top of page

Mae CoDI yn rhaglen hirdymor gennym ar gyfer Datblygu Artistiaid, gan wneud hynny drwy alluogi a chefnogi cyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth yng Nghymru trwy lwybrau datblygu creadigol, gweithdai, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio sydd â thâl am gymryd rhan. Sefydlwyd y CoDI yn 2018, ac mae’n cefnogi artistiaid a chrewyr cerddoriaeth ar draws genres ac ar bob cam yn eu hymarfer ac yn eu gyrfaoedd.

​

Os ydych chi’n gwneud cerddoriaeth yng Nghymru, yna rydyn ni’n credu mai cerddoriaeth Gymreig ydyw. Rydym yn esblygu’n barhaus i wella mynediad a chael gwared ar rwystrau i’n rhaglenni ac agor ein gwaith i ystod gynyddol o gerddorion. Rydym yn rhan o sawl rhwydwaith ledled y DU gyfan ac yn rhyngwladol, ac felly yn dysgu trwy gydweithio a hyfforddi, ac yn rhannu arfer gorau â phartneriaid. Rydym yn dilyn Egwyddorion Mynediad Teg y mudiad Sound and Music ac yn gweithio i ymateb ac i addasu i anghenion artistiaid yng Nghymru. Conglfeini sydd wrth graidd ein gwaith yw arfer teg, hygyrchedd a hyrwyddo’r Gymraeg.

​

Rydym wedi bod yn ffodus i gael ein cefnogi i fedru cynnal CoDI yn sgil cael grantiau prosiect gan ein cyllidwyr rheolaidd Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal ag o 2023 ymlaen drwy fuddsoddiad Sefydliad Jerwood a chyllidwyr a phartneriaid eraill. Rydym yn falch o fod yn aelod o Rwydwaith Datblygu Talent Sefydliad PRS, ac mae’r cyllid hwn yn rhan annatod o’n gwaith Datblygu Artistiaid, gan gynnwys ein llinynnau CoDI presennol.

​

Mae CoDI 2025/26 yn cynnwys llwybrau wedi’u harwain gan artistiaid ac sydd â thâl iddynt, ynghyd â RHYNGWEITHIO, sef cyfres o weithdai a hyfforddiant. Mae modd i chi ddarllen am brosiectau’r gorffennol yn archifau CoDi.

CoDI 24-25 logos.png
bottom of page