Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ar hyn of bryd mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru
promoting and celebrating the music of Wales
+44 (0)29 2120 2640
Canolfan Mileniwm Cymru / Wales Millennium Centre
Plas Bute / Bute Place • Caerdydd / Cardiff • CF10 5AL

Y ceisiadau swyddogol Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd ISCM 2024, yr Ynysoedd Ffaröe
Mae Tŷ Cerdd yn falch o gyhoeddi’r cyfansoddwyr a’r gweithiau sydd wedi’u dewis gan Adran Cymru yr ISCM (Cymdeithas Ryngwladol Cerddoriaeth Gyfoes) i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2024 yr ISCM, a gynhelir yn yr Ynysoedd Ffaröe, rhwng 22-30 Mehefin 2024.
Andrew Lewis, Andrew Wilson-Dickson, David Roche,
Eloise Gynn, John Metcalf a Leona Jones
Dewisodd panel Cymru chwe cyfansoddwr a gwaith cerddorol i fynd gerbron y rheithgor rhyngwladol:
Fantazia Upon One Note (2021) ar gyfer ffidil unawdol gydag electroneg cyfrwng sefydlog
"Rwy’n falch iawn o gael fy nghynnwys yng nghyfraniad Cymru i Ddiwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2024. Mae Cymru’n bwerdy o dalent gerddorol a chreadigedd, ac mae’r WNMD yn gyfle perffaith i arddangos ehangder a dyfnder cerddoriaeth newydd Cymru i gynulleidfa fyd-eang."
'String Quartet no. 2' (2020) ar gyfer pedwarawd llinynnol
"Rwyf wrth fy modd i gael fy ail bedwarawd llinynnol ar restr fer yr ISCM WNMD. Mae cael fy nghynnwys ar restr fer Cymru yn gwneud i mi deimlo o'r diwedd yn Gymro, er gwaethaf fy hynafiaeth Albanaidd. Mae’n rhyfeddol cael y posibilrwydd o gydnabyddiaeth gan fudiad sydd wedi hybu cerddoriaeth fy arwyr a’m dylanwadau cyfansoddiadol, yn ystod a chyn fy oes, rhy niferus i’w henwi."
A Prayer at the Edge of Silence (2021) ar gyfer pedwarawd llinynnol
“Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gynrychioli Cymru fel hyn. Mae ISCM yn cynnig llwyfannau rhyngwladol anhygoel ar gyfer cerddoriaeth newydd, ac mae eu hangen arnom yn fwy nag erioed. Mae ‘A Prayer on the Edge of Silence’ yn ddarn arbennig o bwysig i mi, felly mae gweld e’n derbyn cydnabyddiaeth fel hyn yn arbennig o wych - mae’n ddarn rwy’n ei garu’n fawr.”
Quietening (2020) ar gyfer soddgrwth unawdol
"Rydw i wrth fy modd i fod ar restr fer ISCM 2024. Mae’r gwaith mae Tŷ Cerdd yn ei wneud yn hynod werthfawr i fywyd cerddorol Cymru ac rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw a’r panel am y cyfle yma."
Towards Silence (2020) ar gyfer pedwarawd llinynnol
"Rwy’n arbennig o ddiolchgar am, ac yn gwerthfawrogi’n fawr, yr enwebiad hwn o fy mhedwarawd llinynnol ‘Towards Silence’ i’w ystyried ar gyfer perfformiad yn Niwrnod Cerddoriaeth Newydd y Byd ISCM ym mis Mehefin 2024. Mae’n rhoi’r cyfle i mi ailadrodd fy niolch i gomisiynydd preifat y gwaith, Carol Nixon - yr oedd ei chefnogaeth a’i hymrwymiad yn ganolog i lunio’r darn. Ar ei chais hi, roedd un amod – sef bod y gwaith mewn rhyw ffordd yn adlewyrchu’r pwnc brys o ddiflannu rhywogaethau. Agenda prudd yn sicr. Help mawr oedd perfformiad bendigedig Pedwarawd Llinynnol Solem, gyda'u grefft gerddorol wych yn rhan annatod wrth ddod â’r gwaith newydd hwn yn fyw."
