Mae 10 crewr cerddoriaeth yn cymryd rhan yn CoDI DIY – llwybr i artistiaid sydd heb gael addysg gerdd ôl-ysgol ffurfiol.
Mae Cara Ludlow, Francesca Murphy, Gwen Siôn, Hannah Ratigan, Heledd Evans, Jake A Griffiths, Josh Whyte (aka Blank Face), Kevin Ford, Nazia Sethi (aka Naziaaa), and Richard Thair wedi cael eu dewis ar gyfer CoDI DIY. Bydd pob artist a ddetholir yn cael ei dywys drwy’r broses ddatblygu gan fentor arweiniol (a ddetholir i weddu steil yr artist) dros gyfres o weithdai a sesiynau stiwdio (Caerdydd a Bangor, ynghyd â lleoliad yng nghanolbarth Cymru o bosib).
Bwriedir mai penllanw’r prosiect fydd digwyddiad / perfformiad / rhannu syniadau / gweithdy tîm yng ngwanwyn 2021, er bydd yr union fanylion yn dibynnu ar ffactorau gan gynnwys diddordebau’r artistiaid cyfranogol a’r sefyllfa sy’n datblygu o ran Covid-19.
Yn goruchwylio’r llwybr ochr yn ochr â Thŷ Cerdd bydd Pwyll ap Siôn, artist arweiniol CoDI DIY, sy’n ben ar yr holl broses o baru crewyr cerddoriaeth a mentoriaid. Mae profiad Pwyll fel cyfansoddwr a cherddor yn helaeth – o bop i glasurol – ac erbyn hyn mae’n gweithio fel rhan o’r tîm yn Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor.
AMSERLEN
-
Adnoddau’n cael eu hanfon at y cyfranogwyr: diwedd mis Gorffennaf
-
Gweithdai cychwynnol: mis Medi
-
Y perfformiad olaf/recordio: gwanwyn 2021
Tŷ Cerdd is a PRS Foundation Talent Development Partner in association with Youth Music