top of page

Mae TÅ· Cerdd ar y cyd â Bandiau Pres Cymru / Brass Bands Wales

yn gwahodd ceisiadau ar gyfer

Cystadleuaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop 2024

Palangosks Koncertu, Palanga, Lithwania dydd Sul 5 Mai 2024

yn rhan o Bencampwriaethau Bandiau Pres Ewrop 2024

​

​

Gwahoddir pob gwlad sy’n aelod o Gymdeithas Bandiau Pres Ewrop (EBBA) i enwebu DAU fand ieuenctid i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, un i bob adran o’r digwyddiad. Mae dwy adran i’r gystadleuaeth, sef y Brif Adran (Premier) a’r Adran Ddatblygu. Ni fydd ffi i’w thalu i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ac mae’n debygol y bydd yn rhaid i’r bandiau gyflwyno eu rhaglen erbyn mis Mawrth 2024. Bydd EBBA yn cyhoeddi’r darnau gosod ar gyfer pob adran maes o law, a hynny mae’n debyg cyn 1 Rhagfyr 2023.

​

Gall bandiau yn y gystadleuaeth fod yn fandiau ieuenctid, bandiau ysgol, bandiau rhanbarthol, bandiau cenedlaethol neu’n ‘fandiau prosiect’ sydd â chyfuniad o chwaraewyr wedi’u dewis er mwyn ffurfio band i chwarae yn y gystadleuaeth. Fodd bynnag, gan y bydd pob band yn cynrychioli eu gwlad, RHAID i bob chwaraewr ym mhob band ddod o’r wlad honno.

​

Rhaid i bob band pres ieuenctid fod wedi’i ffurfio fel band pres Prydeinig safonol o ran offeryniaeth. Caiff bandiau ddefnyddio hyd at 50 o chwaraewyr, gan gynnwys yr offerynwyr taro.

 

Y beirniadu yn Palanga

Bydd dau feirniad a fydd yn gallu gweld perfformiadau’r bandiau. Bydd y beirniaid yn gwneud sylwadau ysgrifenedig ar bob perfformiad.

​

Bydd y ddau feirniad yn cymryd i ystyriaeth yr agweddau canlynol ar berfformiadau’r bandiau yn seiliedig ar:

  1. Rhagoriaeth gerddorol y perfformiad

  2. Ansawdd a chydbwysedd y rhaglen a chwaraeir

  3. Gwerth yr adloniant i gynulleidfa’r perfformiad

 

Y Brif Adran (22 oed neu iau ar 1 Ionawr 2024)

Bydd cymhwyso i gystadlu yn yr adran hon yn digwydd drwy’r Eisteddfod Genedlaethol a’r gystadleuaeth i Fandiau Pres Ieuenctid ym mis Awst 2023.

​

Mae’r adran hon ar gyfer bandiau ieuenctid yr aelodau hÅ·n. Dylai chwaraewyr fod yn 22 oed neu iau ar 1 Ionawr 2024. Bydd eich rhaglen yn hunanddewisiad i bara dim hirach na 25 munud o amser chwarae ac yn cynnwys darn gosod byr (tua 10-12 munud o hyd) ynghyd ag eitem yn cynnwys unawdydd o’r band (bydd gwobr am yr unawdydd gorau yn y Brif Adran).

​

​

Yr Adran Ddatblygu (18 oed neu iau ar 1 Ionawr 2024)

Bydd cymhwyso i gystadlu yn yr adran hon yn digwydd drwy lunio cais i TÅ· Cerdd a Bandiau Pres Cymru drwy’r ddolen hon (gweler isod i gael manylion llawn am y wybodaeth angenrheidiol i ymgeisio). Y panel asesu a fydd yn gwneud yr enwebiad fydd Andrew Jones (BPC/BBW), Graham Howe (cynrychiolydd EBBA Cymru) a Deborah Keyser (TÅ· Cerdd).

​

Mae’r adran hon ar gyfer bandiau ieuenctid sydd ag aelodau iau. Dylai chwaraewyr fod yn 18 oed neu’n iau ar 1 Ionawr 2024. Bydd eich rhaglen yn hunanddewisiad i bara dim hirach nag 20 munud o amser chwarae ac yn cynnwys darn gosod byr (tua 6-8 munud o hyd) ynghyd ag eitem yn cynnwys unawdydd o’r band (bydd gwobr am yr unawdydd gorau yn yr Adran Ddatblygu).​

 

I wneud cais i gystadlu yng Nghystadleuaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop 2024:

Adran Ddatblygu – 18 oed neu iau

Bydd angen i chi lanlwytho’r wybodaeth ganlynol i’n porth:

1. Manylion y band

Enw’r band; ystod oedran; prif gyswllt; cyfeiriad; ffôn; e-bost

2. Hanes y band / ansawdd

Beth ydych chi’n ystyried yw prif gyflawniadau’r band hyd yn hyn?
3. Dyheadau / manteision

Pam fod y band am gymryd rhan yng nghystadleuaeth Ewrop? Beth dybiech chi fyddai’r manteision o wneud hynny i’r band a’r bobl ifanc sy’n rhan o’r band?

4. Cyllid

Mae cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Bandiau Pres Ieuenctid Ewrop yn ddrud, ac mae angen sicrwydd arnom eich bod wedi ystyried sut y byddwch yn talu’r costau. Anfonwch gyllideb fer, ynghyd â manylion ynghylch sut yr ydych yn bwriadu ariannu’r gweithgaredd.

5. Recordiad fideo
Dolen at fideo o’r band wedi’i recordio yn y 12 mis diwethaf – yn para hyd at 20 munud

​

​

Dyddiad cau: 1700 ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023

​

Cyhoeddi’r penderfyniad: dydd Llun 7 Awst 2023

​

Ymholiadau: anfonwch e-bost at ymholiadau@tycerdd.org

​

YMGEISIWCH YMA

​

​

bottom of page