
Mae Tŷ Cerdd yn sefydlu rhwydwaith newydd o artistiaid dan ddaear sy’n byw yng Nghymru. Rydyn ni eisiau clywed gan artistiaid sain arbrofol a chrewyr cerddoriaeth sy’n gweithio ym meysydd byrfyfyrio rhydd, celfyddyd sain, sŵn, drôn, cymysgu difewnbwn neu unrhyw ymarfer anghonfensiynol neu avant-garde arall i’n helpu i lunio gweithgarwch y rhwydwaith.

Bydd CoDI Dan Ddaear yn cynnwys cronfa ddata ar-lein o artistiaid arbrofol, ynghyd â digwyddiadau ar-lein i gefnogi artistiaid i gysylltu â’i gilydd, hyrwyddo eu gwaith, rhannu dulliau a syniadau a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Mae’r rhwydwaith am ddim i ymuno ag e ac mae wedi’i ddatblygu ar y cyd â grŵp llywio o artistiaid a churadwyr sy’n byw yng Nghymru: Alan Chamberlain, Ash Cooke, Avi Allen, Beck Edwards, Dafydd Roberts, Edward Wright, Louise Trehy Nêst Thomas
Rydyn ni eisiau i artistiaid helpu i lunio’r rhwydwaith a dweud wrthon ni pa fath o weithdai, gweithgareddau a chyfleoedd yr hoffen nhw eu gweld yn cael eu datblygu.
COFRESTRWCH i gael gwybod sut y gallwch gael eich cynnwys yn y gronfa ddata ac i dderbyn arolwg i artistiaid.
Ariennir CoDI Dan Ddaear gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad y PRS am y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2021; nod Tŷ Cerdd yw cynnal a datblygu’r rhwydwaith yn dilyn y cyfnod cychwynnol a ariennir.
Mae diogelu eich preifatrwydd yn bwysig i ni yn Tŷ Cerdd ac rydym yn ymrwymedig i amddiffyn eich gwybodaeth a’ch data personol. Bydd Tŷ Cerdd ond cysylltu â chi drwy e-bost i roi’r gwasanaethau a’r cynnyrch rydych wedi gofyn amdanynt trwy fod yn rhan o’r prosiect hwn.
Tŷ Cerdd is a PRS Foundation Talent Development Partner in association with Youth Music