in(ex)teriors (2020) - gosodwaith sain 4-sianel
"Rwyf wedi bod yn edmygydd ers tro o’r awdur arswyd/uwch-naturiol a aned yng Ngwent, Arthur Machen, a’i arddull gerddorol eithriadol. Crëwyd in(ex)teriors yn wreiddiol ar gyfer symposiwm o gyfansoddiadau arbrofol a ysbrydolwyd gan lên hudol a gwerinol Cymru, ond rhwystrodd y pandemig i’r gwaith gael ei gyflwyno yn y ffurf gosodiad sain fel y bwriaded. Roedd yn wefreiddiol cael gwybod ei fod bellach wedi'i ddewis i'w gyflwyno i ISCM. Roeddwn bob amser yn ei ragweld fel profiad sonig aml-sianel ymdrochol ac efallai y daw’r cyfle nawr i greu’r fersiwn 4-sianel y gallwn ei ‘glywed’ bob amser. Mae nofel Machen, 'The Hill of Dreams', yn un rydw i wedi dychwelyd ati droeon, ac roedd gwneud recordiadau sain o leoliadau y byddai wedi cerdded – ac wedi meddwl – ynddynt yn ysbrydoledig. Mae ei themâu o ddadleoliad a chwestiynau dwys yn atseinio trwy ein dyddiau danheddog. Yn fwy nag erioed mae angen i ni wrando ar, a theimlo, cryfder dychymyg dynol a thirwedd naturiol. Rwyf mor falch y bydd y gwaith hwn, a ysgogwyd gan fy ymateb i ysgrifennu pwerus Machen, yn cael ei wrando arno gan aelodau ISCM o bob rhan o’r byd."
Bydd o leiaf un o’r chwe darn sydd yn ein cais cenedlaethol yn cael ei berfformio yn ystod yr ŵyl (gall y rheithgor rhyngwladol, fodd bynnag, ddewis mwy nag un).
Derbyniwyd dros 30 cais gan gyfansoddwyr Cymreig ac o Gymru, ar draws 12 categori. Bydd Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd 2024 yn rhoi llwyfan pwysig i’r cyfansoddwr dethol, ac yn gyfle allweddol i broffil Cymru, ei chyfansoddwyr a’r maes cerddoriaeth newydd.
Cafodd y rheithgor eu synnu gan nifer ac ansawdd y ceisiadau a chan amrywiaeth yr arddull, gan roi cipolwg trawiadol ar yr ystod o waith sy’n cael ei lunio yng Nghymru, a thu hwnt, gan gyfansoddwyr a chrewyr cerddoriaeth Cymreig.
Adran Cymru’r ISCM
Mae ISCM Cymru yn bodoli er mwyn hyrwyddo amcanion yr ISCM, yng Nghymru ac mewn cydweithrediad ag adrannau Prydain, Iwerddon, Yr Alban ac adrannau rhyngwladol eraill. Nod y Gymdeithas yw hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes a chodi’i phroffil cyhoeddus drwy rwydweithio effeithiol yn fyd-eang, cyfathrebu a hwyluso gweithgareddau amlochrog rhwng yr aelodau. Ei chenhadaeth yw:
-
Codi proffil cerddoriaeth gyfoes drwy nerth torfol rhwydwaith byd-eang y Gymdeithas a chyfansoddiad ei haelodaeth.
-
Hyrwyddo amlygu, perfformio ac ymchwilio i gerddoriaeth gyfoes drwy fentrau gan ei haelodaeth, yn ogystal â chydweithredu â chyrff cysylltiedig.
-
Arddangos amrywiaeth cerddoriaeth gyfoes yn fyd-eang drwy Ŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd