top of page

Yn dilyn proses ymgais comisiynwyd David Roche gan Tŷ Cerdd i ddod yn gyfansoddwr preswyl gyda chwmni cymunedol cynhwysol Hijinx, sef Odyssey, a chreu trac sain ar gyfer cynhyrchiad theatr gerdd Nadolig y cwmni. Cafodd yr unigolyn ei ddewis gan banel sy’n cynnwys cynrychiolydd o Hijinx, cynrychiolydd o Tŷ Cerdd sy’n gyfansoddwr a Chyfarwyddwr Tŷ Cerdd Deborah Keyser.

Gan weithio’n agos gydag awdur a chyfarwyddwr y sioe ac wedi’u cefnogi gan gyfansoddwr-fentor, datblygodd David sgôr dros y cyfnod ymarfer o fis Medi i fis Tachwedd, yn mynychu penwythnosau cynhyrchu’r theatr, yr ymarferion a’r sioeau yn ogystal â nifer sylweddol o’r sesiynau wythnosol.

Cwrddodd David gyda Jon Dafydd Kidd (Cyfarwyddwr) a Llinos Mai (Awdur) yn ystod haf 2018 i  drafod y broses llunio’r cynhyrchiad gyda chyfranogwyr Odyssey yn ystod tymor yr hydref.  Derbyniodd David fentora gan y cyfansoddwr John Hardy a chefnogaeth stiwdio, hyfforddiant cyhoeddi a mentora gyrfa gan Tŷ Cerdd.

bottom of page