r ddeuawd ffync a sôl o Fryste, yr Allergies, ei chwarae cryn dipyn ar y radio’n genedlaethol (Lauren Laverne, Radio 2), gan ddod i’r fei fel un o draciau’r DU a chwaraewyd fwyaf ar Shazam yn 2021 cyn dod yn ddynodiad cerddorol i ITV am sbel.
Mae Skunkadelic yn enwog am fod yn brif leisydd i’r criw affro-ffync a hip-hop 8-darn o Gaerdydd, Afro Cluster. Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf yng ngwanwyn 2021, gyda sioeau byw yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2021 a Chastell Caerdydd. Mae pob un o’r cysylltiadau creadigol arbennig yma wedi gyrru enw Skunkadelic fel un o MCs pwysicaf y DU.
Wo Ni Pe – Skunkadelic
cliciwch YMA am y geiriau mewn tair iaith
